Neidio i'r cynnwys

Ffilm gomedi

Oddi ar Wicipedia
Ffilm gomedi
Y ffilm gomedi gyntaf, L'Arroseur Arrosé (1895).
Enghraifft o'r canlynolgenre mewn ffilm Edit this on Wikidata
Mathffilm, comedi Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Genre ffilm sydd yn pwysleisio digrifwch ac hwyl yw ffilm gomedi. Dyma un o'r mathau hynaf o ffilm yn hanes y sinema.

Dylanwadwyd yn gryf ar ffilmiau comedi mud gan adloniant vaudeville a'r neuadd gerdd, a newidiodd nifer o ddigrifwyr o'r llwyfan i'r sgrin yn y cyfnod cynnar hwn. Ffilmiau byrion, un-rholyn, oedd yr esiamplau cyntaf o'r genre, a gynhwysid mewn sioeau amlgyfrwng a gyflwynwyd mewn theatr, neuadd gerdd, neu babell ffair. Yr oedd y traddodiad poblogaidd hwn yn cynnig hiwmor bras, at ddant pawb, yn hytrach na chomedi foesau neu ddychan. Dibynnodd y ffilm gomedi fud ar jôcs gweledol ers y cychwyn: y ffilm gomedi gyntaf oedd L'Arroseur Arrosé (1895) gan Louis Lumière, sydd yn portreadu bachgen yn chwarae cast ar ddyn gyda phibell ddŵr. Erbyn y 1910au, datblygodd slapstic i gynnwys golygfeydd rasio a siaso a chwympo a baglu, ac actau arferol, er enghraifft ffilmiau'r Keystone Cops. Daeth sawl un "arwr comig" yr oes hon yn sêr byd-enwog, gan gynnwys Charlie Chaplin, Harold Lloyd, a Buster Keaton. Yn sgil dyfodiad ffilmiau sain yn niwedd y 1920au, symudodd y bwyslais o gomedi gorfforol i jôcs llafar, er enghraifft yn ffilmiau'r brodyr Marx a W. C. Fields. Fodd bynnag, parhaodd ystumiau egnïol a ffug-drais yn elfen o gomedi orffwyll boblogaidd.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Susan Hayward, Cinema Studies: The Key Concepts (Llundain: Routledge, 2018), t. 97.