Dinas Mawr
Math | caer bentir |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.0064°N 5.0782°W |
Cod OS | SM888387 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | PE075 |
Bryngaer arfordirol yn Sir Benfro yw Dinas Mawr. Cyfeirnod AO: 887387. Fe'i lleolir ar bentir creigiog ar ystlys penmaen Pencaer tua 5 milltir i'r gorllewin o Abergwaun ar gwr pentref bychan Trefaser. Mae'n dyddio o Oes yr Haearn.
Enw
[golygu | golygu cod]Mae'r fryngaer hon yn un o sawl caer yng Nghymru a elwir yn 'ddinas', e.e. Dinas Emrys, Dinas Cerdin; hen ystyr y gair hwnnw yw "caer" ac mae'n enw gwrywaidd mewn enwau lleoedd (ond yn enw benywaidd heddiw), sy'n esbonio pam nad ydy'r ansoddair 'Mawr' yn treiglo ar ôl yr enw 'Dinas'.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Mae safle'r gaer hon mor gadarn ar dair ochr fel na fu'n rhaid wrth amddiffynwaith ond ar yr ochr sy'n wynebu'r tir. Ceir dau glawdd dros y gwddw cul o dir sy'n cysylltu'r pentir wrth y tir mawr. Torrir trwy'r cloddiau hyn gan ddwy fynedfa yn eu canol.[1] Y tu draw i'r cloddiau amddiffynnol mae llwybr yn dringo i'r brif gaer ar ben y pentir.
Gorwedd y gaer o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber, 1978), tud. 187.