ETB 1
Enghraifft o'r canlynol | gorsaf deledu |
---|---|
Iaith | Basgeg |
Dechrau/Sefydlu | 31 Rhagfyr 1982 |
Perchennog | EITB |
Pencadlys | Bilbo |
Gwladwriaeth | Sbaen |
Gwefan | https://www.eitb.eus/eu/telebista/etb1/ |
ETB 1 (Ynganiad Basgeg: e te be bat) yw sianel gyntaf Euskal Telebista (Teledu Gwlad y Basg). Mae i'w weld ledled Gwlad y Basg, ac yn darlledu'n gyfan gwbl yn Fasgeg. Roedd y darllediad cyntaf ar 31 Rhagfyr, 1982, gyda'r prif nod o normaleiddio'r Fasgeg. Ers 1982, mae nifer o raglenni, sioeau teledu, rhaglenni newyddion, a chystadlaethau wedi'u darlledu ar ETB1.
Dechreuodd Euskal Telebista gynnig sianeli ETB 1 HD ac ETB 2 HD ar Deledu Daearol Digidol (LTD) ar 21 Ragfyr 2016.
O 1982 hyd heddiw, mae wedi bod yn un o'r sianeli teledu Basgeg pwysicaf, ynghyd â Hamaika Telebista, y ddau wedi mynd y tu hwnt i'r lefel ranbarthol ac wedi lledaenu ledled Gwlad y Basg. Rhaid dweud bod y gorsafoedd teledu Basgaidd eraill yn canolbwyntio ar ranbarth arbennig, megis Erlo (Urola Kosta), Goienak (ardal Deba), dotb (ardal Durango), ac ati. O ran darpariaeth tir a chebl, mae ETB 1 yn cwmpasu holl daleithiau Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg a Nafarroa, ond mae hefyd yn cyrraedd rhai tiriogaethau eraill sy'n ffinio â Gwlad y Basg (Aragon, Burgos, Cantabria ac Errioxa). Gall trigolion Gogledd Gwlad y Basg hefyd wylio ETB 1 (ynghyd ag ETB 3), trwy loeren, diolch i becyn Fransat rhad ac am ddim. Mae'r pecyn hefyd yn caniatáu derbyn teledu Basgeg yng ngweddill Ewrop, gan ddefnyddio lloeren Eutelsat 5 West A. Yn ogystal, gall bobl ledled y byd wylio'r sianel, oherwydd ers 2018 mae'n bosibl gwylio darllediadau byw ar ei gwefan swyddogol, ar unrhyw adeg, diolch i system Nahieran (ar alw).
Gellir olrhain gwreiddiau ETB 1 yn ôl i ETB, pan mai EITB oedd yr unig wasanaeth teledu cartref. O ddechrau'r 90au, dim ond ar y sianel deledu hon y dechreuwyd defnyddio'r Fasgeg. Yn 1986, fodd bynnag, crëwyd ail sianel dan adain EITB, ETB 2, a oedd yn darparu cynnwys yn Sbaeneg yn unig. Felly, fel yn achos gorsafoedd radio bryd hynny (Euskadi Irratia a Radio Euskadi), crëwyd le ar gyfer y naill iaith a'r llall ar sianeli teledu hefyd. Darlledodd ETB 1 ac ETB 2 eu rhaglenni yn y ddwy iaith i ddechrau, nes o'r diwedd roedd un iaith yn bodoli ym mhob un a rhannwyd y ddwy sianel yn gyfan gwbl yn ôl iaith. Yn ôl y model presennol, dim ond ETB 1 sy'n darlledu mewn Basgeg ac ETB 2 yn Sbaeneg yn unig.
Mae ETB 1 wedi gwneud ac yn gwneud sawl ymdrech i ddangos a hyrwyddo'r iaith Fasgeg, fel y gwelir yn y mathau o gynnwys y mae'n ei gynnig. Fodd bynnag, nid oes gan ei chwaer sianel, ETB 2, safle mor amlwg o blaid y Fasgeg, gan fod y rhaglenni y mae'n eu cynnig yn debyg i raglenni sianeli teledu Sbaeneg eraill, a dyna pam y mae'n cystadlu â gorsafoedd teledu lleol. Mae’r cynnwys arbennig a gynigir gan ETB 1 yn gwneud lle i ddiwylliant Gwlad y Basg, er enghraifft, drwy ddarlledu rhaglenni sy’n canolbwyntio ar bertsolaritza (trwy raglen Hitzetik Hortzera, er enghraifft), pêl-droed Basgeg (ETB Kantxa) neu chwaraeon traddodiadol. Mae hefyd yn gwneud lle i ddiwylliant Gwlad y Basg, awduron a chantorion Basgeg a gwyddonwyr y wlad. Yn yr un modd, cyn creu ETB 3, roedd ganddi raglennu helaeth i blant, gyda rhaglenni fel Betiz. Mae’n werth nodi bod cystadlaethau mawr a phwysicaf y byd chwaraeon (Cynghrair ACB neu Gynghrair y Pencampwyr) bob amser wedi cael eu darlledu yn y Fasgeg ar y teledu hwn.
Ers Ragfyr 21, 2016, mae gan ETB 1 fersiwn diffiniad uchel o'r enw ETB 1 HD. Disodlodd hyn y sianel deledu ETB HD a oedd yn rhedeg yn flaenorol, a oedd yn darlledu cymysgedd rhwng ETB 1 ac ETB 2.
Rhaglennu
[golygu | golygu cod]Yn ystod ei hanes hir, mae ETB 1 wedi cynhyrchu a darlledu amrywiaeth eang o sioeau, ynghyd â sawl ffilm a chyfres deledu.
Hitzetik Hortzera (O'r gair i'r dant)
[golygu | golygu cod]Dyma un o’r sioeau hynaf ar y teledu, gan iddi gael ei dangos am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 1988 ac mae'n parhau hyd heddiw.[1] Mae'n ymdrin â maes bertsolaritza ac wedi cyfrannu'n aruthrol at ei ehangu a'i hyrwyddo.[2][3] Roedd Felix Irazustabarrena, o gymdeithas y Bertsozale yn un o'r bobl a weithiodd yn galed ar greu'r rhaglen, ymhlith pethau eraill, gan ddiffinio'r pynciau y byddai'n eu cwmpasu a thywys y dynion camera. Pan oedd bertzolaritza ar dwf yn y 1980au, chwaraeodd Hitzetik Hortzera ran fawr, er ei bod yn sioe gydag adnoddau cyfyngedig iawn, oherwydd rhoddodd y gynulleidfa eang a chynnwys deniadol gryfder mawr iddi. Am y rheswm hwn, fe'i hystyrir yn un o bileri hirhoedledd y traddodiad.[1]
Nodwedd arall o’r rhaglen yw'r modd y mae wedi addasu dros y blynyddoedd, oherwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi symud i'r byd digidol, yn ogystal â rhoi sylw i’r lle y mae merched wedi’i chwarae yn bertsolaritza. Mae'r rhaglen hon wedi dwyn ynghyd "ecosystem gyfan y cantorion bertso",[4] yn ôl Eneritz Urkola, a oedd yn gyfarwyddwr yn 2018.[1]
Herri txiki infernu handi (Tref fach, uffern fawr)
[golygu | golygu cod]Daeth y rhaglen hon i fodolaeth ar Ionawr 4, 2015.[5] Yn ystod y rhaglen, mae’r cyflwynwyr Mikel Pagadizabal a Zuhaitz Gurrutxaga yn teithio i rai trefi yng Ngwlad y Basg i adrodd ar ddiwylliant lleol, arferion ac, yn anad dim, cymeriadau a troeon trwstan. Yn ogystal, mae'r bertsolarydd Sebastian Lizaso yn canu tri phennill byrfyfyr yn ystod rhaglen, sy'n tueddu i fod yn agos at y bobl y mae'r cyflwynwyr wedi cwrdd â nhw o gwmpas y dref. Yn ogystal, nodwedd arall o'r sioe yw'r rôl a chwaraeir gan y gynulleidfa, gan fod y cyflwynwyr, ar ôl ymweld â thref benodol, yn dangos y cyfweliadau a'r penodau y maent wedi'u recordio o flaen y cyhoedd. Yn y modd hwn, mae dinasyddion yn cofnodi eu hymatebion wrth wylio'r penodau ac weithiau hyd yn oed yn cymryd rhan.[5]
Dyma’r sioe fwyaf llwyddiannus i Euskal Telebista ei darlledu erioed, gyda chyfanswm o bum tymor wedi’u recordio a thua 95 o benodau, ynghyd â 15 o sioeau arbennig eraill. Yn 2019 roedd y rhaglen yn dal i fynd.
Cynulleidfa flwyddyn ar ôl blwyddyn
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Grafikoa | Cyfran |
---|---|---|
1992 | %4,3 | |
1993 | %5,5 | |
1994 | %5,1 | |
1995 | %5,9 | |
1996 | %6,7 | |
1997 | %7,5 | |
1998 | %6,7 | |
1999 | %5,4 | |
2000 | %4,6 | |
2001 | %5,3 | |
2002 | %5,6 | |
2003 | %6,2 | |
2004 | %5,3 | |
2005 | %5,0 | |
2006 | %4,4 | |
2007 | %3,7 | |
2008 | %3,4 | |
2009 | %3,2 | |
2010 | %2,2 | |
2011 | %2,0 | |
2012 | %2,1 | |
2013 | %2,1 | |
2014 | %2,0 | |
2015 | %1,9 | |
2016 | %1,9 | |
2017 | %2,0 | |
2018 | %2,2 | |
2019 | %2,0 | |
2020 | ----- | |
2021 | %2,2 |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Euskadi Irratia - Radio iaith Basgeg
- Whakaata Māori - Teledu Maori
- Gŵyl Cyfryngau Celtaidd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Berria.eus, "Bertsoa aldatu zuen saioa" (yn eu), Berria, https://www.berria.eus/paperekoa/1859/028/001/2018-12-28/bertsoa_aldatu_zuen_saioa.htm, adalwyd 2023-01-31
- ↑ "Hitzetik Hortzera: Bertsoak Euskal Telebistan | EiTB Hitzetik Hortzera" (yn eu), www.eitb.eus, https://www.eitb.eus/eu/telebista/programak/hitzetik-hortzera/
- ↑ "Hitzetik Hortzera — Bertsozale Elkartea" (yn eu), www.bertsozale.eus, https://www.bertsozale.eus/eu/hitzetik-hortzera
- ↑ Zabala, Juan Luis, "Meritu bikoitza" (yn eu), Berria, https://www.berria.eus/paperekoa/1876/036/002/2020-11-10/meritu-bikoitza.htm
- ↑ 5.0 5.1 "Mikel Pagadi eta Zuhaitz Gurrutxaga Euskal Herriko herri txikietan barrena" (yn eu), www.eitb.eus, https://www.eitb.eus/eu/telebista/programak/herri-txiki-infernu-handi/