George Noakes
Gwedd
George Noakes | |
---|---|
Ganwyd | 13 Medi 1924 Ceredigion |
Bu farw | 14 Gorffennaf 2008 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | esgob |
Roedd George Noakes (13 Medi 1924 – 14 Gorffennaf 2008) yn Esgob Tyddewi rhwng 1982 a 1991 ac yn Archesgob Cymru o 1987 hyd 1991.
Ganed ef ym Mwlchllan, Ceredigion. Graddiodd o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth cyn mynd i Neuadd Wycliffe, Rhydychen. Daeth yn giwrad cynorthwyol yn Llanbedr Pont Steffan, yna'n ficer yn Eglwyswrw a Meline ac wedyn yn Nhregaron cyn dod yn ficer Eglwys Dewi Sant yng Nghaerdydd.
Apwyntiwyd ef yn Archddiacon Aberteifi, yna daeth yn Esgob Tyddewi yn 1982. Ymddeolodd yn 1991.
Rhagflaenydd: Eric Matthias Roberts |
Esgob Tyddewi 1982 – 1995 |
Olynydd: David Huw Jones |
Rhagflaenydd: Derrick Greenslade Childs |
Archesgob Cymru 1987 – 1991 |
Olynydd: Alwyn Rice Jones |