Gari Williams
Gari Williams | |
---|---|
Ffugenw | Gari Williams |
Ganwyd | Emyr Pierce Williams 10 Mawrth 1946 Llansannan |
Bu farw | 18 Gorffennaf 1990 Ysbyty Walton, Lerpwl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | digrifwr, actor, canwr, cyflwynydd teledu |
Digrifwr, canwr, actor a chyflwynydd oedd Gari Williams (10 Mawrth 1946 – 18 Gorffennaf 1990).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Fe'i ganwyd ym Mryn Rhyd-yr-Arian ger Llansannan, yn fab hynaf i Harri Pierce a Nance Williams. Ei enw bedydd oedd Emyr Pierce Williams. Symudodd y teulu i Lanrwst yn 1956 ac i Fochdre ger Bae Colwyn yn 1963.
Fe briododd Hafwen ar 17 Mai 1969 - ganed eu merch Nia yn 1977 a'i mab Guto yn 1988.
Cafodd ei daro'n ddifrifol wael yng Ngorffennaf 1990 a fe'i gludwyd i Ysbyty Walton, Lerpwl, lle bu farw wedi gwaeledd byr.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cychwynnodd berfformio yn Ionawr 1969 yn canu gyda'i frawd Elwyn. Fe ddaeth Emyr ac Elwyn yn ddeuawd poblogaidd ac fe ryddhawyd y ddau nifer o recordiau ar label Cambrian.[2]. Roedd Gari yn honni fod swilder ei frawd yn golygu fod rhaid iddo wneud y gwaith cyflwyno rhwng y caneuon, ac fe ddefnyddiodd hyn i ymarfer ei ddawn berfformio a chomedi.[3]
Yn 1974 fe ddaeth yn berfformiwr proffesiynol gyda mwy o bwyslais ar gomedi na chanu. Fe awgrymodd y digrifwr Ronnie Williams iddo newid ei enw llwyfan i er mwyn gallu apelio at gynulleidfa ehangach ar draws Prydain - a dewisodd Emyr yr enw Gari Williams.[1]
Yn 1976 cafodd y brif ran ym mhantomeim Cwmni Theatr Cymru, Madog, ac fe ddaeth yn wyneb cyfarwydd iawn ar lwyfannau Cymru. Fe ymunodd a'r opera sebon Pobol y Cwm yn 1979, gan chwarae'r mecanic Edgar Sutton. Yn Jabas, y gyfres ddrama deledu i bobl ifanc, roedd yn chwarae Sam Llonga, tad y prif gymeriad.[4] Ymddangosodd mewn nifer o gyfresi eraill fel y gomedi sefyllfa Eric gyda Stewart Jones a Myfanwy Talog.[5]
Yn yr 1980au fe ddechreuodd gyflwyno'r sioe Galw Mewn ar BBC Radio Cymru. Ar deledu cyflwynodd y sioe gomedi Galw Gari ar S4C o 1982 ymlaen yn ogystal â thair cyfres o sioe adloniant Rargian Fawr. Darlledwyd y bedwaredd gyfres o Galw Gari yn 1990, misoedd cyn ei farwolaeth.[1][3]
Cronfa Gari
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Cronfa Gari fel elusen yn 1991.[6] Bwriad y gronfa yw cynnig cefnogaeth ariannol i unigolyn neu unigolion sy'n dymuno canolbwyntio ar adloniant byw o flaen cynulleidfa Gymraeg.[1] Ers hynny mae wedi cefnogi nifer o ddigrifwyr a digwyddiadau comedi yn y Gymraeg, yn cynnwys sawl Gala Comedi yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 ap Dafydd, Myrddin (1996). Mab Hynaf Musus Wilias - Cofio Gari. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 0863813992.
|access-date=
requires|url=
(help) - ↑ Cofnod Discogs - Emyr Ac Elwyn
- ↑ 3.0 3.1 Hanes Gari Williams. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Rhagfyr 2015.
- ↑ Porth - Jabas ; Adalwyd 30 Rhagfyr 2015
- ↑ Cofio Gari Williams 70 mlynedd ers ei eni , BBC Cymru Fyw, 10 Mawrth 2016.
- ↑ Manylion Elusen 'Ymddiriedolaeth Cronfa Gari'
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gari Williams ar wefan yr Internet Movie Database