Eyjafjallajökull
Gwedd
Math | mynydd, stratolosgfynydd, llosgfynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Rangárþing eystra |
Gwlad | Gwlad yr Iâ |
Uwch y môr | 1,666 metr, 1,651 metr |
Cyfesurynnau | 63.63°N 19.62°W |
Deunydd | basalt |
Llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ ydy Eyjafjallajökull a achosodd gryn anhwylustod i deithio awyr drwy Ewrop yng ngwanwyn 2010 oherwydd y llwch neu'r lludw a daflwyd i'r awyr wrth iddo echdorri. Anaml, fodd bynnag, y defnyddiwyd yr enw ar newyddion Saesneg yn bennaf oherwydd cymhlethdod yr enw o ran ynganiad.
Fe'i lleolir i'r gogledd o Skógar ac i'r gorllewin o Mýrdalsjökull.
Ffrwydriad 2010
[golygu | golygu cod]Adroddiad ym mis Gorffennaf 2010:
- MAE’R LLWCH FOLCANIG WEDI PEIDIO – OND BETH YW’R EFFAITH HIRDYMOR AR GYMRU
- Efallai fod y llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ wedi rhoi’r gorau i ollwng llwch erbyn hyn, ond mae’r Cyngor Cefn Gwlad wrthi’n brysur yn ceisio darganfod beth allai’r effaith amgylcheddol fod ar y wlad yn yr hirdymor. Mae gan wyddonwyr y Cyngor ran hollbwysig i’w chwarae yn y gwaith o ymchwilio i effeithiau cemegol y llwch ar orsaf fonitro’r Wyddfa, er mwyn gweld beth yn union yw’r effaith ar amgylchedd Cymru.
- Trwy gasglu samplau o weiriau a dadansoddi’r glaw bob wythnos, mi fydd yr ymchwilwyr yn gallu darganfod beth yw cyfansoddiad cemegol y llwch folcanig ei hun. Ymhen amser, mi ddylai hyn ein galluogi i ddeall y llwch yn well a darganfod pa mor sydyn y caiff ei ymgorffori mewn pridd, llystyfiant a dŵr. .
- Yn ôl Dylan Lloyd, Swyddog Goruchwylio’r Amgylchedd:
- “Rydyn ni’n dadansoddi’r samplau i weld faint o fflworid sydd ynddyn nhw. Mae llosgfynyddoedd yn gollwng nwy fflworin, yn ogystal â chemegau eraill, a phan fydd y lefelau’n uchel mae modd i dda byw ddioddef o fflworosis. Yn y gorffennol, y gred yw bod ffrwydradau folcanig mawr wedi lladd nifer helaeth o dda byw yng Ngwlad yr Iâ, yn rhannol oherwydd y lefelau fflworid. Defra sydd wedi gofyn inni wneud y gwaith yma, ac mi allai roi darlun cliriach inni o’r effaith ar Gymru pe bai hanes yn cael ei ailadrodd.”
- Mae’r gwaith monitro yma’n rhan o brosiect ymchwil ehangach a gaiff ei gydlynu gan y Rhwydwaith Newid Amgylcheddol ar 57 o safleoedd ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Mae gan y Rhwydwaith safleoedd ym mhob cwr o’r wlad, yn ogystal â phymtheg mlynedd o ddata ar gyfer bron pob safle tirol; felly, y gobaith yw y bydd modd canfod ‘olion bysedd’ y llosgfynydd yn y Deyrnas Gyfunol.
- Yn ôl David Parker, Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth y Cyngor Cefn Gwlad: “Rydyn ni wedi mynd i’r afael â gwaith monitro ers sawl blwyddyn, ac felly mae modd inni ddarganfod newidiadau yn yr amgylchedd yn gyflym dros ben. Yna, mae modd defnyddio’r wybodaeth i gynghori’r Llywodraeth ynglŷn ag effaith hirdymor y llwch folcanig – ar drigolion a bywyd gwyllt Cymru fel ei gilydd.” (Datganiad i’r wasg gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru)[1]