Esgob Mynyw
Gwedd
- Peidiwch â chymysgu Esgobaeth Mynyw ag Esgobaeth Mynwy, sy'n esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru.
Ordeiniwr Esgobaeth Mynyw (Saesneg: Diocese of Menevia), sy'n esgobaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig yn ardal Caerdydd, yw Esgob Mynyw.
Mae'r esgobaeth yn gweinyddu ardal o 9,716 km², sy'n cynnwys, yn fras, Dinas a Sir Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot, a siroedd traddodiadol Cymru Sir Frycheiniog, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Sir Faesyfed. Lleolir yr Esgobaeth yn Abertawe.
Codwyd Ficeriaeth Apolistig Cymru (Saesneg: Vicariate Apostolic of Wales) i statws esgobaeth ar 12 Mai, 1898.
Rhestr Esgobion Esgobaeth Mynyw, Cymru
[golygu | golygu cod]Tymor | Deiliad | Nodau |
---|---|---|
Ficeriaeth Apostolig Cymru | ||
4 Gorffennaf 1895 – 14 Mai 1898 | Francis Mostyn, Ficer Apostolig Cymru | Offeiriaid; daeth yn Esgob Mynyw |
Esgobaeth Mynyw | ||
14 Mai 1898 – 7 Mawrth 1921 | Francis Mostyn, Esgob Mynyw | O hyn ymlaen, Ficer Apolistig; swyddogwyd yn Archesgob Caerdydd |
21 Mehefin 1926 – 13 Mawrth 1935 | Francis J. Vaughan | Offeiriaid; ordeinwyd 8 Medi 1926; bu farw yn ei swyddogaeth |
10 Awst 1935 – 20 Mehefin 1940 | Michael McGrath | Offeiriaid; ordeinwyd 24 Medi, 1935; swyddogwyd yn Archesgob Caerdydd |
15 Mawrth 1941 – 26 Ebrill 1946 | Daniel Hannon | Offeiriaid; ordeinwyd 1 Mai 1941; bu farw yn ei swyddogaeth |
8 Chwefror 1947 – 16 Mehefin 1972 | John Petit | Offeiriaid; 25 Mawrth 1947; ymddeolodd |
16 Mehefin 1972 – 5 Chwefror 1981 | Langton Fox | Esgob cynorthwyol Mynyw; ymddeolodd |
5 Chwefror 1981 – 25 Mawrth 1983 | John Aloysius Ward | Esgob cynorthwyol Esgob Mynyw; swyddogwyd yn Archesgob Caerdydd |
13 Hydref 1983 – 12 Chwefror 1987 | James Hannigan | Offeiriaid Mynyw; ordeinwyd 23 Tachwedd 1983; swyddogwyd yn Esgob Wrecsam |
12 Chwefror 1987 – 12 Mehefin 2001 | Daniel Mullins | Esgob cynorthwyol Caerdydd; ymddeolodd |
12 Mehefin 2001 – 16 Hydref 2008 | John Jabalé | Esgob cynorthwyol Mynyw; ymddeolodd |
16 Hydref 2008 – 11 Gorffennaf 2019 | Tom Burns | ymddeolodd |
11 Gorffennaf 2019 – 27 Ebrill 2022 | Gwag | |
27 Ebrill 2022 – presennol | Mark O'Toole |