Gemau'r Gymanwlad Brydeinig 1970
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad aml-chwaraeon |
---|---|
Dyddiad | 1970 |
Dechreuwyd | 16 Gorffennaf 1970 |
Daeth i ben | 25 Gorffennaf 1970 |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad |
Lleoliad | Caeredin, Meadowbank Stadium |
Yn cynnwys | badminton at the 1970 British Commonwealth Games |
Rhanbarth | Caeredin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
9fed Gemau'r Gymanwlad Brydeinig | |||
---|---|---|---|
Campau | 121 | ||
Seremoni agoriadol | 16 Gorffennaf | ||
Seremoni cau | 25 Gorffennaf | ||
|
Gemau'r Gymanwlad Brydeinig 1970 oedd y nawfed tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Caeredin, Yr Alban oedd cartref y Gemau rhwng 16-25 Gorffennaf. Daeth y bleidlias i gynnal y Gemau yng Nghaeredin yn ystod Gemau Olympaidd Tokyo ym 1964 gyda Caeredin yn sicrhau 18 pleidlais a Christchurch, Seland Newydd 11.
Dyma oedd y Gemau cyntaf i ddefnyddio'r system fesur metric a'r Gemau cyntaf i ddefnyddio'r system camera i benderfynnu canlyniad rasys yn hytrach na'i gael fel cymorth i'r swyddogion. Dyma hefyd oedd y Gemau cyntaf i Frenhines Elizabeth II ei mynychu yn ei rôl fel pennaeth y Gymanwlad.
Ar ôl colli Gemau 1966, daeth bowlio lawnt yn ôl i'r Gemau yn lle saethu a daeth Ved Prakash o India y person ieuengaf erioed i ennill medal aur yn y Gemau wrth gipio medal aur yn y reslo yn 14 mlwydd oed.
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Timau yn cystadlu
[golygu | golygu cod]Cafwyd 42 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad Brydeinig, 1970 gyda'r Gambia, Guernsey, Grenada, Malawi a Gwlad Swasi yn ymddangos am y tro cyntaf.
Tabl Medalau
[golygu | golygu cod]Safle | Cenedl | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
1 | Awstralia | 36 | 24 | 22 | 82 |
2 | Lloegr | 27 | 25 | 32 | 84 |
3 | Canada | 18 | 24 | 24 | 66 |
4 | Yr Alban | 6 | 8 | 11 | 25 |
5 | Cenia | 5 | 3 | 6 | 14 |
6 | India | 5 | 3 | 4 | 12 |
7 | Pacistan | 4 | 3 | 2 | 9 |
8 | Jamaica | 4 | 2 | 1 | 7 |
9 | Wganda | 3 | 3 | 1 | 7 |
10 | Gogledd Iwerddon | 3 | 1 | 5 | 9 |
11 | Seland Newydd | 2 | 6 | 6 | 14 |
12 | Cymru | 2 | 6 | 4 | 12 |
13 | Ghana | 2 | 3 | 2 | 7 |
14 | Nigeria | 2 | 0 | 0 | 2 |
15 | Maleisia | 1 | 1 | 1 | 3 |
16 | Hong Cong | 1 | 0 | 0 | 1 |
17 | Trinidad a Tobago | 0 | 4 | 3 | 7 |
18 | Sambia | 0 | 2 | 2 | 4 |
19 | Singapôr | 0 | 1 | 1 | 2 |
20 | Barbados | 0 | 1 | 0 | 1 |
Tansanïa | 0 | 1 | 0 | 1 | |
22 | Ffiji | 0 | 0 | 1 | 1 |
Gambia | 0 | 0 | 1 | 1 | |
Gaiana | 0 | 0 | 1 | 1 | |
Ynys Manaw | 0 | 0 | 1 | 1 | |
Malawi | 0 | 0 | 1 | 1 | |
St Vincent | 0 | 0 | 1 | 1 | |
Cyfanswm | 121 | 121 | 133 | 375 |
Medalau'r Cymry
[golygu | golygu cod]Roedd 118 aelod yn nhîm Cymru.
Daeth Lynn Davies y Cymro cyntaf i ennill dwy fedal aur yn y Gemau wrth ennill y naid hir am yr ail Gemau yn olynol.
Medal | Enw | Cystadleuaeth | |
---|---|---|---|
Aur | Lynn Davies | Athletau | Naid hir |
Aur | Mike Richards | Nofio | 200m ar ei gefn |
Arian | Mike Richards | Nofio | 100m ar ei gefn |
Arian | Martyn Woodruffe | Nofio | 200m pili pala |
Arian | David Davies | Bocsio | Pwysau is-welter |
Arian | Anthony Davies | Bocsio | Pwysau is-bry |
Arian | Ieuan Owen | Codi Pwysau | Pwysau ysgafn |
Arian | Terry Perdue | Codi Pwysau | Pwysau uwch-drwm |
Efydd | Peter Arthur | Codi Pwysau | Pwysau is-drwm |
Efydd | Martyn Woodruffe | Nofio | 200m medley unigol |
Efydd | Kevin Moran Martin Richards Martyn Woodruffe a Nigel Johnson |
Nofio | 4 x100m medley |
Efydd | John Hatfield a John Beswick |
Beicio | 2000m tandem |
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru
Rhagflaenydd: Kingston |
Gemau'r Gymanwlad Lleoliad y Gemau |
Olynydd: Christchurch |