Fiorello La Guardia
Fiorello La Guardia | |
---|---|
Ganwyd | 11 Rhagfyr 1882 Dinas Efrog Newydd |
Bu farw | 20 Medi 1947 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Maer Efrog Newydd |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Priod | Marie M. La Guardia |
Perthnasau | Samuel David Luzzatto |
Gwobr/au | Gwobrau Peabody, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta |
llofnod | |
Roedd Fiorello Henry La Guardia (11 Rhagfyr 1882—20 Medi 1947), yn wleidydd o'r Unol Daleithiau a wasanaethodd fel maer Dinas Efrog Newydd rhwng 1933 a 1945. Roedd yn gyfrifol am welliannau dinesig eang.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganed La Guardia yn Ninas Efrog Newydd. Yn fab i Achille Luigi Carlo La Guardia, meistr band Eidalaidd ym myddin yr Unol Daleithiau, ac Irene Luzzatto-Coen.[2] Treuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Ne Dakota ac Arizona. Symudodd wedyn gyda'i dad i Florida, lle bu'n gweithio ar bapur newydd yn St Louis. Wedi marw ei dad ym 1898 aeth gyda'i fam i Budapest, Hwngari, i ymweld â'i pherthnasau.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn y 1900au cynnar gwasanaethodd fel conswl yr Unol Daleithiau yn Budapest a Fiume, gan ddychwelyd i Efrog Newydd ym 1906 i astudio'r gyfraith. Wedi'i dderbyn i'r bar yn 1910, daeth yn ddirprwy atwrnai cyffredinol dros Efrog Newydd ym 1915 a'r flwyddyn ganlynol etholwyd i'r Gyngres fel Gweriniaethwr. Amharwyd ar ei dymor cyntaf yn y Gyngres gan gyfnod o wasanaeth gyda'r awyrlu yn y Rhyfel Byd Cyntaf; ail-etholwyd ym 1922, gwasanaethodd am ddeng mlynedd arall. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n rhan o hynt Deddf Norris-La Guardia (1932), a oedd yn gwahardd cytundebau gwrth undebau llafur ac yn cefnogi hawl yr undebau i streicio a phicedu'n heddychlon.[3]
Ym 1933, ar ôl ymgais aflwyddiannus bedair blynedd ynghynt, etholwyd La Guardia yn faer Dinas Efrog Newydd, swydd y byddai'n ei dal am dri thymor o bedair blynedd yn olynol. Enillodd barch ac anwyldeb pobl Efrog Newydd yn gyflym. Cafodd ei adnabod gan bobl y ddinas fel 'y Blodyn Bach',[4] o'i enw cyntaf. O dan weinyddiad La Guardia, cafodd y ddinas weddnewidiad, gyda phrosiectau clirio slymiau enfawr a rhaglenni adeiladu uchelgeisiol ar gyfer ysgolion, pontydd, meysydd chwarae a pharciau. Gwellodd hefyd effeithlonrwydd y llywodraeth ddinesig, gan frwydro yn erbyn llygredd ar bob lefel, a chafodd siarter newydd i'r ddinas ym 1938.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd fel cyfarwyddwr Swyddfa Amddiffyn Sifil yr Unol Daleithiau rhwng 1941 a 1942. Ym 1946, wedi sefyll i lawr o swydd y faer y flwyddyn flaenorol, fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr cyffredinol. O'r UNRRA (Gweinyddiaeth Rhyddhad ac Adsefydlu'r Cenhedloedd Unedig).
Teulu
[golygu | golygu cod]Bu Le Guardia yn briod ddwywaith. Priododd a Thea Almerigotti ym 1919, cawsant ferch a bu farw cyn cyrraedd ei phen-blwydd cyntaf a bu farw Thea ym 1921.
Priododd ei ail wraig, Marie Fisher, ym 1929 cawsant mab a merch trwy fabwysadiad.[5]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw o ganser y pancreas yn ei gartref yn 5020 Goodridge Avenue, yng nghymdogaeth Fieldston, Riverdale, Bronx, ar 20 Medi, 1947, yn 64 oed. Claddwyd ei weddillion ym Mynwent Woodlawn yn y Bronx.[6]
Mae un o brif feysydd awyr Efrog Newydd wedi'i enwi ar ei ôl.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Fiorello La Guardia | Mayor of NYC, Civic Reformer | Britannica". www.britannica.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-03.
- ↑ "LA GUARDIA, Fiorello in "Enciclopedia Italiana"". www.treccani.it (yn Eidaleg). Cyrchwyd 2023-09-03.
- ↑ Briggs, Asa, gol. (1992). A Dictionary of 20th Century World Biography. Llundain: Gwasg Prifysgol Rhydychen. t. 326.
- ↑ Schriftgiesser, Karl (1938-01-01). "Portrait of a Mayor: Fiorello La Guardia". The Atlantic (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-03.
- ↑ Kessner, Thomas (1989). Fiorello H. LaGuardia and the Making of Modern New York. . McGraw Hill Education. tt. 21. ISBN 0-07-034244-X.
- ↑ "From the archive, 22 September 1947: New York mayor LaGuardia dies". The Guardian (yn Saesneg). 2015-09-22. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-09-03.
- ↑ Hussain, Amar (2023-08-31). "LaGuardia Airport [LGA] — Ultimate Terminal Guide". UpgradedPoints.com. Cyrchwyd 2023-09-03.