Edward Lewis Pryse
Edward Lewis Pryse | |
---|---|
Ganwyd | 27 Mehefin 1817 |
Bu farw | 29 Mai 1888 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Roedd y Cyrnol Edward Lewis Pryse (27 Mehefin 1817) - (29 Mai 1888) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Aberteifi rhwng 1857 a 1868.[1]
Ganwyd Pryse yn Woodstock, swydd Rhydychen yn fab i Pryse Pryse a’i ail wraig, Jane, merch Peter Cavallier o Whitby, roedd yn frawd i Pryse Loveden.
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton.
Ni fu’n briod
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ymunodd a’r fyddin ym 1837 gyda rheng Corned yng Ngwarchodlu’r Dragŵn. Fe’i dyrchafwyd yn Is-gapten ym 1838 a Chapten ym 1844[2]. Ymadawodd a’r fyddin llawn amser ym 1846 ond parhaodd ei gysylltiadau milwrol fel cyrnol ar Filisia Ceredigion o 1857 hyd ei farwolaeth[3].
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Cafodd Pryse ei ethol yn ddiwrthwynebiad yn enw'r Blaid Ryddfrydol i gynrychioli etholaeth Aberteifi yn y senedd ym 1857 gan gael ei ail ethol yn etholiadau 1859 a 1865 cyn roi’r gorau i’r sedd ar gyfer etholiad cyffredinol 1868.
Gwasanaethodd fel Arglwydd Raglaw Ceredigion o 1857 hyd ei farwolaeth.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn ei gartref y Peithyll, Capel Dewi yn 71 mlwydd oed [4]. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd yng nghladdgell y teulu yn Eglwys Llanbadarn fawr [5].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the Principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 adalwyd 29 Awst 2017
- ↑ The New Army List A G Hart adalwyd 29 Awst 2017
- ↑ Nicholas, Thomas 1872 Annals and antiquities of the counties and county families of Wales adalwyd 29 Awst 2017
- ↑ "DEATH OF THE LORD LIEUTENANT OF CARDIGANSHIRE - South Wales Echo". Jones & Son. 1888-05-30. Cyrchwyd 2017-08-29.
- ↑ "THELATECOLONELPRYSE - The Aberystwith Observer". David Jenkins. 1890-02-22. Cyrchwyd 2017-08-29.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Lloyd Davies |
Aelod Seneddol Aberteifi 1857-1868 |
Olynydd: Thomas Davies Lloyd |