Elbasan
Delwedd:Elbasan 1.jpg, Albania (Elbasan County).svg, Elbasan, Albania - View through Arch, 2022.jpg | |
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 78,703 |
Cylchfa amser | UTC 01:00, UTC 2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Elbasan municipality |
Gwlad | Albania |
Uwch y môr | 140 metr |
Cyfesurynnau | 41.115409°N 20.067762°E |
Cod post | 3001–3006 |
Dinas yng nghanolbarth Albania yw Elbasan (Albaneg: Elbasan neu Elbasani). Mae'n gorwedd ar lannau Afon Shkumbin yn Ardal Elbasan a Swydd Elbasan (41°06′Gog, 20°04′Dwy). Elbasan yw'r ddinas drydedd fwyaf yn Albania, gyda phoblogaeth o tua 100,000 (amcangyfrifiad 2003) ac arwynebedd o 1,290 km².
Roedd yn gorwedd ar y Via Egnatia yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig.
Mae sawl enw ar ydref; Neokastron (Νεόκαστρον "Castell Newydd") yn Groeg, Novigrad ("Dinas Newydd") yn Slafeg a Terra Nuova ("Tir Newydd") yn Eidaleg. Daw'r enw cyfoes o'r Twrceg, il-basan ("y gaer").[1]
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Castell Elbasan
- Eglwys Mameli
- Eglwys Santes Fair
- Eglwys Sant Niclas (Shen Kolli)
- Shkolla Normale e Elbasanit (ysgol)
- Tŷ Kostandin Kristoforidhi (amgueddfa)
Economi
[golygu | golygu cod]Dechreuodd datblygiad diwydiannol yn ystod y teyrnasiad y Brenin Zog gyda chynhyrchu tybaco a diodydd alcoholig, a daeth i ben yn ystod y gyfundrefn gomiwnyddol. Enillodd y ddinas amlygrwydd ar ôl adeiladu melin ddur yno yn 1974 yn ogystal â diwydiannau eraill.
Roedd y ddinas yn ganolbwynt ar gyfer diwydiant trwm yn ystod y gyfundrefn gomiwnyddol, gan ganolbwyntio ar ffatrïoedd prosesu metelegol a metel yn bennaf. Achosodd pob un o'r diwydiannau hyn lygredd mawr ac ystyrir mai Elbasan yw un o ddinasoedd mwyaf llygredig Albania heddiw.
Stadiwm Elbasan Arena
[golygu | golygu cod]Yn dilyn yr angen i uwchraddio stadiwm yn y wlad ar gyfer safonau UEFA bu'n rhaid i Ffederasiwn Pêl-droed Albania gynnal gemau rhyngwladol mewn stadiymau eraill yn y wlad. Dewisiwyd adnewyddu Stadiwm Ruzhdi Bizhuta yn Elbasan. Dyma stadiwm y tîm cartref KF Elbasani. Yn 2014 agorwyd stadiwn newydd yr Elbasan Arena ar gyfer gemau rhyngwladol.
Gefailldrefi
[golygu | golygu cod]
|
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Sedefkar Mehmed Agha (c.1540-1617), pensaer
- Dhimitër Shuteriqi (1915-2003), awdur
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Albaneg) Gwefan swyddogol[dolen farw]
Dinasoedd Albania |
|
---|---|
Apollonia · Bajram Curri · Ballsh · Berat · Bilisht · Bulqizë · Burrel · Butrint · Cërrik · Çorovodë · Delvinë · Durrës · Elbasan · Ersekë · Fier · Fushë-Krujë · Gjirokastra · Gramsh · Himarë · Kamzë · Kavajë · Këlcyrë · Klos · Konispol · Koplik · Korçë · Krujë · Krumë · Kuçovë · Kukës · Laç · Lezhë · Libohova · Librazhd · Lushnjë · Maliq · Mamurras · Mavrovë · Memaliaj · Patos · Peqin · Peshkopi · Përmet · Pogradec · Poliçan · Pukë · Rrëshen · Rrogozhinë · Roskovec · Sarandë · Selenicë · Shëngjin · Shijak · Shkodër · Tepelenë · Tiranë · Tropojë · Valbonë · Vlorë |
- ↑ Robert Elsie: Historical dictionary of Albania. Books.google.gr. 2010-03-19. ISBN 9780810873803. Cyrchwyd 2013-08-10.