Neidio i'r cynnwys

Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Thomas Cranmer

Oddi ar Wicipedia
Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Thomas Cranmer



Thomas Cranmer (2 Gorffennaf 148921 Mawrth 1556) oedd arweinydd Diwygiad Protestannaidd Lloegr ac Archesgob Caergaint pan oedd Harri VIII ac Edward VI yn teyrnasu, ac am gyfnod byr yn ystod teyrnasiad Mari I, hefyd. Chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o helpu i greu’r achos dros ysgariad Harri VIII a Catrin o Aragon,[1] digwyddiad a oedd yn un o’r rhesymau pam dorrodd Eglwys Loegr i ffwrdd oddi wrth Eglwys Rhufain. Fel ei gyfoeswr, Thomas Cromwell, roedd yn cefnogi’r syniad o oruchafiaeth frenhinol, sef bod y Brenin yn cael ei ystyried fel penaeth goruchaf yr Eglwys yn ei deyrnas.[2]

Yn ystod ei gyfnod fel Archesgob Caergaint, roedd yn gyfrifol am sefydlu'r strwythur athrawiaethol a gwasanaethol cyntaf ar gyfer Eglwys Ddiwygiedig Lloegr wedi’r rhwyg â Rhufain.[3] Yn ystod teyrnasiad Harri VIII, nid oedd Cranmer yn hoffi llawer o newidiadau radical oddi mewn i'r Eglwys, oherwydd y gwrthdaro rhwng ceidwadwyr crefyddol a’r rhai oedd eisiau diwygio’r Eglwys. Cranmer gyhoeddodd y drefn gwasanaeth swyddogol cyntaf a gafodd ei awdurdodi yn yr iaith frodorol, sef ‘Exhortation and Litany’.

Pan ddaeth Edward VI i’r orsedd, llwyddodd Cranmer i gyflwyno llawer o ddiwygiadau pwysig a phellgyrhaeddol. Ef ysgrifennodd ac a grynhodd ddau argraffiad cyntaf y Llyfr Gweddi Gyffredin, sef ffurfwasanaeth cyfan ar gyfer Eglwys Loegr. Gyda chymorth nifer o ddiwygwyr Cyfandirol (gyda rhai ohonynt wedi cael lloches ganddo), newidiodd Cranmer yr athrawiaeth neu ffurf rhai rhannau o’r gwasanaeth - er enghraifft, y Cymun, statws dibriod y glerigaeth, rôl delweddau wrth addoli ac addoli seintiau. Roedd hefyd yn hyrwyddo'r athrawiaethau hyn drwy gyfrwng y Llyfr Gweddi, yr Homilïau a chyhoeddiadau eraill.[4]

Marwolaeth Cranmer ym 1556; torlun o Foxe's Book of Martyrs (1563)

Ar ôl esgyniad Mari I i’r orsedd, rhoddwyd Cranmer ar brawf am deyrnfradwriaeth a heresi. Carcharwyd ef am dros ddwy flynedd ac, o dan bwysau gan awdurdodau’r Eglwys, gorfodwyd ef i wneud sawl datgyffesiad ac i gymodi â chredoau'r Eglwys Gatholig.[5] Tra byddai hyn fel arfer wedi achub ei fywyd, roedd Mari yn benderfynol o’i ddienyddio. Felly, ar ddiwrnod ei ddienyddiad, gwadodd ei ddatgyffesiadau, er mwyn marw yn heretic yng ngolwg Catholigion ond yn ferthyr yn ôl egwyddorion a chredoau'r Diwygiad Protestannaidd. Anfarwolwyd marwolaeth Cranmer yn llyfr enwog John Foxe, ‘Llyfr y Merthyron’ ac mae ei waddol yn parhau i fodoli yn Eglwys Loegr ar ffurf y Llyfr Gweddi Gyffredin a’r Tri Deg Naw Erthygl, sef datganiad Anglicanaidd o ffydd grefyddol oedd yn deillio o’i waith.[6]

Ei waddol

[golygu | golygu cod]

Pan esgynodd Edward i orsedd Lloegr, blodeuodd Cranmer, ac ysgrifennodd y Llyfr Gweddi Gyffredin (Book of Common Prayer) ar gyfer yr Eglwys yn Lloegr. Gyda diwygwyr crefyddol Ewropeaidd eraill, newidiodd nifer o syniadau Protestannaidd, gan gynnwys eu defnydd o symbolau a delweddau yn yr eglwysi, statws dibriod y clerig a'r cymun (yr Ewcharist).[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. MacCulloch, Diarmaid. (1996). Thomas Cranmer : a life. New Haven, CT: Yale University Press. ISBN 0-300-06688-0. OCLC 33819769.
  2. Ridley 1962, tt. 13–15; MacCulloch 1996, tt. 7–15
  3. MacCulloch, Diarmaid. (1996). Thomas Cranmer : a life. New Haven, CT: Yale University Press. tt. 909–915. ISBN 0-300-06688-0. OCLC 33819769.
  4. Thomas Cranmer, churchman and scholar. Ayris, Paul, 1957-, Selwyn, David G., 1938-. New York. ISBN 0-85115-549-9. OCLC 28147549.CS1 maint: others (link)
  5. MacCulloch, Diarmaid. (1996). Thomas Cranmer : a life. New Haven, CT: Yale University Press. t. 547. ISBN 0-300-06688-0. OCLC 33819769.
  6. Heinze 1993, t. 279; MacCulloch 1996, t. 603
  7. MacCulloch, Diarmaid. (1996). Thomas Cranmer : a life. New Haven, CT: Yale University Press. tt. 606–608. ISBN 0-300-06688-0. OCLC 33819769.
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.