Golwg ar y Beiau
Gwedd
Llyfr Cymraeg gan Jeremy Owen (bl. 1704-1744) yw Golwg ar y Beiau, a gyhoeddwyd yn 1732 neu 1733.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Yn y llyfr hwn ceir ymateb Jeremy Owen i'r rhwyg yn yr eglwys Bresbyteraidd yn ardal Henllan Amgoed, Ceredigion, a'r cylch a arweiniodd at un o ddadleuon diwinyddol poethaf y 18g, rhwng pleidwyr Uchel ac Isel Calfiniaeth. Ystyrir y llyfr bychan hwn yn glasur o'r cyfnod am "ragoriaeth ei Gymraeg cyhyrog".[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Testun
[golygu | golygu cod]- Golwg ar y Beiau (1732-33)
- Adargraffiad, wedi ei olygu gan R. T. Jenkins (Caerdydd, 1950)
Astudiaeth
[golygu | golygu cod]Ceir ysgrif gan Saunders Lewis ar waith Jeremy Owen, yn cynnwys Golwg ar y Beiau, yn y gyfrol Meistri'r Canrifoedd (Caerdydd, 1973).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).