Dalgety Bay
Gwedd
Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 10,050 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Fife |
Gwlad | Yr Alban |
Uwch y môr | 19 metr |
Cyfesurynnau | 56.0429°N 3.3676°W |
Cod SYG | S20000501, S19500628 |
Cod OS | NT149841 |
Tref yn awdurdod unedol Fife, yr Alban, ydy Dalgety Bay[1] (Gaeleg yr Alban: Bàgh Dhealgadaidh).[2] Saif ar arfordir wrth aber Moryd Forth, tua 2.5 milltir (4 km) i'r dwyrain o dref Inverkeithing.
Enwyd y dref a'r bae ar ôl pentref gwreiddiol Dalgety, ond heddiw dim ond adfeilion Eglwys y Santes Ffraid o'r 12g sydd ar ôl. Mae'r dref newydd, y dechreuwyd ei hadeiladu ym 1965, yn cymryd ei henw o'r prif fae y mae'n ffinio ag ef, ond mae'r dref yn ymestyn dros lawer o faeau a childraethau gan gynnwys Bae Donibristle a Bae Dewi Sant. Mae cyfran helaeth o drigolion y dref yn gymudwyr sy'n gweithio yng Nghaeredin.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Dalgety Bay boblogaeth o 9,870.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 9 Ebrill 2022
- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2021-10-09 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 9 Ebrill 2022
- ↑ City Population; adalwyd 9 Ebrill 2022