Geoff Lawton
Geoff Lawton | |
---|---|
Ganwyd | 10 Rhagfyr 1954 Stoke-on-Trent |
Dinasyddiaeth | Awstralia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwyddonydd |
Gwefan | https://www.geofflawtononline.com/ |
Cynllunydd, athro, ymgynghorydd a siaradwr ar faterion paramaethu o Awstralia yw Geoff Lawton (ganed 10 Rhagfyr 1954 yn Stoke-on-Trent, Swydd Stafford). Ers 1995 mae wedi arbenigo mewn addysgu, gweithredu, sefydlu systemau, gweinyddu a datblygu cymuned paramaethyddol.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ers 1985, mae Lawton wedi ymgymryd â nifer fawr o swyddi ymgynghorol, dysgu a gweithredu syniadaeth paramaethu (a elwir hefyd yn permamaeth yn y Gymraeg) mewn dros 30 gwlad.[1][2]
Yn y 1990au, dechreuodd ar waith ail-wrteithio ac adnewyddu'n amgycheddol rhan o anialwch hallt Gwlad yr Iorddonen ger y Môr Marw. Llwyddwyd i adnewyddu'r tir trwy ddulliau paramaethu a ddatblygwyd ganddo. Parhaodd ei waith wedyn o dan oruchwyliaeth y Dywysoges Basma bint Talal o'r Iorddonen.
Mae ganddo berthynas broffesiynol agos â John D. Liu, gwneuthurwr ffilm ac ymchwilydd Sino-Americanaidd, a wnaeth ddogfennau am ailgyflunio rhan o'r llwyfandir mariandir (loess plateau) Huangtu, rhanbarth yr maint â Gwlad Belg, yn Tsieina. Yn dilyn ymdrechion ffermwyr, ymchwilwyr ac ymchwilwyr, llywodraeth leol gan ddilyn canllawiau paramaethu, llwyddwyd i adnewyddu'r tir oedd wedi troi'n ddiffaith drwy gor-bori an-wyddonol a diffyg gofal, i dir ffrwythlonach a mwy chynaliadwy. Ymddangosodd Geoff Lawton mewn ffilm ddogfen ddogfen "Hope in a Changing Climate" gan John D. Liu.[3]
Mae Lawton wedi profi llwyddiant gyda phrosect i ail-ffrwythloni ardal o Wadi Rum yng Ngwlad yr Iorddonen. Llwyddwyd, trwy ddulliau paramaethu i ail-wrtheithio'r tir ac yna ei ail-ffrwythlonni trwy greu ecosystem paramaethu.[4][5] Mae hefyd wedi chwarae rhan weithredol ar addysgu Neal Spackman sylfaenydd Prosiect Al Baydha yn Sawdi Arabia i adnewyddu'r tir ac harnesu'r dŵr prin sy'n disgyn yn y llecyn tir lled-anialwch i'r de ddwyrain o ddinas Meca.
Gwaith
[golygu | golygu cod]- Lawton, Geoff. "Brick and Tile Permaculture" (PDF). Permaculture International Journal No. 51. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-04-16. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2017.
- "The Sleeping Jaguar" (co-author), Permaculture International Journal
- "Ecuador" (co-author), Permaculture International Journal
- "Permaculture Aid in the Balkans", Permaculture International Journal
- "Future Food Security", Green Connections
Ffilmiau Dogfen
[golygu | golygu cod]- Harvesting Water the Permaculture Way (2007)
- Establishing a Food Forest (2008)
- Introduction to Permaculture Design (2009)
- Greening The Desert II (2009)[6]
- Permaculture Soils (2010)
- Urban Permaculture (2011)
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- The Permaculture Research Institute Australia won the Humanitarian Water & Food Award, 2010 am fenter "Greening the Desert".[7]
- The Permaculture Research Institute and founder Geoff Lawton, based in Australia, enillwyr yr Energy Globe Award.[8]
- The Permaculture Research Institute recognised with UNCCD Accreditation[9]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Isaacs, Guineith (20 March 2015). "Permaculture Creates an Oasis in the Middle East". Guardian Liberty Voice. Cyrchwyd 3 March 2016.
- ↑ Grover, Sami (14 October 2010). "Permaculture Greens the Jordanian Desert, But Why Are People Wary? (Video)". TreeHugger. Cyrchwyd 3 March 2016.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-29. Cyrchwyd 2018-12-11.
- ↑ "From Desert to Oasis in 4 Years". permaculturenews.org. 1 Chwefror 2014. Cyrchwyd 3 Mawrth 2016. Italic or bold markup not allowed in:
|website=
(help) - ↑ "Energy self-sufficiency on a Scottish island, gardens in the sky, flushing with pride and restoring the Jordan Valley". Al Jazeera. 7 Gorffennaf 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-06. Cyrchwyd 3 Mawrth 2016.
- ↑ "Greening the Desert II". permaculturenews.org. 11 December 2009. Cyrchwyd 3 March 2016. Italic or bold markup not allowed in:
|website=
(help) - ↑ "The Permaculture Research Institute 2010 Award Winner". wafaward.org. The Humanitarian Water and Food Award Website. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 3 March 2016. Italic or bold markup not allowed in:
|website=
(help) - ↑ "Geoff Lawton & Permaculture Research Institute Win Prestigious Energy Globe Award". Permaculture Magazine. 10 Gorffennaf 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-08-18. Cyrchwyd 3 Mawrth 2016.
- ↑ "The Permaculture Research Institute recognised with UNCCD". permaculturenews.org. 1 Ionawr 2016. Cyrchwyd 3 Mawrth 2016. Italic or bold markup not allowed in:
|website=
(help)