Edward Ardizzone
Edward Ardizzone | |
---|---|
Ganwyd | 16 Hydref 1900 Haiphong |
Bu farw | 8 Tachwedd 1979 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, darlunydd, arlunydd, awdur plant |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | CBE, Dylunydd Brenhinol ar gyfer Diwydiant, Medal Kate Greenaway |
Gwefan | http://www.edwardardizzone.org.uk |
Arlunydd Seisnig, llenor a darlunydd llyfrau plant yn bennaf, oedd Edward Jeffrey Irving Ardizzone, CBE, RA (16 Hydref 1900 – 8 Tachwedd 1979).
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganed Ardizzone yn Haiphong, Tonkin, Indo-Tsieina Ffrengig, lle bu ei dad Eidalaidd a aned yn Algeria, yn gwasanaethu'r llywodraeth dramor. Dychwelodd mam Seisnig Ardizzone i Loegr gyda'i thri plentyn hynaf ym 1905. Magwyd y plant yn Suffolk, gan eu nain yn bennaf, tra dychwelodd eu mam i ymuno a'u tad yn y dwyrain pell. Addysgwyd Ardizzone yn Ysgol Ipswich ac yna Ysgol Clayesmore, lle annogwyd gan ei athro celf.[1]
Gweithiodd fel arlunydd rhyfel swyddogol yn yr Ail Ryfel Byd. Darlunwyd ei brofiadau cyntaf rhwng Arras a Boulogne a disgrifir hwy yn ei lyfr Baggage to the Enemy (Llundain 1941). Mae casgliad helaeth o'i ddarluniau a'i ddyddiaduron o'r rhyfel iw gweld yn yr Amgueddfa Ryfel Imperial.
Ei waith mwyaf adnabyddus yw cyfres Tim, sy'n dilyn anturiaethau morol yr arwr ifanc, Tim. Cyhoeddwyd y llyfr cyntaf, Little Tim and the Brave Sea Captain, ym 1936. Enillodd y llyfr enwocaf, Tim All Alone, Fedal Kate Greenaway am ddrlunio ym 1956.[2]
Yn ogystal â darlunio ei straeon ei hun, darluniodd Ardizzone lyfrau eraill, gan gynnwys nofelau Anthony Trollope. Mae ei ddarluniau 1939 o My Uncle Silas gan H.E. Bates yn ddihafal. Ymysg ei gydweithrediadau hapusaf, oedd y rhai gyda Eleanor Farjeon, yn enwedig The Little Bookroom.
Darluniodd gyfres Nurse Matilda o lyfrau a ysgrifennwyd gan ei gefnder, Christianna Brand. Roedd y ddau wedi gwrando ar straeon a adroddwyd gan eu nain, ag adroddwyd i hithau gan ei thad. Mae'n enwog am ddarlunio A Ring of Bells, fersiwn fer i blant o gerdd hunangofiannol Summoned by Bells gan John Betjeman. Gweithiodd hefyd ar nofel i blant gan C. Day Lewis, The Otterbury Incident, a nofelau gan yr awdur Americanaidd Eleanor Estes, gan gynnwys The Alley, Miranda the Great, Pinky Pye, The Tunnel of Hugsy Goode a The Witch Family.
Mae'n nodedig am nid yn unig ddarlunio'r cloriau a'r tu mewn, ond am greu teip y teitl ac enw'r awdur gyda'i law, gan rhoi golwg gwahanredol i'r cyfrolau, a safai allan ymysg eraill ar silffoedd. Un enghraifft o hyn yw Stig of the Dump gan Clive King.
Darluniodd Ardizzone gyfres o lyfrau i blant gan Graham Greene, gan gynnwys The Little Fire Engine, The Little Horse Bus,The Little Train a The Little Steamroller. Darluniodd ail-adroddiad o stori Don Quixote i blant gan James Reeves. Mae ei ddarlunio ar gyfer The Land of Green Ginger gan Noel Langley yn glasuron.
Darluniodd Ardizzone sawl telegram ar gyfer y Swyddfa Bost yn yr 1950au ar 1960au, a cysirdir sawl un i fod yn eitemau casgladwy.
Mae ei arddul yn un naturiol ac isel, gyda llinellau addfwyn a dyfrliw cain, gan dalu sylw arbennig i rai manylion.
Etholwyd i Academi Frenhinol y Celfyddydau ym 1970, ac apwyntiwyd yn Gadlywydd yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1971. Cyhoeddodd y Llyfrgell Brydeinig lyfryddiaeth o'i weithiau, gyda lluniua, yn 2003.
Bu farw Ardizzone wedi trawiad i'r galon ym 1979.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Edward Ardizzone, The Young Ardizzone: an Autobiographical Fragment (London 1970)
- ↑ The Kate Greenaway Medal: Full List of Winners. Chartered Institute of Library and Information Professionals.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Yorke, Malcolm (2007). To war with paper & brush: Captain Edward Ardizzone, official war artist. Upper Denby, Huddersfield: Fleece Press.