Gaynor Arnold
Gwedd
Gaynor Arnold | |
---|---|
Ganwyd | 1944 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, gweithiwr cymdeithasol |
Awdur a anwyd yng Nghymru yw Gaynor Arnold (ganwyd 1944)[1] Cafodd ei geni yng Nghaerdydd. Astudiodd Lenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg St Hilda, Rhydychen, ac wedyn Astudiaethau Cymdeithasol a Gweinyddol yn yr Adran Polisi Cymdeithasol ac Ymyrraeth, Prifysgol Rhydychen. Mae hi'n byw ac yn gweithio yn Birmingham ers yr 1970au.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf Girl in a Blue Dress gan Tindal Street Press yn 2008. Ymddangosodd y nofel ar y rhestr hir Gwobr Booker a'r Wobr Oren am Ffuglen. [2]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Girl in a Blue Dress (Merch mewn Ffrog Las) (2008)
- Lying Together (Gorwedd Gyda'n Gilydd) (2011)
- After such kindness (Ar ôl caredigrwydd mor fawr) (2012)
- The Sea in Birmingham (cyfrannwr; 2013)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "About Me". Gaynor Arnold official website (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Awst 2021.
- ↑ (yn en) ARNOLD, GAYNOR, The Writers of Wales Database, Literature Wales, http://www.literaturewales.org/writers-of-wales/i/133283/desc/arnold-gaynor/, adalwyd 9 Medi 2012