Ferrando II, brenin Aragón
Ferrando II, brenin Aragón | |
---|---|
Portread o Ferrando gan Michel Sittow. | |
Ganwyd | 10 Mawrth 1452 Palacio de los Sada |
Bedyddiwyd | 11 Chwefror 1453 |
Bu farw | 23 Ionawr 1516 Casa de Santa María |
Dinasyddiaeth | Coron Aragón |
Tad | Juan II, brenin Aragón |
Mam | Juana Enríquez |
Priod | Isabel I, brenhines Castilla, Germaine o Foix |
Partner | Aldonza Ruiz de Ivorra |
Plant | Juana o Castilla, Isabel o Aragón, brenhines Portiwgal, Juan, tywysog Asturias, María o Aragón, brenhines Portiwgal, Catrin o Aragón, Alonso de Aragón, Juan o Aragón, tywysog Girona |
Llinach | Tŷ Trastámara |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Cnu Aur, Urdd Calatrava, Urdd Santiago |
llofnod | |
Teyrn o Dŷ Trastámara oedd Ferrando (Aragoneg: Ferrando; Catalaneg: Ferran; Basgeg: Errando neu Fernando; Eidaleg: Ferdinando; Sbaeneg: Fernando; 10 Mawrth 1452 – 23 Ionawr 1516) a fu'n Frenin Aragón dan yr enw Ferrando II o 1479 hyd at ei farwolaeth, yn Frenin Castilla a León, drwy ei briodas i Isabel I, dan yr enw Fernando V o 1475 i 1504, yn Frenin Napoli dan yr enw Ferdinando III o 1504 hyd at ei farwolaeth, ac yn Frenin Sisili dan yr enw Ferdinando II o 1468 hyd at ei farwolaeth, ac yn Frenin Navarra dan yr enw Fernando I o 1513 hyd at ei farwolaeth. Yn yr ieithoedd Ffrangeg, Almaeneg, a Saesneg fe'i adwaenir gan yr enw Ferdinand.
Ganed yn Sos, Teyrnas Aragón, yn fab i'r Tywysog Chuan—mab y Brenin Ferrando I—a'i ail wraig Juana Enríquez, gor-or-wyres Alfonso XI, brenin Castilla. Bu Chuan yn Frenin Navarra drwy etifeddiaeth ei wraig gyntaf, y Frenhines Blanche I, a fu farw ym 1441. Brawd hŷn Chuan oedd Alfonso V, brenin Aragón, a gwasanaethodd Chuan yn is-gadfridog yn Aragón tra'r oedd Alfonso yn treulio'r rhan fwyaf o'i deyrnasiad yn yr Eidal. Esgynnodd Chuan II i goron Aragón yn sgil marwolaeth Alfonso V ym 1458. Wedi cyfnod o olyniaeth ansicr, ym 1461 enwodd Chuan ei fab Ferrando yn etifedd eglur i'w holl deyrnasoedd a thiroedd. Cyfarwyddwyd ei addysg yn drylwyr gan ei dad er mwyn ei dreiddio yn syniadaeth y dyneiddwyr a'i hyfforddi wrth wleidydda a milwra. Ysgrifennodd Chuan draethodau ar bwnc gwladweinyddiaeth at ei fab, a rhodd iddo brofiad o lywodraethu pan oedd yn llanc. Er nad oedd yn fyfyriwr astud, roedd yn hoff o gerddoriaeth leisiol ac offerynnol ac yn noddi'r celfyddydau. Brwydrodd Ferrando ym myddin Aragón yn ystod Rhyfel Cartref Catalwnia (1462–72); bu Jean II, Dug Lorraine, yn drech na Ferrando yn Viladamat yn Hydref 1466, ond cafodd Ferrando fuddugoliaeth yn Berga ym Medi 1468. Dyrchafwyd Ferrando gan ei dad yn Frenin Sisili yn 16 oed, ym 1468, er mwyn gwella'r siawns o gael ei dderbyn gan lys brenhinol Castilla.[1]
Priododd Ferrando â'r Dywysoges Isabel, hanner-chwaer Enrique IV, brenin Castilla, yn Valladolid ar 19 Hydref 1469. Nod yr undeb oedd i gysylltu llys Aragón â Choron Castilla, ac i gadarnhau hawl Isabel i'r orsedd. Er gwaethaf cymhellion gwleidyddol y dyweddïo, cafodd Ferrando ac Isabel berthynas gariadus ond eiddig. Ar ddechrau'r briodas, bu Ferrando yn aml ar grwydr yn nhrefi Castilla neu yn ôl yn Aragón, yn pwyso ar gynghreiriaid pendefigaidd ac yn brwydro ar faes y gad. Digiodd Ferrando fywyd cysurus ei wraig yn y cyfnod hwn, a byddai'n mercheta ar ei deithiau ac yn cenhedlu o leiaf dwy ferch anghyfreithlon. Cawsant bump o blant: Isabel (1470–98), Juan (1478–97), Juana (1479–1555), María (1482–1517), a Catalina (1485–1536). Yn sgil marwolaeth Enrique IV heb epil ar 11 Rhagfyr 1474, ansicr oedd olyniaeth Coron Castilla. Yn Segovia drennydd, datganodd Isabel ei hunan yn Frenhines Castilla a León, a rhuthrodd Ferrando yno i wasanaethu yn frenin cydweddog iddi. Gwrthryfelodd cefnogwyr yr ymhonwraig Joanna la Beltraneja—merch honedig Enrique IV, a gwraig Afonso V, brenin Portiwgal—gyda chymorth Portiwgal a Ffrainc, yn erbyn Isabel a Ferrando yn Rhyfel Olyniaeth Castilla (1475–79). Yn sgil Cytundeb Alcáçovas, cydnabuwyd Isabel I a Fernando V yn gyd-deyrn ar Castilla a León. Yn yr un flwyddyn, 1479, esgynnodd Ferrando i orsedd Aragón wedi marwolaeth ei dad Chuan II.
Ers cychwyn y cyd-deyrnasiad, ymdrechodd Ferrando ac Isabel i atgyfnerthu safle'r Eglwys Gatholig yn Castilla, er mwyn unioni'r sefyllfa grefyddol ar draws Sbaen ac i ennill cefnogaeth oddi ar Rufain. Sefydlwyd Chwilys Sbaen ym 1478 i erlid anghredinwyr, ac ym 1492 cyhoeddwyd Gorchymyn Alhambra ym 1492 i yrru'r Iddewon allan o deyrnasoedd Castilla ac Aragón. Ym 1482, cychwynnodd Ferrando ar ymgyrch ddeng mlynedd yn erbyn Emirad Granada, i gwblhau'r Reconquista a gyrru'r Mwriaid ymaith o Benrhyn Iberia. Ar 2 Ionawr 1492 ildiodd y Mwriaid a chyfeddiannwyd tiroedd Granada yn rhan o Deyrnas Castilla. Yn fuan wedi gorchfygiad Granada, rhoddwyd cefnogaeth Ferrando ac Isabel i fordeithiau Cristoforo Colombo ar draws Cefnfor yr Iwerydd. Oherwydd ei ymdrechion dros y ffydd, a'i ymyrraeth yn ne'r Eidal, urddwyd Ferrando gyda'r teitl anrhydeddus "y Catholig" gan y Pab Alecsander VI ar 2 Rhagfyr 1496, a gelwir Ferrando ac Isabel yn "y Teyrnoedd Catholig".[1]
Bu farw ei etifedd, y Tywysog Juan, ym 1497, a'i ferch hynaf y Dywysoges Isabel y flwyddyn nesaf. Dioddefodd y Dywysoges Juana o wallgofrwydd, ac ym 1504 bu farw'r Frenhines Isabel. Daeth y cyd-deyrnasiad dros Castilla a León i ben yn sgil marwolaeth ei wraig, ond gwasanaethodd Ferrando yn rhaglyw oherwydd afiechyd meddwl y Frenhines Juana. I atgyfnerthu ei rym, ailbriododd Ferrando â Germaine de Foix, nith i Frenin Ffrainc, ym 1505. Yn sgil y sgism a ddilynodd Pumed Cyngor y Lateran ym 1512, meddiannwyd Teyrnas Navarra gan Ferrando a'i ymgorffori'n rhan o Goron Gastilla. Dechreuodd ei iechyd ddirywio ym 1513, ac aeth Ferrando ati i sicrhau olyniaeth ei ŵyr, Carlos. Yn Ionawr 1516 cychwynnodd Ferrando ar daith i Granada, ac ym mhentref Madrigalejo, Extremadura, y bu farw yn 63 oed. Yn ôl ei ewyllys, fe'i claddwyd ger Isabel yn ninas Granada.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Ferdinand II, king of Spain. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Ebrill 2021.