Neidio i'r cynnwys

From Aberystwyth with Love

Oddi ar Wicipedia
From Aberystwyth with Love
Math o gyfrwnggwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurMalcolm Pryce
CyhoeddwrBloomsbury Publishing
GwladCymru
IaithSaesneg
Dyddiad cyhoeddi15 Mai 2009
Argaeleddallan o brint
ISBN9780747595199
GenreNofel Saesneg
CyfresLouie Knight Mysteries

Nofel dditectif Saesneg gan Malcolm Pryce yw From Aberystwyth with Love a gyhoeddwyd gan Bloomsbury Publishing yn 2009. Yn 2019 roedd y gyfrol allan o brint.[1] Mae teitl y nofel yn cyfeirio yn chwareus at y nofel am yr asiant cudd James Bond, From Russia with Love (1957), gan Ian Fleming, a addaswyd yn 1963 fel ffilm.

Disgrifiad byr

[golygu | golygu cod]

Mae'n fis Awst crasboeth yn Aberystwyth: y bandstand yn toddi, y Pier dan ei sang, ac mae Sospan y gwerthwr hufen iâ yn arbrofi gydag ambell flas newydd, amheus. Mae dyn yn gwisgo iwnifform curadur amgueddfa Sofietaidd yn cerdded mewn i swyddfa Louie Knight ac yn gwau stori wyllt am gariad, marwolaeth, gwallgofrwydd a thwyll.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 17 Ebrill 2019
Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.