Giovanni Gentile
Giovanni Gentile | |
---|---|
Ganwyd | Giovanni Gentile 29 Mai 1875 Castelvetrano |
Bu farw | 15 Ebrill 1944 Q3946277, Fflorens |
Dinasyddiaeth | Teyrnas yr Eidal |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, addysgwr, gwleidydd, academydd, beirniad llenyddol |
Swydd | minister of Public Education of the Kingdom of Italy, Director of the Scuola Normale Superiore, Director of the Scuola Normale Superiore, Director of the Scuola Normale Superiore, seneddwr ym Mrenhiniaeth yr Eidal |
Cyflogwr | |
Prif ddylanwad | Georg Hegel |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ffasgaidd Genedlaethol |
Mudiad | Hegelianism |
Tad | Benedetto Gentile |
Priod | Erminia Nudi |
Plant | Giovanni Gentile, Federico Gentile |
Gwobr/au | Serena Medal, Gautieri Award, Order of the German Eagle |
Athronydd, gwleidydd, addysgwr, a golygydd o'r Eidal oedd Giovanni Gentile (30 Mai 1875 – 15 Ebrill 1944) a fu'n feddyliwr blaenllaw yn y mudiad ffasgaidd ac athroniaeth idealaidd yn yr Eidal.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed yn Castelvetrano yng ngorllewin Sisili ar 30 Mai 1875. Astudiodd yn y Scuola Normale Superiore yn Pisa. Cyhoeddodd ei weithiau cyntaf yn niwedd y 1890au, gan gynnwys La filosofia di Marx (1899). Cyfarfu â Benedetto Croce, ac o 1903 i 1922 cyd-olygasant y cyfnodolyn La Critica. Buont yn gyfeillion nes iddynt anghytuno dros ffasgaeth yn 1924.[1]
Penodwyd Gentile yn athro hanes athroniaeth ym Mhrifysgol Rhufain yn 1917. Gweithiodd yn swydd gweinidog addysg yn llywodraeth Benito Mussolini o Hydref 1922 i Orffennaf 1924 ac aeth ati i ddiwygio'r gyfundrefn addysg yn yr Eidal. Gwasanaethodd yn llywydd i ddau gomisiwn ar ddiwygio cyfansoddiadol yn 1925.[1]
Gweithiodd hefyd yn llywydd y Cyngor Goruchaf dros Addysg Gyhoeddus (1926–28) ac yn aelod o'r Uchel Gyngor Ffasgaidd (1925–29). Yn 1925, dechreuodd gynllunio'r Enciclopedia Italiana, cywaith ysgolheigaidd a olygwyd ganddo o'r argraffiad cyntaf yn 1936 hyd at 1943. Yn sgil cwymp llywodraeth Mussolini yn 1943, rhodd Gentile ei gefnogaeth i'r Weriniaeth Sosialaidd Ffasgaidd yn Salò a fe'i penodwyd yn llywydd Academi'r Eidal. Llofruddiwyd Gentile gan gomiwnyddion yn Fflorens ar 15 Ebrill 1944, yn 68 oed.[1]
Athroniaeth
[golygu | golygu cod]Dylanwadwyd ar ei athroniaeth idealaidd yn gryf gan G. W. F. Hegel a syniadaeth y dilechdid. Yn ôl Gentile, rhennir natur ddynol yn ewyllys arbennig yr unigolyn ac ewyllys gyffredinol y gymuned. Dadleuodd bod cyfundrefn ffasgaidd yn gyfiawnach na democratiaeth ryddfryddol a chomiwnyddiaeth er uno'r gymuned.
Llyfryddiaeth ddethol
[golygu | golygu cod]- La filosofia di Marx (1899).
- Teoria generale dello spirito come atto puro (1916).
- Le origini della filosofia contemporanea in Italia 4 cyfrol (1917–23).
- La riforma dell’educazione (1920).
- La filosofia dell’arte (1931).
- La mia religione (1943).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Giovanni Gentile. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Tachwedd 2019.