Ellis Owen
Ellis Owen | |
---|---|
Ganwyd | 31 Mawrth 1789 Eifionydd |
Bu farw | 27 Ionawr 1868 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Hynafiaethydd, awdur, beirniad llenyddol a bardd o Gymru oedd Ellis Owen, a adwaenir fel rheol fel Ellis Owen, Cefnymeysydd (31 Mawrth 1789 - 27 Ionawr 1868).[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed ef ar fferm 'Cefn-y-meysydd Isaf', ym mhlwyf Ynyscynhaearn yn Eifionydd ac addysgwyd ef mewn ysgol yn yr eglwys ym Mhenmorfa, gyda David Owen (Dewi Wyn o Eifion) yn gyd-ddisgybl; yna aeth i ysgol yn yr Amwythig i ddysgu Saesneg. Treuliodd ei oes yn hen lanc, adref gyda'i fam a'i chwiorydd, yn ffermio 'Cefn-y-meysydd Isaf' ac fe'i claddwyd ger drws Eglwys Ynyscynhaearn, Pentrefelin ger Cricieth.
Fel llawer o bobl dysgedig ei oes, gweithiai oddi fewn ei gymuned, a bu'n warden yr eglwys leol, yn arolygydd 'pwysau a mesur' dros y sir, yn llywydd ac yn ysgrifennydd ysgolion Sul Methodistiaid Calfinaidd Llŷn ac Eifionydd ac yn ysgrifennydd Cymdeithas y Beiblau yn Nhremadog.
Bardd a hanesydd
[golygu | golygu cod]Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn hanes leol, ac ysgrifennodd lawer o erthyglau ar y pwnc mewn amryw o gyfnodolion rheolaidd hefyd e.e. Seren Gomer, Y Drysorfa, Y Gwladgarwr, a'r Brython. Yn 1846 sefydlodd 'Gymdeithas Lenyddol Eifionydd' yng Nghefn-y-meysydd; bu beirdd fel Eben Fardd, Dewi Wyn a Morris Williams (Nicander) yn ymwneud a'r gymdeithas hon am gyfnod o tua 12 mlynedd.
Cyhoeddwyd ei farddoniaeth a'i ysgrifau o dan y teitl Cell Meudwy yn Nhremadog yn 1877.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Y Gestiana, Tremadog, 1892, 71-4
- Cell Meudwy, sef Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol (Cefnymeusydd), 1877 (cofiant), 1-34
Enwogion Sir Gaernarfon, 1922, 268-9
- Cymru (O.M.E.), xxvi, 29-33
- Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen ... from the earliest times to the present, 1908
- Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru, ii, 333
- Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 998-1024, 2710, 3292, 3423, 4452, 4857, 6041.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gofal! Mae'r Bywgraffiadur ar-lein yn rhoi 31 Ionawr fel diwrnod ei farw; fel y gwelir o'r ddelwedd uchod, ar y27fed y bu farw.