Ffordd yr A465
Math | ffordd dosbarth A |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot, Blaenau Gwent, Swydd Henffordd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8442°N 2.9999°W |
Hyd | 66 milltir |
Un o briffyrdd Cymru, sy'n rhedeg o'r gorllwein i'r dwyrain gan gysylltu blaenau cymoedd glofäol y De yw'r A465, neu Ffordd Blaenau'r Cymoedd.
Hawdd yw rhannu'r ffordd hon yn ddwy: 'Ffordd Blaenau'r Cymoedd' sy'n gyswllt bwsig rhwng de-orllewin Cymru a chanolbarth Lloegr (ar hyd yr A40 a'r M50); a siwrnai ddymunol wledig drwy Swydd Henffordd.
Dechreua'r ffordd ar gyffordd 43 (Llandarcy) yr M4 ar ffurf ffordd ddeuol ac yn rhedeg yr holl ffordd i fyny Cwm Nedd. Agorwyd rhan newydd rhwng Tonna a Glyn-Nedd ym 1997 er mwyn dargyfeirio traffig oddi ar yr hen heol droellog (y B4242 bellach). Heibio Glyn-Nedd, mae'r A465 yn dringo'r rhiw i Hirwaun le daw'r A4059 o'r Bannau Brycheiniog a'r A4061 o Gwm Rhondda Fawr at ei gilydd ar ffurf cylchfan.
Newidia'r A465 yn ffordd dair lôn ar ôl cylchfan gyntaf Hirwaun, ond y mae cynllun ar waith i ddeuoli'r A465 rhwng y man hwn a'r Fenni fesul camau.
Mae'n tueddu i basio heibio, yn hytrach na thrwy, trefi blaenau'r cymoedd, megis Merthyr Tudful, Tredegar a Glyn Ebwy nes cyrraedd Y Fenni. Â'r ffordd ymlaen trwy Lanfihangel Crucornau i Loegr a Henffordd.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Contractwyr Deuoli'r A465 Archifwyd 2007-09-29 yn y Peiriant Wayback
- Sabre: Disgrifiad Taith Archifwyd 2007-10-10 yn y Peiriant Wayback