Afon Nedd
Afon Nedd ger Castell-nedd | |
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.62°N 3.83°W |
Aber | Môr Hafren |
Llednentydd | Afon Mellte, Afon Dulais, Afon Clydach |
Hyd | 42 cilometr |
Afon yn ne-ddwyrain Cymru yw Afon Nedd sy'n rhedeg o'i ffynnhonell i'w haber ym Mae Abertawe i'r de o Lansawel. Mae hi'n codi o godrefryniau'r Bannau Brycheiniog gyda dau brif llednant, afonydd Hepste a Mellte. Mae cronfa ddŵr Ystradfellte ar Mellte.
Er fod yr afon yn tarddu yn hen dywodfeini Defonaidd ym Mhowys, mae'n fuan yn croesi carreg galch a grô maen melin ar ei daith. Yn y carreg galch mae'n rhedeg yn rannol tanddaear ac yn rannol uwchddaear drwy rwydwaith cymhleth o geudyllau, ogofâu a llyncdyllau.
Mae'r gro maen melin yn creu un o gyfresi rhaeadrau tra bod yr afon a'i llednentydd, gan gynnwys afonydd Pyrddin a Nedd Fechan, yn disgyn i ddyfryn rhewlifol hynafol y Nedd ac ymlaen i'r meysydd glô Carbonifferaidd.
Mae'r ddwy brif llednant yn ymuno dwy filltir i'r de o Bontneddfechan i greu gwir Nedd, ymunir Nedd Fechan â hi ym Mhontneddfechan. O'r pwynt yma i lawr, mae'r afon yn reit unionsyth, ac mae unrhyw lednentydd o bwys yn brin, mae'r rhai sydd yn ymuno â hi yn cynnwys Nant Melincwrt a Nant Clydach. Yr unig lednant arall o bwys i ymuno ydy afon Dulais sydd â'i ffynhonnell i'r gogledd o Flaendulais. Fel mae Dulais yn agosáu at Nedd, mae'n disgyn i raeadr ysblenydd Rhaeadrau Aberdulais, atyniad twristiaeth poblogaidd a safle hen weithfeydd haearn.
Mae Afon Nedd yn darparu dŵr ar gyfer dau gamlas, Camlas Nedd a Chamlas Tennant. Ym masn Aberdulais, mae'r ddau camas yn cwfr, y Camlas Tennant yn croesi Nedd ar draphont gwych. Hefyd yn croesi'r afon yma mae llinell rheilfordd Dyffryn Nedd a ffordd yr A465.
Mae aber yr afon yn ymestyn o Gastell-nedd heibio Llansawel ac i'r môr ger Jersey Marine. Mae'r aber yn rhannol wedi ei diwydiannu, gyda iard torri llongau a Safle Amwynderau Dinesig mawr. Lle nad oes ymyrraeth â hi, mae gan yr afon ardaloedd morfa heli sydd â gwerth ecolegol o bwys.
Cefnogodd yr afon ar un adeg, nifer o byllau glô dwfn a golchfeydd glô ac tuag at ddiedd y 20g, sawl cloddfa agored. Roedd hefyd sawl cloddfa ddrifft, roedd yr rhai o'r rhain yn dal i ddefnyddio merlod tan ddiwedd y 1990au.
Sefydlwyd ffactri aliminiwm mawr yn agos i Resolfen yn ystod y rhyfel, ond ceuwyd hwn yn y 1990au. Prif ddiwydiannau Dyffryn Nedd heddiw yw coedwigaeth a ffermio, bydd rhanfwyaf o boblogaeth y dyffryn yn teithio i Abertawe neu Bort Talbot pob dydd ar gyfer eu gwaith.