Flevoland
Math | Taleithiau'r Iseldiroedd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Lake Flevo |
Prifddinas | Lelystad |
Poblogaeth | 399,893 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Waar wij steden doen verrijzen... |
Pennaeth llywodraeth | Arjen Gerritsen |
Cylchfa amser | UTC 01:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Yr Iseldiroedd |
Gwlad | Yr Iseldiroedd |
Arwynebedd | 1,419 km² |
Gerllaw | Markermeer, IJsselmeer |
Yn ffinio gyda | Noord-Holland, Utrecht, Overijssel, Fryslân, Gelderland |
Cyfesurynnau | 52.5°N 5.7°E |
NL-FL | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | King's or Queen's Commissioner |
Pennaeth y Llywodraeth | Arjen Gerritsen |
Un o daleithiau yr Iseldiroedd yw Flevoland. Hi yw'r ieuengaf o ddeuddeg talaith yr Iseldiroedd, oherwydd crewyd y dalaith o'r tir a enillwyd trwy sychu rhan o'r Zuiderzee, gan gynnwys y cyn-ynysoedd Urk a Schokland.
Yn y gogledd mae'n ffinio ar Fryslân, ac yn y gogledd-ddwyrain ar Overijssel. Yn y gogledd-orllewin mae'n ffinio ar y Markermeer a'r Ijsselmeer. Yn y de-ddwyrain mae'n ffinio ar dalaith Gelderland, ac yn y de ar Utrecht a Noord-Holland.
Ceir dwy ran i'r dalaith: y Noordoostpolder, sy'n barhad o'r tir mawr, a'r Flevopolder, ynys wneuthuriedig fwyaf y byd. Cysylltir y Flevopolder a'r tir mawr gan bontydd a chob, yr Houtribdijk. Ar gyfartaledd, mae'r dalaith bum medr islaw lefel y môr. Y brifddinas yw Lelystad, ac ymhlith y dinasoedd eraill mae Almere a Dronten.
Taleithiau'r Iseldiroedd | |
---|---|
Taleithiau'r Iseldiroedd | Groningen • Fryslân • Drenthe • Overijssel • Flevoland • Gelderland • Utrecht • Noord-Holland • Zuid-Holland • Zeeland • Noord-Brabant • Limburg |