Eog Llyn Llyw
Eog Llyn Llyw yw'r hynaf a'r doethaf o'r Anifeiliaid Hynaf a nodir yn chwedl Culhwch ac Olwen.
Un o'r Anoethau (tasgau amhosibl) a osodir ar yr arwr Culhwch gan Ysbaddaden Bencawr yn y chwedl yw rhyddhau Mabon fab Modron o'i garchar. Cais Culhwch gymorth Arthur. Anfona'r brenin Bedwyr, Cei, Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd ac Eidoel ar neges i geisio gwybodaeth am Fodron gan yr Anifeiliaid Hynaf. Mae Eryr Gwern Abwy yn eu tywys i Eog Llyn Llyw. Mae'r Eog yn esbonio fel ei fod yn arfer nofio ar hyd yr afon bob nos hyd daw i furiau Caerloyw lle mae'n clywed griddfan ofnadwy yn dod o dŵr y castell. Mae'n cynnig cludo Gwrhyr ac Eidoel ar ei ysgwyddau i weld drostynt eu hunain. Llwyddant i siarad â'r carcharor sydd neb llai na Mabon fab Modron.
Dychwelant i lys Arthur. Gwysia Arthur holl filwyr a machogion y deyrnas ato a chychwyn am Gaerloyw. Tra bod Arthur a'i lu yn ymosod ar y castell, gan ddilyn cyngor Mabon, aiff Cei a Bedwyr ar hyd yr afon ar ysgwyddau Eog Llyn Llyw. Cyrhaeddent y tŵr ar lan yr afon ac mae Cei yn rhwygo'r muriau ac yn rhyddhau Mabon.
Gellir dosbarthu Eog Llyn Llyw gyda'r sawl enghraifft o eogiaid goruwchnaturiol ym myd y Celtiaid. Cysylltir yr eog â gwybodaeth a doethineb. Mae'r arwr Gwyddelig Finn mac Cumaill er enghraifft yn cael dawn proffwyd a doethwr ar ôl rhoi ei fawd yn ei geg ar ôl cyffwrdd eog arbennig.
Mae lleoliad Llyn Llyw yn ansicr, ond mae'r ffaith fod yr Eog yn nofio i fyny'r afon i Gaerloyw yn awgrymu ei fod o gwmpas rhan isaf Afon Hafren.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.) Culhwch and Olwen: an edition and study of the oldest Arthurian tale (Gwasg Prifysgol Cymru, 1992) ISBN 0-7083-1127-X