Neidio i'r cynnwys

Ffion Morgan

Oddi ar Wicipedia
Ffion Morgan
Ganwyd11 Mai 2000 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Saflecanolwr Edit this on Wikidata

Pêl-droediwr Cymreig yw Ffion Alys Morgan (ganwyd 11 Mai 2000) sy'n chwarae dros Bristol City a thîm cenedlaethol merched Cymru fel chwaraewr canol cae[1]. Dechreuodd ei gyrfa gyda Rhydaman a Dinas Caerdydd, cyn ymuno â Coventry United yn 2019. Ymddangosodd yn ei gêm ryngwladol gyntaf dros Gymru yn 2017.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Mynychodd Morgan Ysgol Tre-Gib yn Llandeilo yn ei harddegau.[2]

Gyrfa clwb

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Morgan chwarae pêl-droed yn bedair oed i dîm ieuenctid lleol Saron Juniors. Yn 11 oed, ymunodd â Merched Rhydaman. Wedyn, ymunodd Morgan â Chaerdydd ond roedd yn absennol o'r ymgyrch 2017-18 ar ôl iddi ddioddef anaf difrifol yn ystod gêm ryngwladol dros dîm dan-19 Cymru.[3][4] Ym Medi 2019, ymunodd â thîm Pencampwriaeth Merched FA Coventry United.[5] Wedyn, yng Ngorffennaf 2020, ymunodd â Crystal Palace.[6]

Gyrfa ryngwladol

[golygu | golygu cod]

Mae Morgan wedi cael ei chapio dros dîm cenedlaethol Cymru, gan ymddangos ar gyfer y gemau rhagbrofol Cwpan y Byd Merched FIFA 2019. [7] Gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf i'r garfan hŷn yn erbyn Gogledd Iwerddon yn 2017.[3]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Mae Morgan yn ddwyieithog, ac yn gallu siarad Cymraeg a Saesneg. Mae ganddi hefyd Drwydded B UEFA mewn hyfforddi.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "24. FFION MORGAN". Bristol City (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-10-14. Cyrchwyd 14 Medi 2022.
  2. 2.0 2.1 "How this Wales international is inspiring new girls to fall in love with football" (yn Saesneg). Football Association of Wales Trust. 8 Mawrth 2019. Cyrchwyd 14 Hydref 2022.
  3. 3.0 3.1 Ellis, Callum (30 Awst 2018). "Ffion Morgan explains why getting back on track after ACL injury means so much". Exposport. Cyrchwyd 14 Hydref 2022.
  4. Hadley, Craig (17 Awst 2019). "Welsh teenager Ffion Morgan joins Coventry United". Midlands WOSO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-27. Cyrchwyd 14 Hydref 2022.
  5. "Coventry United Sign Ffion Morgan". South Wales Guardian. 11 September 2019. Cyrchwyd 26 March 2020.
  6. "Ffion Morgan joins Crystal Palace Women". Crystal Palace F.C. 17 Gorffennaf 2020. Cyrchwyd 14 Hydref 2022.
  7. "Women World Cup Qualifiers Europe 2017/2018 » Teams (Wales)". WorldFootball.net. Cyrchwyd 29 August 2019.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.