Neidio i'r cynnwys

Delphi

Oddi ar Wicipedia
Teml Apolon yn Delffi

Mae Delffi (Groeg: Δελφοί), yn safle archeologol yng Ngwlad Groeg ac hefyd yn enw ar y dref fodern gerllaw. Mae ar lechweddau isaf y Mynydd Parnasws yn Phocis.

Roedd Delffi yn safle o bwysigrwydd mawr yng Ngroeg yr Henfyd oherwydd presenoldeb Oracl Delffi. Mae'r safle yn dyddio i'r cyfnod cynhanesyddol, pan addolid Gaia yma; yn ddiweddarch roedd yn gysegredig i'r duw Apolon.

Delffi oedd safle yr omphalos (ομφαλός) carreg oedd yn dynodi canolbwynt y byd. Roedd yr omphalos yn nheml Apolon o Delffi (Ἀπόλλων Δελφίνιος).

Saif y dref fodern i'r gorllewin o'r safle archeolegol. Roedd y boblogaeth yn 3,511 yn 2001.

Adeiladau a chofadeiladau

[golygu | golygu cod]

Hen dref

[golygu | golygu cod]
  • Gymnasiwm
  • Marchredfa
  • Teml Apollo
  • Theatr
  • Tholos
  • Trysorfa Athen

Dref fodern

[golygu | golygu cod]
  • Amgueddfa Delffi

Enwogion

[golygu | golygu cod]
  • Hegesander (m. c. 250CC), hanesydd