Elis Gruffydd
Elis Gruffydd | |
---|---|
Ganwyd | 1490 Gwesbyr |
Bu farw | 1552 Calais |
Man preswyl | Sir y Fflint, Llundain, Calais |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | milwr, copïwr, croniclwr |
Blodeuodd | 1490 |
Cyflogwr |
Croniclydd copïydd a chyfieithydd o Gymru oedd Elis Gruffydd (c.1490-c.1552), a lysenwyd "Y Milwr o Galais". Fe'i ganed yn Llanasa, Sir Fflint. Mae'n adnabyddus yn bennaf fel lluniawr y gronicl anferth Cronicl Chwech Oes y Byd, sy'n cynnwys y testun hynaf ar glawr o Hanes Taliesin, sy'n adrodd hynt a helynt y Taliesin chwedlonol.[1] Mae'r Gronicl yn un o chwe darn o waith sydd wedi'u hychwanegu at Gofrestr Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol, gan UNESCO.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Prin ac ansicr yw'r dystiolaeth am ei fywyd cynnar. Cafodd ei fagu yn Sir Fflint ac yn nes ymlaen llwyddodd i ennill lle yng ngwasanaeth teulu Wingfield yn Llundain. Aeth drosodd i Ffrainc gyda Syr Robert Wingfield a bu'n dyst i Faes y Brethyn Euraidd, ger Calais, yn 1520. Treuliodd y cyfnod o 1524 hyd 1529 fel ceidwad plas y teulu Wingfield yn Llundain. Yn ystod y cyfnod hwnnw copïodd nifer o hen lawysgrifau Cymraeg, yn cynnwys bucheddau'r saint a Chwedlau Saith Ddoethion Rhufain. Gwyddys iddo ddychwelyd i Galais fel milwr yn y garsiwn Seisnig yno. Yno, trodd o Babyddiaeth ac at Brotestaniaeth pybyr.
Ymladdodd dros Loegr yn yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a Sbaen cyn symud i Calais, a oedd yn 1530 dan feddiant Coron Lloegr.
Bu ganddo ddigon o hamdden i dreulio'r rhan fwyaf o'i amser yn copïo a chyfieithu nifer o lawysgrifau (o lyfrgell teulu Wingfield yn ôl pob tebyg). Yno hefyd, mae'n debyg, yr ysgrifennodd y rhan fwyaf o destun ei Gronicl o Chwech Oes y Byd. Ni wyddys pryd yn union y bu farw, ond 1552 yw'r dyddiad olaf yn ei gronicl, a thybir iddo farw yn fuan wedyn, yng Nghalais. Serch hynny, mae yna bosibilrwydd ei fod dal yno pan ailgymerwyd y ddinas gan y Ffrancod ym 1558.[2]
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Dim ond pytiau o waith Elis Gruffydd a gyhoeddwyd hyd yn hyn. Cyhoeddwyd rhannau o'i Gronicl o bryd i'w gilydd, yn cynnwys Ystoria Taliesin (Hanes Taliesin), disgrifiadau o ddigwyddiadau hanesyddol yn ei oes, ac ambell chwedl fel 'Chwedl Huaw ap Caw ac Arthur', 'Chwedl Myrddin' a 'Gwraig Maelgwn a'r Fodrwy', a 'Hanes Llywelyn ap Iorwerth a Chynwrig Goch o Drefriw'. Cyhoeddwyd yn ogystal ei gyfieithiad o'r llyfr meddygol cyfoes Castell yr Iechyd. Mae iaith ac arddull yr awdur yn unigryw a'i waith yn ddarllenadwy iawn. Barn J. Gwenogvryn Evans amdano oedd ei fod "y rhyddiaith fwyaf darllenadwy yn y Gymraeg ar ôl y Mabinogion."[2]
Cronicl Elis Gruffydd
[golygu | golygu cod]Sgwennwyd Cronicl o Chwech Oes y Byd rhwng 1550 a 1552, pan oedd yng ngwarchodlu byddin Lloegr, wedi'i leoli yn Calais. Mae'r Gronicl hon yn un o chwe darn o waith sydd wedi'u hychwanegu at 'Gofrestr Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol', gan UNESCO.[3] Mae'r cronicl yn disgrifio hanes y byd o'r dechrau hyd at ddyddiau'r awdur, ac mae'n cynnwys ffeithiau hanesyddol, chwedlau traddodiadol o Gymru, a hanesion o gyfnod y Tuduriaid. Dywedodd Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr a Dirprwy Brif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fod y cronicl yn "gampwaith" ond iddo fynd "braidd yn anghofiedig" erbyn hyn (2017). Dywedodd: "Ni ellir gor-bwysleisio pwysigrwydd y pedair cyfrol hyn. Hwn yw'r cronicl naratif mwyaf uchelgeisiol erioed i'w greu yn yr iaith Gymraeg, a dyma'r cyfanwaith rhyddiaith hwyaf yn yr iaith. Cynrychiola hefyd yr enghraifft wybyddus gynharaf o awdur Cymreig, yn ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa Gymreig, y hwnt i'r Deyrnas Gyfunol - er nad oedd, yn llythrennol, yn ysgrifennu y tu hwnt i ffiniau'r Deyrnas Gyfunol ar y pryd."
Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys barn gweision a morynion y Llys Brenhinol yn Llundain ar faterion megis perthynas Harri VIII ac Anne Boleyn, a gwybodaeth am gwymp Thomas Cromwell.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Gwaith Elis Gruffydd
[golygu | golygu cod]- P.K. Ford (gol.), Ystoria Taliesin (Caerdydd, 1992). Testun Gruffydd o Hanes Taliesin. Ceir rhestr ddefnyddiol yn y gyfrol o'r ddarnau o waith Elis Gruffydd sydd wedi cael ei gyhoeddi mewn cylchgronau academaidd fel Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd.
- S. Minwell Tibbot (gol.), Castell yr Iechyd (Caerdydd, 1970)
- Ail ran Cronicl Elis Gruffydd (Llawysgrif NLW 3054D) ar y Drych Digidol, LlGC
Ceir dau destun byr yn y gyfrol Rhyddiaith Gymraeg 1488-1609, gol. gan T. H. Parry-Williams (Caerdydd, 1954):
- 'Hanes Llywelyn ap Iorwerth a Chynwrig Goch o Drefriw'
- 'Mynd drosodd i Ffrainc'
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]- Jerry Hunter, Soffestri'r Saeson (Caerdydd, 2000)
- Jerry Hunter, 'Taliesin at the court of Henry VIII: aspects of the writings of Elis Gruffydd', Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 10 (2004), tt. 41-56
- Thomas Jones, 'A Welsh chronicler in Tudor England', Cylchgrawn Hanes Cymru, 1 (1960–63), 1–17
- Thomas Jones, 'Y Milwr o Galais', yn Mân Us. Sgyrsiau ac Ysgrifau (Llyfrau'r Castell, Caerdydd, 1949)
- C. Lloyd-Morgan, 'Elis Gruffydd a thraddodiad Cymraeg Calais a Chlwyd', Cof Cenedl, 11 (1996), 31–58
- P. Morgan, 'Elis Gruffudd of Gronant: Tudor chronicler extraordinary', Flintshire Historical Society Journal, 25 (1971–2), 9–20
- P. Morgan, 'Elis Gruffudd yng Nghalais', Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 21 (1964–6), 214–18
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens (Gwasg Prifysgol Cymru)
- ↑ 2.0 2.1 Thomas Jones, 'Y Milwr o Galais', yn Mân Us. Sgyrsiau ac Ysgrifau (Llyfrau'r Castell, Caerdydd, 1949).
- ↑ Gwefan Cymru Fyw; BBC; adalwyd 12 Mehefin 2018.