Einion ap Gwalchmai
Einion ap Gwalchmai | |
---|---|
Ganwyd | 12 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1203 |
Roedd Einion ap Gwalchmai (fl. 1203 - 1223) yn fardd llys Cymraeg a drigai ym Môn. Mae'n perthyn i ddosbarth o feirdd llys Cymraeg a adnabyddir fel Beirdd y Tywysogion. Daeth yn gymeriad llên gwerin.[1]
Llinach
[golygu | golygu cod]Roedd Einion yn perthyn i deulu barddol nodedig, yn y drydedd genhedlaeth o linach o feirdd sy'n dechrau gyda'i daid Meilyr Brydydd, bardd llys Gruffudd ap Cynan. Ei dad oedd Gwalchmai ap Meilyr. Ei frawd oedd Meilyr ap Gwalchmai ac mae'n bosibl fod y bardd Elidir Sais naill ai'n frawd iddo neu'n ewythr iddo.[1]
Cerddi
[golygu | golygu cod]Cedwir tair awdl hir i Dduw gan Einion ynghyd â llinellau agoriadol mawl i Lywelyn Fawr.[1] Ei gerdd fwyaf nodedig efallai yw ei farwnad ddwys i Nest ferch Hywel, o Dywyn, Meirionnydd. Mae'n agor â chwech llinell telynegol iawn i fis Mai:
Amser Mai, maith dydd, neud rhydd rhoddi,
Neud coed nad ceithiw, ceinlliw celli.
Neud llafar adar, neud gwâr gweilgi,
Neud gwaeddgreg gwaneg gwynt yn edwi,
Neud erfai ddoniau goddau gweddi,
Neud argel dawel, nid mau dewi.[2]
Einion mewn llên gwerin
[golygu | golygu cod]Cysylltir Einion â chwedl werin a elwir "Einion ap Gwalchmai a Rhiain y Glasgoed". Yn ogystal fe'i cysylltir â "Naid Abernodwydd", ger Pentraeth ar ynys Môn; dywedir iddo neidio hanner can troedfedd dros afon Nodwydd yn Abernodwydd o flaen llygaid ei gariad er mwyn ei hennill yn wraig iddo.[3]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Testunau
- J.E. Caerwyn Williams (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994).
- Erthygl
- Bedwyr Lewis Jones (gol.), Gwŷr Môn (Y Bala, 1979). Erthygl gan Tomos Roberts.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]