Effros
Effros | |
---|---|
Effros blodau mawr (Euphrasia rostkoviana) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Urdd: | Lamiales |
Teulu: | Orobanchaceae |
Llwyth: | Rhinantheae |
Genws: | Euphrasia L. |
Rhywogaethau | |
Tua 450, gan gynnwys: |
Genws o tua 450 rhywogaeth o blanhigion blodeuol yw Effros neu Euphrasia. Mae'n perthyn i deulu'r gorfanadl (Orobanchaceae). Maen nhw'n lled-barasitig ar laswelltau a phlanhigion eraill. Daw'r enw Saesneg, eyebright, o'r gred draddodiadol y gallant wella anhwylderau'r llygaid. Mae enwau Cymraeg eraill yn cynnwys torfagl, llygaid Crist a gloywlys.[1] Mae 21 rhywogaeth a llawer o gymysgrywiau i'w canfod ar ynysoedd Prydain ac Iwerddon.[2].
Ceir hyd i lawer o rywogaethau mewn dolydd alpaidd neu is-alpaidd, lle mae eira yn gyffredin. Mae blodau Effros yn tyfu ar ben eithaf y planhigyn, ac mae ganddynt gymesuredd dwyochrog gyda phetal isaf siap gwefus. Piws, fioled a gwyn yw'r lliwiau mwyaf cyffredin. Mae gan rhai rhywogaethau farciau melyn ar y betal isaf, ac mae'r marciau yma yn fodd o ddenu peillwyr.
Esblygiad
[golygu | golygu cod]Mae perthnasau esblygiadol y llwyth Rhinantheae wedi eu hastudio gan ddefnyddio nodweddion moleciwlaidd.[3][4] Mae Euphrasia yn perthyn i'r Rhinantheae craidd ac mae'n chwaer-gytras i'r genera Odontites, Bellardia, Tozzia a Hedbergia.
Cladogram: Coeden ffylogenetig lefel genws o'r llwyth Rhinantheae wedi ei selio ar nodweddion moleciwlaidd. (ITS, intron rps16 a rhanbarth trnK).[3][4] | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ GPC Ar Lein. Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru (2014). Adalwyd ar 25 Mehefin 2018.
- ↑ Metherell, C; a Rumsey, FJ (2018). Eyebrights (Euphrasia) of the UK and Ireland. Bryste: Cymdeithas Fotanegol Prydain ac Iwerddon. ISBN 978-0-90-115853-6
- ↑ 3.0 3.1 Těšitel, Jakub; Říha, Pavel; Svobodová, Šárka; Malinová, Tamara; Štech, Milan (2010-10-28). "Phylogeny, Life History Evolution and Biogeography of the Rhinanthoid Orobanchaceae" (yn en). Folia Geobotanica 45 (4): 347–367. doi:10.1007/s12224-010-9089-y. ISSN 1211-9520. https://link.springer.com/article/10.1007/s12224-010-9089-y.
- ↑ 4.0 4.1 Scheunert, Agnes; Fleischmann, Andreas; Olano-Marín, Catalina; Bräuchler, Christian; Heubl, Günther (2012-12-14). "Phylogeny of tribe Rhinantheae (Orobanchaceae) with a focus on biogeography, cytology and re-examination of generic concepts". Taxon 61 (6): 1269–1285. http://www.ingentaconnect.com/contentone/iapt/tax/2012/00000061/00000006/art00008. Adalwyd 2018-06-25.