Doña Bárbara
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig, gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Rómulo Gallegos |
Cyhoeddwr | Editorial Araluce (Barcelona) |
Gwlad | Feneswela (gwlad yr awdur) Sbaen (gwlad cyhoeddi) |
Iaith | Sbaeneg |
Dyddiad cyhoeddi | 15 Chwefror 1929 |
Genre | Nofel |
Nofel Sbaeneg gan y llenor Feneswelaidd Rómulo Gallegos yw Doña Bárbara a gyhoeddwyd gyntaf yn Sbaen yn 1929. Enillodd Gallegos gymeradwyaeth ryngwladol yn sgil cyhoeddi Doña Bárbara, a ystyrir yn glasur yn llên America Ladin. Mae'n nodweddiadol o waith yr awdur yn ei phortread o gymdeithas a diwylliant gwerin yng nglaswelltiroedd gwastad Feneswela, a'r gwrthdaro rhwng anwaredd a gwareiddiad.[1]
Cyhoeddwyd Doña Bárbara gan wasg Editorial Araluce yn Barcelona, i osgoi sensoriaeth gan lywodraeth Feneswela.
Addaswyd yn ffilm gan y cyfarwyddwr Mecsicanaidd Fernando de Fuentes, gyda María Félix yn chwarae'r brif ran, yn 1943.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Veronica Jaffe, "Doña Bárbara" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 182.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Lowell Dunham, Rómulo Gallegos: An Oklahoma Encounter and the Writing of the Last Novel (Norman, Oklahoma: University of Oklahoma Press, 1974).
- R. González Echevarría, "Doña Bárbara Writes the Plain", yn The Voice of the Masters: Writing and Authority in Modern Latin American Literature (Austin: University of Texas Press, 1985), tt. 33–63.