Neidio i'r cynnwys

Ffynhonnau Môn

Oddi ar Wicipedia

Ceir llawer o ffynhonnau ar Ynys Môn a arferid eu defnyddio gan bererinion crefyddol a chleifion a oedd yn chwilio am wellhad i'w anhwylderau. Gan nad oes cymaint o fynd arnynt y dyddiau hyn, mae rhai mewn cyflwr truenus ac eraill wedi mynd ar goll.

Fel mannau eraill drwy Gymru, bu cysylltiad defedol i fanau lle roedd dŵr, gan gynnwys Llyn Cerrig Bach lle canfuwyd offer ac arfau metel wedi'u taflu'n fwriadol i'r llyn. Ni wyddwn pam fod y Celtiaid yn offrymu, fel hyn, na pha mor fywiog oedd y cwltau oedd yn gysylltiedig â nhw cyn i Gristnogaeth gyrraedd tua diwedd yr 2g OC. Gwyddom fod gan y Rhufeiniaid arferion tebyg ee canfuwyd penglog ddynol yn leinin ffynnon Rufeinig Odell, Swydd Rydychen. Arferiad tebyg oedd gadael pin wedi'i blygu neu ddarn o arian ar ôl yn y ffynnon ond ni wyddom i sicrwydd pam y gwnaed hyn: naill ai er mwyn cael gras Duw neu i wella o anhwylder, neu'r ddau.

Dyma ugain o ffynhonnau sanctaidd Môn, gyda phob un wedi'i chysegru i sant; yn aml, maen nhw i'w cael ger eglwys y sant hwnnw.

Lleoliad Enw ffynnon Cyfeirnod grid Mapiau Nodiadau Llun
Ynys Gybi Ffynnon Santes Wenfaen 53°14′49″N 4°36′36″W / 53.247°N 4.61°W / 53.247; -4.61 (Ffynnon Santes Wenfaen)
Santes Wenfaen, Ynys Gybi
Ffynnon Santes Wenfaen
Gwella'r felan
Rhwng Carmel a Llanerch-y-medd Ffynnon Gybi 53°19′06″N 4°24′04″W / 53.318377°N 4.401175°W / 53.318377; -4.401175 (Ffynnon Gybi, Llanerch-y-medd)
Santes Wenfaen, Ynys Gybi
Ffynnon Gybi
Yn ôl un traddodiad dyma ble y cyfarfyddai'r seintiau Cybi a Seiriol ac nid ger Clorach. Mae yma lif cryf ac mae’n bosib bod yna waith cerrig yn dal i fodoli islaw’r dwr ond gan fod y ffynnon wedi gorlifo does dim modd gweld
Cerrigceinwen Ffynnon Cerrigceinwen 53°14′13″N 4°21′49″W / 53.236817°N 4.363561°W / 53.236817; -4.363561 (Cerrigceinwen)
Ffynnon Cerrigceinwen
Ffynnon Cerrigceinwen
Amryw afiechydon. Roedd y Santes Ceinwen yn chwaer i Dwynwen. Mae’r eglwys mewn pant cysgodol a’r ffynnon ar y chwith ar waelod y bryn wrth fynd i lawr ati.
Ger fferm Clorach Fawr, Clorach Ffynnon Seiriol, Clorach 53°19′50″N 4°19′56″W / 53.330474°N 4.332107°W / 53.330474; -4.332107 (Ffynnon Seiriol, Clorach)
Ffynnon Seiriol, Clorach
Ffynnon Seiriol
Yn ôl traddodiad, byddai’r saint Cybi a Seiriol yn cyfarfod â’i gilydd. Credid fod gwerth iachusol i ddŵr y ddwy ffynnon. Deuai’r cleifion at ffynnon Seiriol yn y nos a byddai’n arferiad cario’r dŵr oddi yno i’r rhai oedd yn rhyw wael i ddod at y ffynnon eu hunain. Byddai’r fan ger y ffynhonnau yn lle da i gariadol ddod i geisio cymodi ar ôl cweryl.
Llanallgo Ffynnon Allgo 53°20′21″N 4°15′29″W / 53.339153°N 4.258133°W / 53.339153; -4.258133 (Ffynnon Allgo, Llanallgo)
Ffynnon Allgo
Ffynnon Allgo
Hen ffynnon baganaidd. Mae Ffynnon Allgo yng nghanol Maes Carafannau Glanrafon y drws nesaf i Faes Carafannau Home Farm, tua chwarter milltir y tu draw i Eglwys Sant Gallgo, Llanallgo, ar A5025.
Llanbadrig Ffynnon Badrig, Llanbadrig 53°25′25″N 4°26′42″W / 53.423515°N 4.445075°W / 53.423515; -4.445075 (Ffynnon Badrig, Llanbadrig)
Ffynnon Badrig
Ffynnon Badrig
Gwella'r crydcymalau, golwg gwan, anhwylderau’r stumog, y gymalwst, pendduynnod a’r ddannodd[1]
Llanbedrgoch Ffynnon Llanbedrgoch 53°17′N 4°14′W / 53.29°N 4.23°W / 53.29; -4.23 (Ffynnon Llanbedrgoch)
Llanbedrgoch
Ffynnon Llanbedrgoch
Angen lleoliad union[2]
Llanddona, dwyrain Traeth Coch Ffynnon Oer 53°18′46″N 4°08′01″W / 53.312676°N 4.133635°W / 53.312676; -4.133635 (Ffynnon Oer, Llanddona)
Ffynnon Oer
Ffynnon Oer
Llanddwyn Ffynhonnau Llanddwyn 53°08′19″N 4°24′45″W / 53.138679°N 4.412428°W / 53.138679; -4.412428 (Ffynhonnau Llanddwyn)
Ffynhonnau Llanddwyn
Ffynhonnau Llanddwyn
Gwellâd o boenau yn yr esgyrn, pliwrisy ac afiechydon yr ysgyfaint, yn ogystal â rhai claf o gariad. ceir sawl ffynnon: Crochan Llanddwyn, Ffynnon y Sais, Ffynnon Fair a Ffynnon Dafaden (y Ffynnon Ddwynwen wreiddiol), ger yr Eglwys (defaid ar y croen).
Llaneilian Ffynnon Eilian 53°24′42″N 4°18′16″W / 53.411568°N 4.304448°W / 53.411568; -4.304448 (Ffynnon Eilian, Llaneilian)
Ffynnon Eilian
Ffynnon Eilian
Arferid yfed dŵr y ffynnon ar 13 Ionawr (dydd Sant Eilian). Cedwid y rhoddion mewn cist yn yr eglwys, gerllaw. Disgrifir y ffynnon gan Gymdeithas Ffynhonau Cymru fel "ffynnon felltithio enwocaf Cymru".[3]
Llanfaelog Ffynnon Faelog 53°13′26″N 4°31′17″W / 53.223869°N 4.521430°W / 53.223869; -4.521430 (Ffynnon Faelog)
Ffynnon Faelog
Ffynnon Faelog
Gweler Gwefan Coflein
Llangefni Ffynnon Cyngar 53°15′27″N 4°18′51″W / 53.257574°N 4.314224°W / 53.257574; -4.314224 (Ffynnon Cyngar)
Ffynnon Cyngar
Ffynnon Cyngar
Mae'r ffynnon ychydig islaw Eglwys Sant Cyngar, Llangefni, mewn man coediog ar lan afon Cefni mewn ardal a elwir y Dingle.
Penmon Ffynnon Seiriol, Penmon 53°18′23″N 4°03′24″W / 53.306461°N 4.056536°W / 53.306461; -4.056536 (Ffynnon Seiriol, Penmon)
Ffynnon Seiriol
Ffynnon Seiriol
Roedd dwy ffynnon yma ar un amser.[4]
Penmynydd Ffynnon Redifael 53°15′04″N 4°13′26″W / 53.251007°N 4.223790°W / 53.251007; -4.223790 (Ffynnon Redifael, Penmynydd)
Ffynnon Redifael
Ffynnon Redifael
Mae safle’r ffynnon mewn cae bron gyferbyn â’r eglwys, ac mae gât mochyn yn arwain o’r ffordd gul i’r cae a elwir Gae Gredifael. Roedd y dŵr yn dda iawn at wella defaid ar ddwylo. Does dim byd i'w weld heddiw, gan fod y ffermwr wedi'i thorri gyda'i aradr.
Penrhosllugwy Ffynnon Parc Mawr 53°21′35″N 4°16′37″W / 53.359736°N 4.276866°W / 53.359736; -4.276866 (Ffynnon Parc Mawr)
Ffynnon Parc Mawr
Ffynnon Parc Mawr
Mae hon i'w gweld ar ochr orllewinol y ffordd sydd yn arwain i Amlwch, sef yr A5025. Disgrifir ei dŵr fel 'dŵr copor' gan fod lefel uchel o haearn yn ei dŵr. Roedd yn cael ei defnyddio ar gyfer melltithio yn nechrau 20g.[5]
Caergybi Ffynnon Gorlas 53°18′33″N 4°39′08″W / 53.309126°N 4.652270°W / 53.309126; -4.652270 (Ffynnon Gorlas)
Ffynnon Gorlas
Ffynnon Gorlas
Ffynnon Gorlas well, yng nghornel ddwyreiniol hen gapel. Defnyddiwyd Ffynnon Gorlas yn ddyddiol gan y fferm gyfagos, tan y daeth dŵr tap yn nechrau’r 1930au, ac yna gan leianod o’r cwfent lleol tan 1955. Mae pedair ochr i’r ffynnon a wal uchel o’i hamgylch. Fe’u codwyd, yn ôl pob tebyg, i rwystro pobl rhag gweld yr ymdrochwyr neu i gadw anifeiliaid allan. Mae'r wal bresennol yn sefyll ar sylfaen o’r Oesoedd Canol o bosib.

Eraill

[golygu | golygu cod]
Ffynnon Y Wrach, Caergybi
Ffynnon Y Wrach, Caergybi
  • Ffynnon Rhosfawr
  • Ffynnon Bioden, ar dir Y Parciau:Ffynnon Jib yn Nhreboeth
  • Ffynnon Dinas
  • Ffynnon Minffordd, ar dir Ty'n Llan
  • Yn Llanfair Mathafarn mae tair ffynnon ond ni roddir eu henwau
  • Ffynnon Pant, y Garn
  • Ffynnon Bwlch a Ffynnon Oer ar draeth y Benllech
  • Pwll Bragu - oddi yno y ceid dŵr i fragu cwrw yn y bragdy yn Llanfair Mathafarn Eithaf
  • Ffynnon, Berthlwyd
  • Ffynnon Bryn Goronwy - y ffynnon y cred rhai y bu Goronwy Owen yn tynnu dŵr ohoni
  • Ffynnon Badell
  • Ffynhonnau Cerrigman - Ffynnon Cerwas
  • Dwy ffynnon Mynydd Gwyn
  • Ffynnon Ty'n Ffynnon
  • Ffynnon y Drum, Carreglefn
  • Ffynnon Betws, Penrhyd.
Ffynnon[6] Lleoliad
Alarch Ysgubor Fawr, Llanidan
Allgo Eglwys Llanallgo
Annon Llanbeulan
Y Badell Benllech / Tyn-y-gongl
Badrig Llanbadrig / Cemais
Briwas Amlwch
Bryn Bendigiad Aberffraw / Llangadwaladr
Cae Syr Rhys Amlwch
Carreg-y-drosffordd Llanfair yng Nghornwy
Carreg Diamond Llanfair yng Nghornwy
Cefn Du Mawr Mynydd y Garn, Llanfair yng Nghornwy
Cerrig Ceinwen Eglwys Cerrig Ceinwen
Clorach Maenaddwyn / Llannerch-y-medd
Dafaden Ynys Llanddwyn
Daniel Cae Mawr, Llanddaniel
Dudur Pentraeth
Dyfiog Pencaernisiog
Ddiogi Rhwng Burwen ac Amlwch
Ddwyfan Llanfair yng Nghornwy
Ddwynwen Twyni Llanddwyn
Ddygfael Llyn Llygeirian, Llanfechell
Eilian Eglwys Llaneilian a Phorth Newydd
Elaeth Pen Isaf, Stryd y Ffynnon, Porth Amlwch
Elaeth Ger Gwredog, Rhosgoch
Faelog Rhosneigr
Fair
Fawr Ger Eglwys y Plwyf, Bodedern
Fechell Llanfechell
Feuno Lôn Bragdy, Aberffraw
Feurig Mynydd Parys
Ffraid Tywyn y Capel / Bae Trearddur
Gaffo Ymyl Cors Malltraeth
Gib Y Dafarn Goch, Rhosfawr / Brynteg
Ginarch Tywyn y Capel
Coferydd Mynydd Tŵr, Ynys Cybi
Golochwyd Mynydd Tŵr / Bae Gogarth
Gollas / Gorlas Caergybi / Llaingoch
Gweirgloddiau Tal-y-braich, Niwbwrch
Gwenllïan Llandegfan
Gybi Caergybi
Gylched Llangefni
Gyngar Llangefni / Nant y Pandy
Halog Brynsiencyn
Halog Brynsiencyn
Heliwr / Helwyr Mynydd Bodafon
Iestyn Tyddyn Uchaf, Eglwys Llaniestyn
Lydan Cornelyn, Llangoed
Lugwy Penrhosllugwy
Llywarch Waenyolog, Llanbabo
Llwyd Cleifiog Isaf, Y Fali
Mab Llandrygarn
Menyn Mynydd Parys / Amlwch
Meirch / Y Meirch Aberffraw
Minffrwd Bryn Teg / Afon Gwenffrwd
Mwstre Llaneilian
Nur Sybylltir, Bodedern
Oer Llanddona
Parc Mawr Penrhosllugwy
Pechod Llangaffo
Pen Lan Llangefni
Pentre Eiriannell Penrhosllugwy
Plas-bach Benllech
Redifael Penymynydd
Robin Cemais
Rofft Niwbwrch
Y Sais Ynys Llanddwyn
Seiriol Llaniestyn
Seiriol Penmon
Trinculo Llanfechell
Tros-yr-afon Penmon
Y Trueiniaid Tyddyn Truan, Llanfair Mathafarn Eithaf
Tŷ-coch Cae Mawr, Rhostrehwfa
Ty'n Gamfa Ty'n Gamfa, Llangefni
Ulo Capel Ulo, Caergybi
Wen Niwbwrch
Wen Mynydd Eilian
Wenfaen Rhoscolyn
Y Wrach Mynydd Tŵr, Caergybi

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gruffydd, Eirlys a Ken Lloyd. Ffynhonnau Cymru, Cyfrol 2. Llanrwst: Llyfrau Llafar Gwlad, 1999.
  2. ffynhonnaucymru.org.uk; adalwyd 6 Ebrill 2017.
  3. Gwefan Cymdeithas Ffynhonau Cymru; adalwyd 3 Mawrth 2014.
  4. Gwefan Cadw; adalwyd 6 Ebrill 2017.
  5. ffynhonnaucymru.org.uk
  6. Jones, Gwilym T. (1996). Enwau lleoedd Môn = The place-names of Anglesey. Prys, Delyth., Roberts, Tomos., Anglesey (Wales). County Council., University College of North Wales. Research Centre Wales. [Llangefni]: Cyngor Sir Ynys Môn. ISBN 0-904567-71-0. OCLC 37301308.