Gemau rhagbrofol UEFA yng Nghwpan y Byd FIFA 2022
Enghraifft o'r canlynol | qualification event |
---|---|
Dyddiad | 2022 |
Rhan o | 2022 FIFA World Cup qualification |
Dechreuwyd | 24 Mawrth 2021 |
Rhagflaenwyd gan | 2018 FIFA World Cup qualification (UEFA) |
Olynwyd gan | 2026 FIFA World Cup qualification (UEFA) |
Lleoliad | Ewrop |
Yn cynnwys | 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group A, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group B, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group C, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group D, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group E, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group F, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group G, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group H, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group I, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group J |
Mae adran Ewropeaidd o gystadleuaeth Cwpan y Byd FIFA 2022 yn gweithredu fel gemau rhagbrofol (neu 'gemau cymhwyso') ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022, sydd i'w gynnal yn Qatar, ar gyfer timau cenedlaethol sy'n aelodau o Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Ewropeaidd (UEFA).[1] Mae cyfanswm o 13 slot yn y twrnamaint olaf ar gael i dimau UEFA.[2]
Er gwaethaf rhwystrau COVID-19, disgwylir iddo gymryd lle yn Qatar rhwng 21 Tachwedd a 18 Rhagfyr 2022. Dyma fydd y Cwpan Byd cyntaf erioed i gael ei gynnal yn y byd Arabaidd,[3] a hwn fydd yr ail Gwpan y Byd a gynhelir yn gyfan gwbl yn Asia ar ôl cynnal twrnamaint 2002 yn Ne Korea a Japan. Y twrnamaint fydd yr olaf i gynnwys 32 o dimau, gyda chynnydd i 48 tîm wedi'i drefnu ar gyfer twrnamaint 2026 yn yr Unol Daleithiau, Mecsico a Chanada. Y pencampwr cyfoes (yn dilyn Cwpan y Byd Pêl-droed 2018 yw Ffrainc.[4]
Oherwydd gwres llethol yn Qatar yn yr haf, cynhelir y Cwpan Byd hwn rhwng diwedd mis Tachwedd a chanol mis Rhagfyr, gan ei gwneud y twrnamaint cyntaf i beidio â chael ei gynnal ym mis Mai, Mehefin, neu Orffennaf; mae i'w chwarae o fewn amserlen lai o oddeutu 28 diwrnod.[5]
Ymgeiswyr
[golygu | golygu cod]Ymunodd pob un o'r 55 tîm cenedlaethol cysylltiedig FIFA o UEFA yn y rownd cymhwyso hy a fyddant yn ennill lle yn y rownd terfynnol yn Qatar.
Ar 9 Rhagfyr 2019, rhoddodd Asiantaeth Gwrth Gyffuriau'r Byd waharddiad pedair blynedd i Rwsia i ddechrau o bob digwyddiad chwaraeon mawr, ar ôl i RUSADA (Russian Anti-Doping Agency) fethu â throsglwyddo data labordy i arolygwyr.[6] Fodd bynnag, gall tîm cenedlaethol Rwsia ddal i gystadlu, gan fod y gwaharddiad ond yn berthnasol i'r twrnamaint olaf i benderfynu pencampwyr y byd. Roedd dyfarniad WADA yn caniatáu i athletwyr nad oeddent yn ymwneud â dopio gystadlu, ond gwaharddwyd defnyddio baner ac anthem Rwsia mewn digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr.[7] Cafodd apêl i'r Llys Cyflafareddu dros Chwaraeon ei ffeilio,[8] ond cadarnhawyd penderfyniad WADA ond gostyngwyd y gwaharddiad i ddwy flynedd.[9] Roedd dyfarniad CAS hefyd yn caniatáu i'r enw "Rwsia" gael ei arddangos ar wisgoedd os yw'r geiriau "Neutral Athlete" neu "Neutral Team" yr un mor amlwg.[10] Os yw Rwsia yn gymwys ar gyfer y twrnamaint, ni fydd ei chwaraewyr yn cael defnyddio enw, baner nac anthem eu gwlad yng Nghwpan y Byd, o ganlyniad i'r gwaharddiad dwy flynedd.[10]
Fformat
[golygu | golygu cod]Cadarnhawyd fformat y gemau rhagbrofol gan Bwyllgor Gweithredol UEFA yn ystod eu cyfarfod yn Nyon, y Swistir, ar 4 Rhagfyr 2019.[11][12] Bydd cymhwyso'n dibynnu, yn rhannol, ar ganlyniadau Cynghrair y Cenhedloedd UEFA 2020–21, er i raddau llai nag yn UEFA Euro 2020. Bydd fformat y rhagbrofion hyn yn cynnal strwythur arferol UEFA, sef dau gam: cam grwpiau a 'cham y gemau ail gyfle (playoffs)'.[13][14][15]
- Cam grwpiau: 5 grŵp o 5 tîm a 5 grŵp o 6 thîm (gyda'r 4 tîm sy'n gwneud Rowndiau Terfynol Cynghrair Cenhedloedd UEFA 2021 yn y grwpiau llai). Bydd enillwyr grŵp yn gymwys ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan y Byd.
- Cam ail-chwarae: Bydd dau enillydd grŵp Cynghrair y Cenhedloedd gorau yn ymuno â'r 10 sy'n ail yn y grŵp, yn seiliedig ar safle cyffredinol Cynghrair y Cenhedloedd, sy'n gorffen y tu allan i ddau uchaf eu grŵp cymwys. Bydd y 12 tîm hyn yn cael eu tynnu i mewn i dri llwybr ail-chwarae, gan chwarae dwy rownd o gemau ail-chwarae un-gêm (rownd gynderfynol gyda'r timau cartref i'w dethol, ac yna rowndiau terfynol, gyda'r timau cartref i'w tynnu). Bydd y tri enillydd llwybr yn gymwys ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan y Byd.
Ar 4 Rhagfyr 2019, cymeradwyodd Pwyllgor Gweithredol UEFA dechrau defnyddio'r system dyfarnwr cynorthwyydd fideo (VAR) ar gyfer y gemau cymhwyso.[13] Fodd bynnag, ni weithredwyd VAR ar ddechrau'r gemau rhagbrofol oherwydd effaith y pandemig COVID-19.[16] Ar 5 Awst 2021, cyhoeddodd UEFA y byddai'r system VAR yn cael ei defnyddio ar gyfer gweddill y gemau, gan ddechrau ym Medi 2021.[17]
Amserlen
[golygu | golygu cod]Isod mae amserlen y gemau rhagbrofol Ewropeaidd ar gyfer Cwpan y Byd 2022 FIFA. Newidiwyd hon o'r gwreiddiol oherwydd y Gofid Mawr.[12]
Rownd | Diwrnod Chwarae | Dyddiadau |
---|---|---|
Rownd gyntaf (cam grŵp) |
Dydd chwarae 1 | 24–25 Mawrth 2021 |
Dydd chwarae 2 | 27–28 Mawrth 2021 | |
Dydd chwarae 3 | 30–31 Mawrth 2021 | |
Dydd chwarae 4 | 1–2 Medi 2021 | |
Dydd chwarae 5 | 4–5 Medi 2021 | |
Dydd chwarae 6 | 7–8 Medi 2021 | |
Dydd chwarae 7 | 8–9 Hydref 2021 | |
Dydd chwarae 8 | 11–12 Hydref 2021 | |
Dydd chwarae 9 | 11–13 Tachwedd 2021 | |
Dydd chwarae 10 | 14–16 Tachwedd 2021 | |
Ail rownd (gemau ail gyfle) |
Rownd gynderfynol | 24 Mawrth 2022 |
Rowndiau Terfynol | 29 Mawrth 2022 |
Rownd gyntaf
[golygu | golygu cod]Detholion (seeding)
[golygu | golygu cod]Dyrannwyd timau i botiau dethol fel a ganlyn (Tachwedd 2020 Rhestr Detholion y Byd FIFA a ddangosir yn yr ail golofn; mae'r timau cenedlaethol sydd wedi cymhwyso ar gyfer y twrnamaint olaf wedi'u cyflwyno mewn print trwm; mae'r timau cenedlaethol a fydd yn cymryd rhan yn y gemau ail gyfle yn cael eu cyflwyno mewn italig).[18][19]
|
|
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|
Crynodeb
[golygu | golygu cod]Cymhwysodd enillydd pob grŵp yn uniongyrchol ar gyfer Cwpan y Byd Pêl-droed 2022 Bydd yr ail o bob grŵp a dau enillydd grŵp gorau Cynghrair y Cenhedloedd yn symud ymlaen i'r ail rownd (gemau ail gyfle) Cafodd timau eraill eu dileu ar ôl y rownd gyntaf
Grŵp A | Grŵp B | Grŵp C | Grŵp D | Grŵp E | Grŵp F | Grŵp G | Grŵp H | Grŵp I | Grŵp J |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Serbia |
Sbaen |
Y Swistir |
Ffrainc |
Gwlad Belg |
Denmarc |
Yr Iseldiroedd |
Croatia |
Lloegr |
Yr Almaen |
Portiwgal |
Sweden |
yr Eidal |
Wcrain |
Cymru |
yr Alban |
Twrci |
Rwsia |
Gwlad Pwyl |
Macedonia |
Gweriniaeth Iwerddon |
Gwlad Groeg |
Gogledd Iwerddon |
Y Ffindir |
Y Weriniaeth Tsiec |
Israel |
Norwy |
Slofacia |
Albania |
Rwmania |
Lwcsembwrg |
Georgia |
Bwlgaria |
Bosnia-Hertsegofina |
Estonia |
Awstria |
Montenegro |
Slofenia |
Hwngari |
Armenia |
Aserbaijan |
Kosovo |
Lithwania |
Casachstan |
Belarws |
Ynysoedd Ffaro |
Latfia |
Cyprus |
Andorra |
Gwlad yr Iâ |
Moldofa |
Gibraltar |
Malta |
San Marino |
Liechtenstein |
Grwpiau
[golygu | golygu cod]Cadarnhawyd y rhestr gemau gan UEFA ar 8 Rhagfyr 2020, drannoeth tynnu'r rhestr.[20][21][22] Roedd Qatar wedi'i phartneru â Grŵp A pum tîm, a alluogodd gwesteiwyr Cwpan y Byd FIFA 2022 i chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn y gwledydd hyn ar eu dyddiadau gemau "sbâr". Fodd bynnag, nid oedd y gemau cyfeillgar hyn yn cyfrif yn y grwpiau rhagbrofol.[23][24]
Grwp A
[golygu | golygu cod]Saf | Tim | Chw | En | Cyf | Coll | GF | GA | GGw | Pt | Wedi cymhwyso | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Serbia | 8 | 6 | 2 | 0 | 18 | 9 | 9 | 20 | Do, ar gyfer Cwpan y Byd | — | 2–2 | 3–2 | 4–1 | 3–1 | |
2 | Portiwgal | 8 | 5 | 2 | 1 | 17 | 6 | 11 | 17 | Ymlaen i'r gemau ail gyfle | 1–2 | — | 2–1 | 5–0 | 1–0 | |
3 | Iwerddon | 8 | 2 | 3 | 3 | 11 | 8 | 3 | 9 | 1–1 | 0–0 | — | 0–1 | 1–1 | ||
4 | Lwcsembwrg | 8 | 3 | 0 | 5 | 8 | 18 | −10 | 9 | 0–1 | 1–3 | 0–3 | — | 2–1 | ||
5 | Aserbaijan | 8 | 0 | 1 | 7 | 5 | 18 | −13 | 1 | 1–2 | 0–3 | 0–3 | 1–3 | — |
Grwp B
[golygu | golygu cod]Saf | Tim | Chw | En | Cyf | Coll | GF | GA | GGw | Pt | Wedi cymhwyso | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Sbaen | 8 | 6 | 1 | 1 | 15 | 5 | 10 | 19 | Do, ar gyfer Cwpan y Byd | — | 1–0 | 1–1 | 4–0 | 3–1 | |
2 | Sweden | 8 | 5 | 0 | 3 | 12 | 6 | 6 | 15 | Ymlaen i'r gemau ail gyfle | 2–1 | — | 2–0 | 1–0 | 3–0 | |
3 | Gwlad Groeg | 8 | 2 | 4 | 2 | 8 | 8 | 0 | 10 | 0–1 | 2–1 | — | 1–1 | 1–1 | ||
4 | Georgia | 8 | 2 | 1 | 5 | 6 | 12 | −6 | 7 | 1–2 | 2–0 | 0–2 | — | 0–1 | ||
5 | Kosovo | 8 | 1 | 2 | 5 | 5 | 15 | −10 | 5 | 0–2 | 0–3 | 1–1 | 1–2 | — |
Grwp C
[golygu | golygu cod]Saf | Tim | Chw | En | Cyf | Coll | GF | GA | GGw | Pt | Wedi cymhwyso | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Y Swistir | 8 | 5 | 3 | 0 | 15 | 2 | 13 | 18 | Do, ar gyfer Cwpan y Byd | — | 0–0 | 2–0 | 4–0 | 1–0 | |
2 | yr Eidal | 8 | 4 | 4 | 0 | 13 | 2 | 11 | 16 | Ymlaen i'r gemau ail gyfle | 1–1 | — | 2–0 | 1–1 | 5–0 | |
3 | Gogledd Iwerddon | 8 | 2 | 3 | 3 | 6 | 7 | −1 | 9 | 0–0 | 0–0 | — | 0–0 | 1–0 | ||
4 | Bwlgaria | 8 | 2 | 2 | 4 | 6 | 14 | −8 | 8 | 1–3 | 0–2 | 2–1 | — | 1–0 | ||
5 | Lithwania | 8 | 1 | 0 | 7 | 4 | 19 | −15 | 3 | 0–4 | 0–2 | 1–4 | 3–1 | — |
Grwp D
[golygu | golygu cod]Saf | Tim | Chw | En | Cyf | Coll | GF | GA | GGw | Pt | Wedi cymhwyso | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Ffrainc | 8 | 5 | 3 | 0 | 18 | 3 | 15 | 18 | Do, ar gyfer Cwpan y Byd | — | 1–1 | 2–0 | 1–1 | 8–0 | |
2 | Wcrain | 8 | 2 | 6 | 0 | 11 | 8 | 3 | 12 | Ymlaen i'r gemau ail gyfle | 1–1 | — | 1–1 | 1–1 | 1–1 | |
3 | Y Ffindir | 8 | 3 | 2 | 3 | 10 | 10 | 0 | 11 | 0–2 | 1–2 | — | 2–2 | 1–0 | ||
4 | Bosnia-Hertsegofina | 8 | 1 | 4 | 3 | 9 | 12 | −3 | 7 | 0–1 | 0–2 | 1–3 | — | 2–2 | ||
5 | Casachstan | 8 | 0 | 3 | 5 | 5 | 20 | −15 | 3 | 0–2 | 2–2 | 0–2 | 0–2 | — |
Grwp E
[golygu | golygu cod]Saf | Tim | Chw | En | Cyf | Coll | GF | GA | GGw | Pt | Wedi cymhwyso | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Gwlad Belg | 8 | 6 | 2 | 0 | 25 | 6 | 19 | 20 | Do, ar gyfer Cwpan y Byd | — | 3–1 | 3–0 | 3–1 | 8–0 | |
2 | Cymru | 8 | 4 | 3 | 1 | 14 | 9 | 5 | 15 | Ymlaen i'r gemau ail gyfle | 1–1 | — | 1–0 | 0–0 | 5–1 | |
3 | Y Weriniaeth Tsiec | 8 | 4 | 2 | 2 | 14 | 9 | 5 | 14 | Ymlaen i'r gemau ail gyfle drwy Gyngh. y Cenh. | 1–1 | 2–2 | — | 2–0 | 1–0 | |
4 | Estonia | 8 | 1 | 1 | 6 | 9 | 21 | −12 | 4 | 2–5 | 0–1 | 2–6 | — | 2–0 | ||
5 | Belarws | 8 | 1 | 0 | 7 | 7 | 24 | −17 | 3 | 0–1 | 2–3 | 0–2 | 4–2 | — |
Grwp F
[golygu | golygu cod]Saf | Tim | Chw | En | Cyf | Coll | GF | GA | GGw | Pt | Wedi cymhwyso | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Denmarc | 10 | 9 | 0 | 1 | 30 | 3 | 27 | 27 | Do, ar gyfer Cwpan y Byd | — | 2–0 | 5–0 | 1–0 | 3–1 | 8–0 | |
2 | yr Alban | 10 | 7 | 2 | 1 | 17 | 7 | 10 | 23 | Ymlaen i'r gemau ail gyfle | 2–0 | — | 3–2 | 2–2 | 4–0 | 1–0 | |
3 | Israel | 10 | 5 | 1 | 4 | 23 | 21 | 2 | 16 | 0–2 | 1–1 | — | 5–2 | 3–2 | 2–1 | ||
4 | Awstria | 10 | 5 | 1 | 4 | 19 | 17 | 2 | 16 | Ymlaen i'r gemau ail gyfle drwy Gyngh. y Cenh. | 0–4 | 0–1 | 4–2 | — | 3–1 | 4–1 | |
5 | Ynysoedd Ffaro | 10 | 1 | 1 | 8 | 7 | 23 | −16 | 4 | 0–1 | 0–1 | 0–4 | 0–2 | — | 2–1 | ||
6 | Moldofa | 10 | 0 | 1 | 9 | 5 | 30 | −25 | 1 | 0–4 | 0–2 | 1–4 | 0–2 | 1–1 | — |
Grwp G
[golygu | golygu cod]Saf | Tim | Chw | En | Cyf | Coll | GF | GA | GGw | Pt | Wedi cymhwyso | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Yr Iseldiroedd | 10 | 7 | 2 | 1 | 33 | 8 | 25 | 23 | Do, ar gyfer Cwpan y Byd | — | 6–1 | 2–0 | 4–0 | 2–0 | 6–0 | |
2 | Twrci | 10 | 6 | 3 | 1 | 27 | 16 | 11 | 21 | Ymlaen i'r gemau ail gyfle | 4–2 | — | 1–1 | 2–2 | 3–3 | 6–0 | |
3 | Norwy | 10 | 5 | 3 | 2 | 15 | 8 | 7 | 18 | 1–1 | 0–3 | — | 2–0 | 0–0 | 5–1 | ||
4 | Montenegro | 10 | 3 | 3 | 4 | 14 | 15 | −1 | 12 | 2–2 | 1–2 | 0–1 | — | 0–0 | 4–1 | ||
5 | Latfia | 10 | 2 | 3 | 5 | 11 | 14 | −3 | 9 | 0–1 | 1–2 | 0–2 | 1–2 | — | 3–1 | ||
6 | Gibraltar | 10 | 0 | 0 | 10 | 4 | 43 | −39 | 0 | 0–7 | 0–3 | 0–3 | 0–3 | 1–3 | — |
Grwp H
[golygu | golygu cod]Saf | Tim | Chw | En | Cyf | Coll | GF | GA | GGw | Pt | Wedi cymhwyso | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Croatia | 10 | 7 | 2 | 1 | 21 | 4 | 17 | 23 | Do, ar gyfer Cwpan y Byd | — | 1–0 | 2–2 | 3–0 | 1–0 | 3–0 | |
2 | Rwsia | 10 | 7 | 1 | 2 | 19 | 6 | 13 | 22 | Ymlaen i'r gemau ail gyfle | 0–0 | — | 1–0 | 2–1 | 6–0 | 2–0 | |
3 | Slofacia | 10 | 3 | 5 | 2 | 17 | 10 | 7 | 14 | 0–1 | 2–1 | — | 2–2 | 2–0 | 2–2 | ||
4 | Slofenia | 10 | 4 | 2 | 4 | 13 | 12 | 1 | 14 | 1–0 | 1–2 | 1–1 | — | 2–1 | 1–0 | ||
5 | Cyprus | 10 | 1 | 2 | 7 | 4 | 21 | −17 | 5 | 0–3 | 0–2 | 0–0 | 1–0 | — | 2–2 | ||
6 | Malta | 10 | 1 | 2 | 7 | 9 | 30 | −21 | 5 | 1–7 | 1–3 | 0–6 | 0–4 | 3–0 | — |
Grwp I
[golygu | golygu cod]Saf | Tim | Chw | En | Cyf | Coll | GF | GA | GGw | Pt | Wedi cymhwyso | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Lloegr | 10 | 8 | 2 | 0 | 39 | 3 | 36 | 26 | Do, ar gyfer Cwpan y Byd | — | 2–1 | 5–0 | 1–1 | 4–0 | 5–0 | |
2 | Gwlad Pwyl | 10 | 6 | 2 | 2 | 30 | 11 | 19 | 20 | Ymlaen i'r gemau ail gyfle | 1–1 | — | 4–1 | 1–2 | 3–0 | 5–0 | |
3 | Albania | 10 | 6 | 0 | 4 | 12 | 12 | 0 | 18 | 0–2 | 0–1 | — | 1–0 | 1–0 | 5–0 | ||
4 | Hwngari | 10 | 5 | 2 | 3 | 19 | 13 | 6 | 17 | 0–4 | 3–3 | 0–1 | — | 2–1 | 4–0 | ||
5 | Andorra | 10 | 2 | 0 | 8 | 8 | 24 | −16 | 6 | 0–5 | 1–4 | 0–1 | 1–4 | — | 2–0 | ||
6 | San Marino | 10 | 0 | 0 | 10 | 1 | 46 | −45 | 0 | 0–10 | 1–7 | 0–2 | 0–3 | 0–3 | — |
Grwp J
[golygu | golygu cod]Saf | Tim | Chw | En | Cyf | Coll | GF | GA | GGw | Pt | Wedi cymhwyso | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Yr Almaen | 10 | 9 | 0 | 1 | 36 | 4 | 32 | 27 | Do, ar gyfer Cwpan y Byd | — | 1–2 | 2–1 | 6–0 | 3–0 | 9–0 | |
2 | Macedonia | 10 | 5 | 3 | 2 | 23 | 11 | 12 | 18 | Ymlaen i'r gemau ail gyfle | 0–4 | — | 0–0 | 0–0 | 3–1 | 5–0 | |
3 | Rwmania | 10 | 5 | 2 | 3 | 13 | 8 | 5 | 17 | 0–1 | 3–2 | — | 1–0 | 0–0 | 2–0 | ||
4 | Armenia | 10 | 3 | 3 | 4 | 9 | 20 | −11 | 12 | 1–4 | 0–5 | 3–2 | — | 2–0 | 1–1 | ||
5 | Gwlad yr Iâ | 10 | 2 | 3 | 5 | 12 | 18 | −6 | 9 | 0–4 | 2–2 | 0–2 | 1–1 | — | 4–0 | ||
6 | Liechtenstein | 10 | 0 | 1 | 9 | 2 | 34 | −32 | 1 | 0–2 | 0–4 | 0–2 | 0–1 | 1–4 | — |
Ail rownd
[golygu | golygu cod]Bydd yr ail rownd (gemau ail gyfle) yn cael eu chwarae gan y deg tim ail-gyfle a'r ddau dim enillwyr gorau grŵp Cynghrair y ddwy Wlad, yn seiliedig ar safle cyffredinol Cynghrair y Cenhedloedd,[25] a orffennodd y tu allan i ddau uchaf eu grŵp cymwys. Byddant yn cael eu gwahanu'n dri llwybr ail-chwarae, gyda phob llwybr yn cynnwys dwy rownd gynderfynol un-cymal (single-leg) ac un rownd derfynol un-cymal. Bydd y rownd gynderfynol yn cael ei chynnal gan y chwe ail orau yn y cam grwpiau rhagbrofol, tra bydd lleoliad y gêm derfynol yn cael ei bennu gan drwy fwrw coelbren.[26] Bydd y rownd gynderfynol yn cael ei chwarae ar 24 Mawrth 2022, a'r rowndiau terfynol ar 29 Mawrth 2022. Bydd enillwyr pob llwybr yn gymwys ar gyfer Cwpan y Byd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Regulations FIFA World Cup 2022 Preliminary Competition" (PDF). FIFA.com. Fédération Internationale de Football Association. 2020. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2020.
- ↑ "Current allocation of FIFA World Cup confederation slots maintained". FIFA.com. 30 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mai 2015.
- ↑ "Amir: 2022 World Cup Qatar a tournament for all Arabs". Gulf Times. 15 Gorffennaf 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Medi 2018. Cyrchwyd 7 Medi 2018.
- ↑ Taylor, Daniel (15 Gorffennaf 2018). "France seal second World Cup triumph with 4–2 win over brave Croatia". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mehefin 2019. Cyrchwyd 7 Medi 2018.
- ↑ "FIFA Executive Committee confirms November/December event period for Qatar 2022". FIFA. 19 Mawrth 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Medi 2018. Cyrchwyd 5 December 2017.
- ↑ "Russia banned for four years to include 2020 Olympics and 2022 World Cup". BBC. 9 December 2019. Cyrchwyd 9 December 2019.
- ↑ "Can Russia play at the World Cup 2022 and Euro 2020?". BBC. 9 December 2019. Cyrchwyd 9 December 2019.
- ↑ "WADA files official request with Court of Arbitration for Sport to resolve RUSADA dispute". World Anti-Doping Agency. 9 Ionawr 2020. Cyrchwyd 14 Chwefror 2020.
- ↑ "CAS arbitration WADA v. RUSADA: Decision". TAS/CAS. 17 December 2020. Cyrchwyd 18 December 2020.
- ↑ 10.0 10.1 "Russia banned from using its name, flag at next two Olympics". ESPN. Associated Press. 17 December 2020. Cyrchwyd 18 December 2020.
- ↑ "UEFA Executive Committee agenda for Nyon meeting". UEFA.com. Union of European Football Associations. 27 Tachwedd 2019. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2019.
- ↑ 12.0 12.1 "Regulations of the UEFA Nations League, 2020/21". UEFA.com. Union of European Football Associations. 13 Hydref 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 16 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 13 Hydref 2019.
- ↑ 13.0 13.1 "Game changer: group stage for UEFA Women's Champions League". UEFA.com. Union of European Football Associations. 4 Rhagfyr 2019. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2019.
- ↑ "2022 World Cup qualifying: all you need to know". UEFA.com. Union of European Football Associations. 9 Rhagfyr 2019. Cyrchwyd 5 Ionawr 2020.
- ↑ "UEFA preliminary competition format for the FIFA World Cup 2022" (PDF). FIFA. 4 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2020.
- ↑ "Pandemic blamed for lack of VAR in World Cup qualifiers after Ronaldo fury". France 24. Paris. Agence France-Presse. 29 Mawrth 2021. Cyrchwyd 29 Mawrth 2021.
- ↑ "VAR to be used at European Qualifiers as of September 2021". UEFA (yn Saesneg). 5 Awst 2021. Cyrchwyd 5 Awst 2021.
- ↑ "FIFA/Coca-Cola World Ranking – Tachwedd 2020 (UEFA)". FIFA. 27 Tachwedd 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2020.
- ↑ "UEFA preliminary draw for FIFA World Cup 2022: seeded teams confirmed". FIFA. 27 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2020.
- ↑ "European Qualifiers for 2022 World Cup: all the fixtures". UEFA. 9 December 2020. Cyrchwyd 12 December 2020.
- ↑ "Fixture List – European Qualifiers 2020–2022: FIFA World Cup Preliminary Competition" (PDF). UEFA. 8 December 2020. Cyrchwyd 8 December 2020.
- ↑ "Fixture List by Group – European Qualifiers 2020–2022: FIFA World Cup Preliminary Competition" (PDF). UEFA. 8 December 2020. Cyrchwyd 8 December 2020.
- ↑ "Group A matches with Qatar". UEFA. 11 December 2020. Cyrchwyd 12 December 2020.
- ↑ "World Cup Qualifying Calendar – Group A with Qatar" (PDF). UEFA. 8 December 2020. Cyrchwyd 8 December 2020.
- ↑ "Overall ranking of the 2020/21 UEFA Nations League" (PDF). UEFA. 1 December 2020. Cyrchwyd 1 December 2020.
- ↑ "Regulatory articles for the 2020–2022 European qualifiers play-offs" (PDF). FIFA. 22 Hydref 2020. Cyrchwyd 22 Hydref 2020.