Difyrwaith
Gwedd
Gweithgaredd y mae un yn hoffi gwneud yn gyson yn ei amser hamdden yw difyrwaith neu hobi.
Ceir sawl math o ddifyrweithiau. Maen nhw'n amrywio yn ôl oedran a chefndir diwylliannol ac yn newid o oes i oes ac o wlad i wlad. Maen nhw'n cynnwys:
- Casglu pethau, er enghraifft llyfrau, stampiau, hen bethau.
- Gemau, fel cardiau, gwyddbwyll, neu gemau cyfrifiadurol
- Hamdden awyr agored, fel cerdded, dringo, mynydda, nofio ac ati.
- Gweithgareddau creadigol fel gwaith celf, ffotograffaeth a darlunio.
- Coginio.
- Garddio.