Ffenigl ffug
Gwedd
Ridolfia segetum | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Apiales |
Teulu: | Apiaceae |
Genws: | Ridolfia |
Enw deuenwol | |
Ridolfia segetum Giuseppe Giacinto Moris |
Planhigyn blodeuol ydy Ffenigl ffug sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Apiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Ridolfia segetum a'r enw Saesneg yw False fennel.
tyf i uchder o 40–100 cm. Saif y bonyn yn dalsyth, gyda changhennau. Mae'r dail wedi'u hollti, sawl gwaith ac mae'r blodau'n felyn yn glystyrau bychan o tua 10-60.
Ceir olew defnyddiol yn yr hadau, ac mae ogla cryf gan y planhigyn; fe'i defnyddir i roi blas ar fwyd, yn enwedig i biclo, neu'n gyfan yn amrwd neu wedi'i goginio.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur