Neidio i'r cynnwys

Geoffrey Howe

Oddi ar Wicipedia
Geoffrey Howe
Ganwyd20 Rhagfyr 1926 Edit this on Wikidata
Port Talbot Edit this on Wikidata
Bu farw9 Hydref 2015 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Swydd Warwick Edit this on Wikidata
Man preswylCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfreithegwr, gwleidydd, diplomydd, gweinidog Edit this on Wikidata
SwyddDirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Arweinydd y Tŷ Cyffredin, Arglwydd Lywydd y Cyngor, Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a'r Gymanwlad, Canghellor y Trysorlys, Canghellor y Trysorlys yr Wrthblaid, Cyfreithiwr Cyffredinol dros Gymru a Lloegr, Gweinidog dros Fasnach, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Shadow Secretary of State for Health and Social Care, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadBenjamin Edward Howe Edit this on Wikidata
MamE. F. Thomson Edit this on Wikidata
PriodElspeth Howe Edit this on Wikidata
PlantCaroline Howe, Alexander Edward Thomson Howe, Amanda Howe Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Gwleidydd Ceidwadol Prydeinig a aned yng Nghymru oedd Richard Edward Geoffrey Howe, Barwn Howe o Aberafan (20 Rhagfyr 1926 - 9 Hydref 2015).

Gwasanaethodd fel Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn llywodraeth Margaret Thatcher rhwng 1989 a 1990. Yn aelod o'r Blaid Geidwadol, ef oedd gweinidog Cabinet hiraf Margaret Thatcher, gan ddal swyddi canghellor y Trysorlys, ysgrifennydd tramor, ac arweinydd Tŷ'r Cyffredin, dirprwy brif weinidog ac Arglwydd Lywydd y Cyngor (swyddog llywyddol Cyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig).[1] Ystyrir gan lawer i'w ymddiswyddiad ar 1 Tachwedd 1990 ysgogi’r her i'r arweinyddiaeth a arweiniodd at ymddiswyddiad Thatcher dair wythnos yn ddiweddarach.

Ganed Howe ym Mhort Talbot, Cymru, a chafodd ei addysg yn Ysgol Pen-y-bont ar Ogwr, Ysgol Abberley Hall, Ngholeg Caerwynt a Neuadd y Drindod, Caergrawnt, lle darllenodd y gyfraith. Cafodd ei alw i'r bar yn 1952 a bu'n ymarfer yng Nghymru. Wedi hynny cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Ceidwadol (AS) Bebington yn 1964, ond collodd ei sedd yn 1966, gan ddychwelyd i'r bar. Daeth Howe yn AS eto yn etholiad cyffredinol 1970 a chynrychiolodd etholaethau amrywiol yn Nhŷ’r Cyffredin tan 1992. Yn Llywodraeth Edward Heath yr oedd yn gyfreithiwr cyffredinol ac yn weinidog gwladol; wedi buddugoliaeth Llafur yn 1974, daeth Howe yn ganghellor cysgodol y Trysorlys yng nghabinet cysgodol Margaret Thatcher.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Hendrie Oakshott
Aelod Seneddol dros Bebington
19641966
Olynydd:
Edwin Brooks
Rhagflaenydd:
John Vaughan-Morgan
Aelod Seneddol dros Reigate
19701974
Olynydd:
George Gardiner
Rhagflaenydd:
William Clark
Aelod Seneddol dros Ddwyrain Surrey
19741992
Olynydd:
Peter Ainsworth
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Denis Healey
Canghellor y Trysorlys
5 Mai 197911 Mehefin 1983
Olynydd:
Nigel Lawson
Rhagflaenydd:
Francis Pym
Ysgrifennydd Tramor
11 Mehefin 198324 Gorffennaf 1989
Olynydd:
John Major
Rhagflaenydd:
Gwag /
William Whitelaw
(hyd 1988)
Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig
24 Gorffennaf 19891 Tachwedd 1990
Olynydd:
Gwag /
Michael Heseltine
(o 1995)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Glen Segell (1998). The Defence Industrial Base and Foreign Policy (yn Saesneg). Glen Segell. t. 58. ISBN 9781901414127.
Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.