Ffwndamentaliaeth
Enghraifft o'r canlynol | ideoleg, cysyniad athronyddol |
---|---|
Math | barn y byd |
Fel arfer mae gan ffwndamentaliaeth arwyddocâd crefyddol sy'n dynodi ymlyniad diwyro i set o gredoau set.[1] Bellach, gall gyfeirio at duedd ymhlith rhai grwpiau - yn bennaf, er nid yn gyfan gwbl, mewn crefydd - a nodweddir gan set o reolau hynod gaeth, ac yn cael ei gymhwyso i rai ysgrythurau, dogmas, neu ideolegau penodol. Yn aml, ceir dehongliad llythrennol o'r rhain.
Credir hefyd yn y pwysigrwydd o gynnal gwahaniaethau rhwng beth a ganiateir mewn un grŵp, a'r hyn sydd y tu allan i'r grŵp.[2][3][4][5] Rhoddir pwyslais ar burdeb y set o gredoau, a'r awydd i ddychwelyd i ddelfryd neu ddehongliad blaenorol y mae eiriolwyr yn credu bod aelodau wedi crwydro ohoni. Mae gwrthod amrywiaeth ac 'annibyniaeth barn' o fewn y grŵp yn aml yn deillio o'r duedd hon.[6]
Yng Nghymru, gellir gweld 'agweddau o ffwndamentaliaeth' yn dod i'r golwg pan sefydlwyd Mudiad Efengylaidd Cymru yn 1947.[7]
Cafodd y term ei ddefnyddio'n gyntaf i ddisgrifio'r mudiad ceidwadol ymysg Protestaniaid a ddechreuodd yn Unol Daleithiau America yn hwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Pwysleisiodd y credoau canlynol fel sylfeini llwyr Cristnogaeth: anffaeledigrwydd y Beibl, yr Enedigaeth Wyryfol a duwdod Iesu Grist, aberth Crist ar y groes fel cymod am bechodau holl bobl, atgyfodiad corfforol ac Ail Ddyfodiad Crist, ac atgyfodiad corfforol credinwyr.
Yn dibynnu ar y cyd-destun, gall y label "ffwndamentaliaeth" fod yn nodwedd ddifrïol yn hytrach na niwtral, yn debyg i'r ffyrdd y gall galw safbwyntiau gwleidyddol yn "adain dde" neu'n "adain chwith" fod â chynodiadau negyddol.[8]
Ffwndamentaliaeth grefyddol
[golygu | golygu cod]Bwdhaeth
[golygu | golygu cod]Mae ffwndamentaliaeth Fwdhaidd wedi targedu grwpiau crefyddol ac ethnig eraill mewn llefydd fel Myanmar. Fel gwlad sy’n cael ei dominyddu gan Fwdhyddion, mae Myanmar wedi gweld tensiynau rhwng lleiafrifoedd Mwslimaidd a’r mwyafrif Bwdhaidd yn enwedig yn ystod terfysgoedd gwrth-Fwslimaidd Burma 2013 (a gychwynnwyd o bosibl gan grwpiau caled fel y Mudiad 969),[9] yn ogystal ag yn ystod gweithredoedd sy'n gysylltiedig â hil-laddiad Rohingya (2016 ymlaen).
Gwelir ffwndamentaliaeth Fwdhaidd hefyd yn Sri Lanka, sy’n cael ei rheoli gan Fwdhyddion. Yno, cafwyd tensiynau diweddar rhwng lleiafrifoedd Mwslimaidd a’r mwyafrif Bwdhaidd, yn enwedig yn ystod terfysgoedd gwrth-Fwslimaidd 2014 yn Sri Lanka[10] ac yn ystod terfysgoedd gwrth-Fwslimaidd 2018 yn Sri Lanka,[11] a gychwynnwyd gan grwpiau caled fel Sena Bodu Bala, yn ôl llawer.
Ceir enghreifftiau hanesyddol a chyfoes o ffwndamentaliaeth Fwdhaidd ym mhob un o'r tair prif gangen o Fwdhaeth: Theravada, Mahayana, a Vajrayana. Yn Japan, enghraifft amlwg fu’r arfer ymhlith rhai aelodau o sect Mahayana Nichiren o shakubuku — dull o broselyteiddio sy’n golygu condemnio sectau eraill yn llym fel rhai diffygiol neu ddrwg.
Cristionogaeth
[golygu | golygu cod]Mae George Marsden wedi diffinio ffwndamentaliaeth Gristnogol fel y galw am ymlyniad caeth i rai athrawiaethau diwinyddol, yn groes i ddiwinyddiaeth Fodern.[12] Bathodd ei chefnogwyr y term yn wreiddiol er mwyn disgrifio’r hyn a honnent oedd yn bum cred ddiwinyddol glasurol benodol o Gristnogaeth, ac arweiniodd y defnydd o'r term at ddatblygiad mudiad ffwndamentalaidd Cristnogol o fewn cymuned Brotestannaidd yr Unol Daleithiau yn gynnar yn yr 20G.[13] Cododd ffwndamentaliaeth fel mudiad yn yr Unol Daleithiau, gan ddechrau ymhlith diwinyddion Presbyteraidd ceidwadol yn y Princeton Theological Seminary ar ddiwedd y 19g. Ymledodd yn fuan i geidwadwyr ymhlith y Bedyddwyr ac enwadau eraill rhwng 1910 a 1920. Pwrpas y mudiad oedd ailddatgan daliadau diwinyddol allweddol a'u hamddiffyn rhag heriau diwinyddiaeth Ryddfrydol a beirniadaeth uwch.[14]
Mae gan y cysyniad o "ffwndamentaliaeth" wreiddiau yng 'Nghynadleddau Beiblaidd Niagara' a gynhaliwyd yn flynyddol rhwng 1878 a 1897. Yn ystod y cynadleddau hynny, nodwyd y daliadau a ystyriwyd yn gred Gristnogol sylfaenol.
Yng Nghymru, gellir gweld 'agweddau o ffwndamentaliaeth' yn dod i'r golwg pan sefydlwyd Mudiad Efengylaidd Cymru yn 1947.[7]
Rhag-ffurfiwyd "Ffwndamentaliaeth" gan The Fundamentals: A Testimony To The Truth, sef casgliad o ddeuddeg pamffled a gyhoeddwyd rhwng 1910 a 1915, gan y brodyr Milton a Lyman Stewart. Caiff ei ystyried yn eang fel sylfaen ffwndamentaliaeth Gristnogol fodern.
Ym 1910, nododd Cymanfa Gyffredinol yr Eglwys Bresbyteraidd yr hyn a ddaeth i gael ei adnabod fel y pum hanfod:[15]
- Ysbrydoliaeth Feiblaidd (gan Dduw) ac anffaeledigrwydd yr ysgrythur o ganlyniad i hyn
- Genedigaeth Iesu gan wyryf
- Y gred mai marwolaeth Crist oedd y cymod dros bechod
- Atgyfodiad corfforol Iesu
- 'Realiti' hanesyddol gwyrthiau Iesu
Ym 1920 y defnyddiwyd y gair "ffwndamentalydd" gyntaf, mewn print, a hynny gan Curtis Lee Laws, golygydd "The Watchman Examiner," papur newydd y Bedyddwyr yn Kentucky.[16] Yn dilyn hyn, pasiwyd deddfau yn UDA y dylid galw'r Cristnogion hynny a oedd yn ymladd dros hanfodion eu ffydd yn "ffwndamentalwyr."[17]
Daeth ceidwadwyr diwinyddol, eiriolwyr y pum hanfod i gael eu hadnabod fel "ffwndamentalwyr". Gwrthodasant fodolaeth cyffredinedd â thraddodiadau crefyddol cysylltiedig â diwinyddiaeth, megis grwpio Cristnogaeth, Islam, ac Iddewiaeth yn un teulu o grefyddau Abrahamig.[3] Mewn cyferbyniad, tra bod grwpiau Efengylaidd (fel Cymdeithas Efengylaidd Billy Graham) fel arfer yn cytuno â'r "hanfodion ffwndamentalaidd" hyn, maent yn aml yn barod i gymryd rhan mewn digwyddiadau gyda grwpiau crefyddol eraill, nad ydynt yn cadw at yr athrawiaethau hanfodol.[18]
Hindŵaeth
[golygu | golygu cod]Mae Hindŵaeth yn cynnwys amrywiaeth o syniadau am ysbrydolrwydd a thraddodiadau, ond nid oes ganddi unrhyw drefn eglwysig, dim awdurdod crefyddol diamheuol o fath yn y byd, dim corff llywodraethu, dim un proffwyd, nac unrhyw lyfr sanctaidd. Gall Hindŵiaid ddewis bod yn amldduwiol, yn pantheistig, panentheistig, pandeistig, henotheistig, monotheisticg (undduwiol), monistig, agnostig, anffyddiol neu'n ddyneiddiol.[19][20][21] Yn ôl Doniger, "mae syniadau am holl faterion mawr ffydd a ffordd o fyw - llysieuaeth, heddychiaeth, cred mewn ailenedigaeth, hyd yn oed cast - yn bynciau dadl, nid dogma bur."[22]
Oherwydd yr ystod eang o draddodiadau a syniadau a gwmpesir gan y term Hindŵaeth, mae diffyg diwinyddiaeth 'sylfaenol' yn golygu ei bod yn anodd dod o hyd i 'ffwndamentaliaeth grefyddol' ddogmatig fel y cyfryw ynddi.[23] Mae'r grefydd "yn herio ein hawydd i'w diffinio a'i chategoreiddio". Yn India, mae'r term dharma yn cael ei ffafrio, sy'n ehangach na'r term Gorllewinol crefydd.[24]
Felly, mae rhai ysgolheigion yn dadlau nad oes gan Hindŵaeth ddogma na "ffwndamentaliaeth," tra bod ysgolheigion eraill yn nodi sawl mudiad Hindŵaidd sy'n weithgar yn wleidyddol fel rhan o "deulu ffwndamentalaidd Hindŵaidd."[25][26]
Islam
[golygu | golygu cod]Mae ffwndamentaliaeth o fewn Islam yn mynd yn ôl i'r 7g, i gyfnod y Kharijiaid.[27] O'u sefyllfa wleidyddol, fe ddatblygon nhw athrawiaethau eithafol a oedd yn eu gosod ar wahân i Fwslimiaid prif ffrwd Shia a Sunni. Roedd y Kharijites yn arbennig o nodedig am fabwysiadu agwedd radical tuag at takfir, a oedd yn datgan bod Mwslimiaid eraill yn anghredinwyr ac felly'n eu hystyried yn deilwng o farwolaeth.[27][28][29][30]
Creodd gwrthdaro crefyddol rhwng y Shia a'r Sunni ers y 7g agoriad i ideolegau radicalaidd, megis Ali Shariati (1933–77), i uno chwyldro cymdeithasol â ffwndamentaliaeth Islamaidd, fel y dangoswyd gan Chwyldro Islamaidd Iran yn 1979.[31] Mae ffwndamentaliaeth Islamaidd wedi ymddangos mewn llawer o wledydd;[32] hyrwyddir fersiwn Salafi- Wahhabi ledled y byd a'i ariannu gan Saudi Arabia, Qatar, a Phacistan.[33][34][35][36]
Roedd argyfwng gwystlon Iran 1979-80 yn drobwynt mawr yn y defnydd o'r term "ffwndamentaliaeth". Disgrifiwyd yr argyfwng hwn gan y cyfryngau, mewn ymgais i egluro ideoleg Ayatollah Khomeini a'r Chwyldro Iran i gynulleidfa Orllewinol fel "fersiwn ffwndamentalaidd o Islam". Fe'i cymharwyd i'r mudiad ffwndamentalaidd Cristnogol yn yr Unol Daleithiau, a bathwyd y term ffwndamentalaidd Islamaidd, a ddefnyddiwyd yn gyffredin mewn ystyron negyddol, yn y blynyddoedd dilynol.
Iddewiaeth
[golygu | golygu cod]Ideoleg ffwndamentalaidd, wleidyddol sy'n cyfuno Seioniaeth ac Iddewiaeth Uniongred yw Seioniaeth Grefyddol (neu Tziyonut Datit).
Defnyddiwyd ffwndamentaliaeth Iddewig i nodweddu Seioniaeth grefyddol filwriaethus, a fersiynau Ashkenazi a Sephardig o Iddewiaeth Haredi.[37] Mae Ian S Lustik wedi nodweddu ffwndamentaliaeth Iddewig fel "ideoleg genedlaetholgar."[38]
Mae eu hideoleg yn troi o amgylch tair colofn: Gwlad Israel, Pobl Israel, a Torah Israel.[39]
Dyma ddywed Gwyddoniadur y Britannica:
“ | Ceir tri phrif dueddiad yn Iddewiaeth Israel sy'n ffwndamentalaidd: Seioniaeth grefyddol filwriaethus, yr Ashkenazim tra-Uniongrededd, a'r Sephardim tra-Uniongrededd (Iddewon o darddiad y Dwyrain Canol) fel y'i cynrychiolir gan y Shas, plaid wleidyddol. Mae pob un o'r tri grŵp yn pwysleisio'r angen am gydymffurfio llym â'r deddfau crefyddol a'r praeseptau moesol sydd wedi'u cynnwys yn y testunau sanctaidd Iddewig, y Torah a'r Talmud.[40] | ” |
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae defnydd gwleidyddol o'r term "ffwndamentaliaeth" wedi'i feirniadu. Mae wedi cael ei ddefnyddio gan grwpiau gwleidyddol i frawychu gwrthwynebwyr, gan ddefnyddio'r term yn llac, yn ddibynnol ar eu diddordebau gwleidyddol.
Yn ôl Judith Nagata, athro Sefydliad Ymchwil Asia ym Mhrifysgol Genedlaethol Singapôr,“ Canmolwyd mujahiddin Afghanistan, a oedd yn brwydro yn erbyn y gelyn Sofietaidd yn yr 1980au, fel ‘ymladdwyr dros ryddid’ gan eu cefnogwyr Americanaidd ar y pryd, tra bod y Taliban presennol, sydd wedi amddiffyn gelyn mawr America Osama bin Laden, heb os yn grŵp 'ffwndamentalaidd'." [41]
Yn Ffrainc, yn ystod gorymdaith yn erbyn gosod cyfyngiadau ar y defnydd o benwisgoedd mewn ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth, cafwyd baner yn labelu’r gwaharddiad fel “ffwndamentaliaeth seciwlar”.[42][43] Yn yr Unol Daleithiau, mae anoddefiad preifat neu ddiwylliannol o ferched yn gwisgo'r hijab (gorchudd pen Islamaidd) ac actifiaeth wleidyddol gan Fwslimiaid hefyd wedi'i labelu'n "ffwndamentaliaeth seciwlar".[44]
Canfu astudiaeth ym Mhrifysgol Caeredin, "fod deallusrwydd isel yn fwyaf cysylltiedig â lefelau uchel o ffwndamentaliaeth." [45]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Nagata, Judith (Jun 2001). "Beyond Theology: Toward an Anthropology of "Fundamentalism"". American Anthropologist 103 (2): 481–498. doi:10.1525/aa.2001.103.2.481. https://archive.org/details/sim_american-anthropologist_2001-06_103_2/page/481. "Once considered exclusively a matter of religion, theology, or scriptural correctness, use of the term fundamentalism has recently undergone metaphorical expansion into other domains [...]."
- ↑ Altemeyer, B.; Hunsberger, B. (1992). "Authoritarianism, religious fundamentalism, quest, and prejudice". International Journal for the Psychology of Religion 2 (2): 113–133. doi:10.1207/s15327582ijpr0202_5.
- ↑ 3.0 3.1 Kunst, J., Thomsen, L., Sam, D. (2014). Late Abrahamic reunion? Religious fundamentalism negatively predicts dual Abrahamic group categorization among Muslims and Christians. European Journal of Social Psychology https://www.academia.edu/6436421/Late_Abrahamic_reunion_Religious_fundamentalism_negatively_predicts_dual_Abrahamic_group_categorization_among_Muslims_and_Christians
- ↑ Kunst, J. R.; Thomsen, L. (2014). "Prodigal sons: Dual Abrahamic categorization mediates the detrimental effects of religious fundamentalism on Christian-Muslim relations". The International Journal for the Psychology of Religion 25 (4): 293–306. doi:10.1080/10508619.2014.937965.
- ↑ Hunsberger, B (1995). "Religion and prejudice: The role of religious fundamentalism, quest, and right-wing authoritarianism". Journal of Social Issues 51 (2): 113–129. doi:10.1111/j.1540-4560.1995.tb01326.x. https://archive.org/details/sim_journal-of-social-issues_summer-1995_51_2/page/113. "[...] the fundamentalism and quest relationships with prejudice are especially meaningful in light of an association with right‐wing authoritarianism. [...] In the end, it would seem that it is not religion per se, but rather the ways in which individuals hold their religious beliefs, which are associated with prejudice."
- ↑ "Archived copy" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar August 17, 2013. Cyrchwyd 2014-04-06.CS1 maint: archived copy as title (link)
- ↑ 7.0 7.1 oxford.universitypressscholarship.com; adalwyd 12 Ionawr 2022
- ↑ Harris, Harriet (2008). Fundamentalism and Evangelicals. Oxford: Oxford University Press. ISBN 978-0-19-953253-7. OCLC 182663241.
- ↑ KYAW ZWA MOE (March 30, 2013). "Root Out the Source of Meikhtila Unrest". Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 27, 2013. Cyrchwyd November 4, 2013.
- ↑ Athas, Iqbal; Hume, Tim (June 24, 2014). "Fear, shock among Sri Lankan Muslims in aftermath of Buddhist mob violence". CNN. Cyrchwyd January 23, 2020.
- ↑ "Sri Lanka struggles to halt days of Buddhist riots". BBC News. March 7, 2018. Cyrchwyd January 23, 2020.
- ↑ George M. Marsden, Fundamentalism and American Culture, (1980) pp 4-5 Over 1400 scholarly books have cited Marsden's work, according to Google Scholar.
- ↑ Buescher, John. "A History of Fundamentalism", Teachinghistory.org Archifwyd 2018-09-26 yn y Peiriant Wayback. Retrieved Awst 15, 2011.
- ↑ Mark A. Noll, A History of Christianity in the United States and Canada (1992) pp 376-86
- ↑ George M. Marsden, "Fundamentalism and American Culture", (1980) p. 117
- ↑ "fundamentalist (adj.)". Etymonline. Online Etymology Dictionary. Cyrchwyd January 29, 2021.
- ↑ Curtis Lee Laws, "Convention Side Lights," The Watchman-Examiner, 8, no. 27 (1 Gorffennaf 1920), p 834.
- ↑ Carpenter, Revive us Again (1997) p 200
- ↑ Lipner 2009, p. 8 Quote: "[...] one need not be religious in the minimal sense described to be accepted as a Hindu by Hindus, or describe oneself perfectly validly as Hindu. One Mai be polytheistic or monotheistic, monistic or pantheistic,henotheistic, panentheistic ,pandeistic, even an agnostic, humanist or atheist, and still be considered a Hindu."
- ↑ Kurtz, Lester, ed. (2008). Encyclopedia of Violence, Peace and Conflict. Academic Press. ISBN 978-0-12-369503-1.
- ↑ MK Gandhi, The Essence of Hinduism Archived 24 Gorffennaf 2015 at the Wayback Machine, Editor: VB Kher, Navajivan Publishing, see page 3; According to Gandhi, "a man Mai not believe in God and still call himself a Hindu."
- ↑ Doniger 2014, p. 3.
- ↑ (yn en) Hinduism not a religion, there's no book, no papacy: Sadhguru, https://www.youtube.com/watch?v=lRxmg213lBc, adalwyd 2021-12-04
- ↑ Sharma 2003, pp. 12–13.
- ↑ "On the Difference Between Hinduism and Hindutva". Association for Asian Studies (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-12-04.
- ↑ Brekke (1991). Fundamentalism: Prophecy and Protest in an Age of Globalization. Cambridge University Press. t. 127. ISBN 9781139504294.
- ↑ 27.0 27.1 Poljarevic, Emin (2021). "Theology of Violence-oriented Takfirism as a Political Theory: The Case of the Islamic State in Iraq and Syria (ISIS)". In Cusack, Carole M.; Upal, Muhammad Afzal (gol.). Handbook of Islamic Sects and Movements. Brill Handbooks on Contemporary Religion. 21. Leiden and Boston: Brill Publishers. tt. 485–512. doi:10.1163/9789004435544_026. ISBN 978-90-04-43554-4. ISSN 1874-6691.
- ↑ "Another battle with Islam's 'true believers'". The Globe and Mail.
- ↑ Mohamad Jebara More Mohamad Jebara (February 6, 2015). "Imam Mohamad Jebara: Fruits of the tree of extremism". Ottawa Citizen.
- ↑ "Archived copy" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar August 2, 2014. Cyrchwyd 2015-11-17.CS1 maint: archived copy as title (link)
- ↑ William E. Griffith, "The Revival of Islamic Fundamentalism: The Case of Iran", International Security, Mehefin 1979, Vol. 4 Issue 1, pp 132-138 in JSTOR
- ↑ Lawrence Davidson, Islamic Fundamentalism (Greenwood, 2003)
- ↑ "Terrorism: Growing Wahhabi Influence in the United States". www.govinfo.gov. Washington, D.C.: United States Government Publishing Office. 26 Mehefin 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 December 2018. Cyrchwyd 26 Mehefin 2021.
Nearly 22 months have passed since the atrocity of September 11th. Since then, many questions have been asked about the role in that day's terrible events and in other challenges we face in the war against terror of Saudi Arabia and its official sect, a separatist, exclusionary and violent form of Islam known as Wahhabism. It is widely recognized that all of the 19 suicide pilots were Wahhabi followers. In addition, 15 of the 19 were Saudi subjects. Journalists and experts, as well as spokespeople of the world, have said that Wahhabism is the source of the overwhelming majority of terrorist atrocities in today's world, from Morocco to Indonesia, via Israel, Saudi Arabia, Chechnya. In addition, Saudi media sources have identified Wahhabi agents from Saudi Arabia as being responsible for terrorist attacks on U.S. troops in Iraq. The Washington Post has confirmed Wahhabi involvement in attacks against U.S. forces in Fallujah. To examine the role of Wahhabism and terrorism is not to label all Muslims as extremists. Indeed, I want to make this point very, very clear. It is the exact opposite. Analyzing Wahhabism means identifying the extreme element that, although enjoying immense political and financial resources, thanks to support by a sector of the Saudi state, seeks to globally hijack Islam [...] The problem we are looking at today is the State-sponsored doctrine and funding of an extremist ideology that provides the recruiting grounds, support infrastructure and monetary life blood of today's international terrorists. The extremist ideology is Wahhabism, a major force behind terrorist groups, like al Qaeda, a group that, according to the FBI, and I am quoting, is the "number one terrorist threat to the U.S. today".
- ↑ DeLong-Bas, Natana J. (2004). Wahhabi Islam: From Revival and Reform to Global Jihad. New York: Oxford University Press. ISBN 0195169913.
- ↑ Crooke, Alastair (30 Mawrth 2017). "You Can't Understand ISIS If You Don't Know the History of Wahhabism in Saudi Arabia". The Huffington Post. New York. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Awst 2014. Cyrchwyd 28 Mehefin 2021.
- ↑ "Wahhabist Ideology: What It Is And Why It's A Problem". The Huffington Post. New York. 22 December 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 April 2020. Cyrchwyd 28 Mehefin 2021.
- ↑ "fundamentalism - religious movement". britannica.com. Cyrchwyd October 22, 2017.
- ↑ Ian S. Lustik (Fall 1987). "Israel's Dangerous Fundamentalists". Fp : The Magazine of Global Politics, Economics and Ideas (68): 118–139. ISSN 0015-7228. http://www.geocities.com/alabasters_archive/dangerous_fundamentalists.html. Adalwyd November 4, 2013.
- ↑ Adriana Kemp, Israelis in Conflict: Hegemonies, Identities, and Challenges, Sussex Academic Press, 2004, pp.314–315.
- ↑ www.britannica.com; adalwyd 12 Ionawr 2022
- ↑ Nagata, Judith. 2001. Toward an Anthropology of "Fundamentalism." Toronto: Blackwell Publishing, p.9.
- ↑ "Secular fundamentalism", International Herald Tribune, December 19, 2003
- ↑ "Headscarf ban sparks new protests," BBC News, Ionawr 17, 2004
- ↑ Ayesha Ahmad, "Muslim Activists Reject Secular Fundamentalism", originally published at IslamOnline, April 22, 1999. See also Minaret of Freedom 5th Annual Dinner, Edited Transcript, Minaret of Freedom Institute website.
- ↑ Gary J. Lewis, Stuart J. Ritchie, Timothy C. Bates (2011-09-03). "The relationship between intelligence and multiple domains of religious belief: Evidence from a large adult US sample" (PDF).CS1 maint: multiple names: authors list (link)
Ffynonellau a llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Appleby, R. Scott, Gabriel Abraham Almond, ac Emmanuel Sivan (2003). Crefydd Gref . Chicago: Gwasg Prifysgol Chicago.ISBN 0-226-01497-5ISBN 0-226-01497-5
- Armstrong, Karen (2001). Y Frwydr dros Dduw : Hanes Ffwndamentaliaeth . Efrog Newydd: Ballantine Books.ISBN 0-345-39169-1ISBN 0-345-39169-1
- Brasher, Brenda E. (2001). Gwyddoniadur Ffwndamentaliaeth . Efrog Newydd: Routledge.ISBN 0-415-92244-5ISBN 0-415-92244-5
- Caplan, Lionel. (1987). "Astudiaethau mewn Ffwndamentaliaeth Grefyddol". Llundain: The MacMillan Press Ltd.
- Dorff, Elliot N. a Rosett, Arthur, A Living Tree; Gwreiddiau a Thwf Cyfraith Iddewig, SUNY Press, 1988.
- Keating, Karl (1988). Catholigiaeth a Ffwndamentaliaeth . San Francisco: Ignatius.ISBN 0-89870-177-5ISBN 0-89870-177-5
- Gorenberg, Gershom. (2000). Diwedd Dyddiau: Ffwndamentaliaeth a'r Frwydr ar gyfer Mynydd y Deml. Efrog Newydd: The Free Press.
- Hindery, Roderick. 2001. Indoctrination a Hunan-dwyll neu Meddwl Rhydd a Beirniadol? Gwasg Mellen: agweddau ar ffwndamentaliaeth, tt. 69–74.
- Lawrence, Bruce B. Amddiffynwyr Duw: Y Gwrthryfel Ffwndamentalaidd yn erbyn yr Oes Fodern. San Francisco: Harper & Row, 1989.
- Marsden; George M. (1980). Ffwndamentaliaeth a Diwylliant America: Llunio Efengyliaeth yr Ugeinfed Ganrif, 1870-1925 Gwasg Prifysgol Rhydychen.
- Marty, Martin E. ac R. Scott Appleby (gol. ). Y Prosiect Ffwndamentaliaeth . Chicago: Gwasg Prifysgol Chicago.
- (1991). Cyfrol 1: Ffwndamentaliaethau a Arsylwyd .ISBN 0-226-50878-1ISBN 0-226-50878-1
- (1993). Cyfrol 2: Ffwndamentaliaethau a Chymdeithas .ISBN 0-226-50880-3ISBN 0-226-50880-3
- (1993). Cyfrol 3: Ffwndamentaliaethau a'r Wladwriaeth .ISBN 0-226-50883-8ISBN 0-226-50883-8
- (1994). Cyfrol 4: Accounting for Fundamentalisms .ISBN 0-226-50885-4ISBN 0-226-50885-4
- (1995). Cyfrol 5: Fundamentalisms Comprehended .ISBN 0-226-50887-0ISBN 0-226-50887-0
- Noll, Marc A. Hanes Cristionogaeth yn yr Unol Dalaethau a Chanada . Grand Rapids: Eerdmans, 1992.
- Ruthven, Malise (2005). "Fwndamentaliaeth: Chwilio am Ystyr". Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen.ISBN 0-19-280606-8ISBN 0-19-280606-8
- Torrey, RA (gol.). (1909). Y Hanfodion . Los Angeles: Sefydliad Beiblaidd Los Angeles (BIOLA bellach yn Brifysgol Biola ).ISBN 0-8010-1264-3ISBN 0-8010-1264-3
- "Symudiadau crefyddol: ffwndamentalaidd." Yn Goldstein, Norm (Gol.) (2003). The Associated Press Stylebook and Briefing on Media Law 2003 (38th arg.), t. 218. Efrog Newydd: The Associated Press.ISBN 0-917360-22-2ISBN 0-917360-22-2 .
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Cleddyf yr Arglwydd: Gwreiddiau Ffwndamentaliaeth mewn Teulu Americanaidd, llyfr gan Andrew Himes
- A all unrhyw un ddiffinio Ffwndamentalwr? Erthygl gan Terry Mattingly trwy Scripps Howard News Service
- Fundamentalism
- The God Delusion and Atheist Fundamentalism gan Richard Dawkins gan Simon Watson, cyhoeddwyd yn Anthropoetics XV, 2 Gwanwyn 2010
- Holi ac Ateb ar Ffwndamentaliaeth Islamaidd
- www.blessedquietness.com gwefan Gristnogol geidwadol, a gynhelir gan Steve van Natten
- Merched yn Erbyn Ffwndamentaliaeth (DU)
- Meddiant Yahya Abdul Rahman ar Ffwndamentalwyr A Ffwndamentaliaeth
- Gwreiddiau Ffwndamentaliaeth a Olrheiniwyd i Gyfieithiadau Beiblaidd yr 16eg Ganrif, Prifysgol Harvard, Tachwedd 7, 2007.
- Yr Afluniad Ffwndamentalaidd o'r Neges Islamaidd gan Syed Manzar Abbas Saidi, a gyhoeddwyd yn Athena Intelligence Journal
- Admiel Kosman, Rhwng Iddewiaeth Uniongred a nihiliaeth: Myfyrdodau ar ysgrifau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y diweddar Rabbi Shimon Gershon Rosenberg, Haaretz, Awst 17, 2012.