Darwin, Tiriogaeth y Gogledd
Delwedd:00 2474 Darwin (Northern Territory, Australien).jpg, .00 2367 Darwin Australien - State Square.jpg | |
Math | dinas, dinas fawr |
---|---|
Enwyd ar ôl | Charles Darwin |
Poblogaeth | 139,902 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Kon Vatskalis |
Cylchfa amser | UTC 09:30 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Awstralia |
Arwynebedd | 112.01 km² |
Uwch y môr | 0 metr |
Cyfesurynnau | 12.4381°S 130.8411°E |
Cod post | 0800 |
Pennaeth y Llywodraeth | Kon Vatskalis |
Prifddinas Tiriogaeth y Gogledd, Awstralia, yw Darwin (Laragieg: Garramilla). Hi yw'r ddinas fwyaf yn y diriogaeth, gyda phoblogaeth o tua 111,000 o bobl. Mae’n borthladd ar Fôr Timor. Mae twristiaeth yn bwysig; mae Litchfield, Ceunant Katherine a Kakadu[1] yn atyniadau cyfagos, ac mae Gerddi Botaneg George Brown yn gyrchfan ymwelwyr bwysig, ac mae Parc Genedlaetho Charles Darwin[2] ac Amgueddfa filwrol Darwin[3] yn agos i’r ddinas.
Tywydd
[golygu | golygu cod]Mae gan Darwin hinsawdd trofannol, ac mae dwy dymor, Gwlyb, rhwng Dachwedd a Ebrill, a Sych, rhwng Mai a Hydref. Achoswyd difrod mawr gan Gylchwynt ‘Tracy’ ym 1974.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Enwyd Darwin ar ôl Charles Darwin ym 1839 yn ystod trydedd môrdaith Y Beagle. Sefydlwyd Darwin ym 1869 a thyfodd y ddinas yn gyflym ar ôl darganfod Aur yn Pine Creek, tua 200 cilomedr i’r de o Darwin. Daeth y borthladd yn bwysig yn ystod y rhyfel. Crewyd ffordd tarmac i Darwin o’r reilffordd a Adelaide i Alice Springs. Ymosodwyd ar y ddinas 64 o weithiau gan awyrennau Siapaneiaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Erbyn hyn, mae’r reilffordd yn estyn hyd at Darwin.[1]
Cludiant
[golygu | golygu cod]Mae trên i deithwyr, Y Ghan, yn mynd dwywaith bob wythnos i Adelaide. Prif bwrpas y reilffordd yw cludu nwyddau i’r porthladd.[1]
Mae Maes awyr rhyngwladol Darwin 13 cilomedr o’r ddinas. Mae awyrennau yn mynd i Singapôr, i ynysoedd i’r gogledd, megis Dwyrain Timor, yn ogystal â dinasoedd eraill Awstralia.[4]
Trefnwyd rhwydwaith o wasanaethau bws gan Buslink a Territory Transit [5]
Mae Sealink NT yn gyfrifol am 2 fferi lleol, i Mandorah ar ochr arall y harbwr, ac i Ynysoedd Tiwi, i’r gogledd o’r ddinas.
Diwylliant
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Gŵyl Bougainvillea ym 1978, yn ŵyl flodeuol. Newidiwyd yr ŵyl yn ystod y 90au i gynnwys y celfydyddau, a newidiwyd ei henw i Gŵyl Darwin yn 2003, sydd erbyn hyn yn parhau am 18 diwrnod.[6]
Mae Clwb Rheilffordd Darwin yn leoliad pwysig ar gyfer cerddoriaeth. Ac mae Clwb gwerin Top End yn cyfarfod yno'n rheolaidd.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Gwefan wikitravel
- ↑ Gwefan Parc Genedlaethol Charles Darwin
- ↑ "Gwefan yr amgueddfa filwrol". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-21. Cyrchwyd 2017-11-06.
- ↑ Gwefan y maes awyr
- ↑ Gwefan Tiriogaeth y Gogledd
- ↑ Gwefan Gŵyl Darwin
- ↑ Gwefan Clwb gwerin Top End
-
Darwin o'r awyr
-
Planhigion mangrof ar gyrion y ddinas
-
Traeth Darwin
-
Y porthladd ar noson glos y Gwlyb
Adelaide (De Awstralia) · Brisbane (Queensland) · Canberra (Cenedlaethol, a Tiriogaeth Prifddinas Awstralia) · Darwin (Tiriogaeth y Gogledd) · Hobart (Tasmania) · Melbourne (Victoria) · Perth (Gorllewin Awstralia) · Sydney (De Cymru Newydd)