Dmitry Koldun
Dmitry Koldun | |
---|---|
Ganwyd | 11 Mehefin 1985 Minsk |
Dinasyddiaeth | Belarws |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, gitarydd, pianydd, cyfansoddwr |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, roc poblogaidd, synthpop |
Math o lais | tenor |
Gwobr/au | Golden Gramophone Award |
Gwefan | http://www.koldun.name/ |
Canwr Belarwsiadd yw Dmitry Aleksandrovich Koldun (Belarwseg: Дзьмітры Аляксандравіч Калдун; Rwsieg: Дми́трий Алекса́ндрович Колду́н; ganwyd 11 Mehefin 1985, Minsk, Belarws). Mae'n canu yn Rwsieg a Saesneg. Cynrychiolodd Koldun yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2007 yn Helsinki, Ffindir. Gorffennodd yn y chweched safle gyda 145 o bwyntiau.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ers ei fod yn bedair mlwydd oed, uchelgais Koldun oedd i fod yn feddyg ac aeth i astudio meddygaeth yn Ysgol Uwchradd Minsk. Llwyddodd i raddio gyda medal arian yn y maes hwn.
Yn 2002, astudiodd Koldun Gemeg ym Mhrifysgol Talaith Belarws a newidiodd ei uchelgais o fod yn feddyg i fod yn fferyllydd. Llwyddodd yn ei gwrs Cemeg fel y gwnaeth ar ei gwrs meddygaeth, a dywedwyd ei fod yn unigolyn "brwdfrydig".
Yn ddiweddar, synnwyd cefnogwyr Koldun pan gyhoeddwyd ei fod yn dioddef o "esblygiadau" meddygol. Dywedodd y canwr ei fod wedi dioddef problemau difrifol gyda'i wallt a phriodolodd hyn i Drychineb Chernobyl a achosodd sgîl-effeithiau hir-dymor ymbelydredd mewn nifer o wledydd Dwyrain Ewrop gan gynnwys man geni Koldun - Minsk, Belarws. Dywedodd Koldun (cyfieithwyd o'r Saesneg): "Bob blwyddyn, mae fy ngwallt yn newid lliw... pan oeddwn yn yr ysgol, roedd gennyf wallt trwchus. Ond nid nawr. Credaf mai bai trychineb Chernobyl yw hyn." Dywed Koldun fod y wallt golau a oedd ganddo pan oedd yn yr ysgol wedi newid, yn raddol (weithiau dros nos) gan fynd yn dywyllach i'r lliw brown tywyll sydd ganddo heddiw.[1].
Disgograffiaeth
[golygu | golygu cod]Albymau
[golygu | golygu cod]- 2007 - Work Your Magic
- 2008 - Я Не Волшебник (Dw i ddim yn ddewin)
- 2009 - Колдун (Koldun)
Senglau
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Sengl | Albwm | Lleoliadau siart | |||
---|---|---|---|---|---|---|
RWS | LAT | SBN | SWE | |||
2007 | "Work Your Magic" | Я Не Волшебник | 2 | 3 | 34 | 47 |
"Я Для Tебя" Ya Dlya Tyebya - Dw i'n amdana ti) |
5 | 23 | — | — | ||
2008 | "Царевна" (Tsarevna - Tywysoges) |
13 | — | — | — | |
"Настройся на Меня" (Nastroysya na Menya - Tiwniwch i mi) |
Колдун | 28 | — | — | — | |
Lleoliadau rhif 1 | — | — | — | — | ||
Lleoliadau deg uchaf | 2 | 1 | — | — |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ["А Колдун все-таки мутантом оказался". Дневник Магия Колдуна (liveinternet.ru). http://www.liveinternet.ru/users/1918962/ Archifwyd 2008-04-27 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd ar 2008-05-27
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Rwseg) (Saesneg) Gwefan swyddogol
- (Rwseg) Forwm swyddogol
- (Saesneg) Gwefan ffan
- (Saesneg) Forwm answyddogol