Gorllewin Swydd Northampton
Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr |
---|---|
Poblogaeth | 429,013 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Northampton (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.25°N 1°W |
Cod SYG | E06000062 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of West Northamptonshire Council |
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Northampton, Dwyrain Canolbarth Lloegr, yw Gorllewin Swydd Northampton (Saesneg: West Northamptonshire).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 1,377 km², gyda 406,733 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2020.[1] Mae'n ffinio â Gogledd Swydd Northampton i'r gogledd-ddwyrain, yn ogystal â siroedd Swydd Buckingham i'r de-ddwyrain, Swydd Rydychen i'r de-orllewin, Swydd Warwick i'r gorllewin, a Swydd Gaerlŷr i'r gogledd-orllewin.
Ffurfiwyd yr ardal fel awdurdod unedol ar 1 Ebrill 2021[2] pan unwyd y tair ardal an-fetropolitan Ardal Daventry, Ardal De Swydd Northampton a Bwrdeistref Northampton, a oedd gynt dan weinyddiaeth yr hen sir an-fetropolitan Swydd Northampton.
Mae ei phencadlys yn nhref Northampton. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Brackley, Daventry a Towcester.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 23 Awst 2021
- ↑ The Northamptonshire (Structural Changes) Order 2019; Gwefan deddfwriaeth.gov.uk; adalwyd 23 Awst 2021