Neidio i'r cynnwys

Dafydd Iwan

Oddi ar Wicipedia
Dafydd Iwan
GanwydDafydd Iwan Jones Edit this on Wikidata
24 Awst 1943 Edit this on Wikidata
Brynaman Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, canwr, cyfansoddwr caneuon Edit this on Wikidata
TadGerallt Jones Edit this on Wikidata
PlantLlion Iwan Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.dafyddiwan.com/ Edit this on Wikidata

Gwleidydd a canwr o Gymru yw Dafydd Iwan (ganwyd Dafydd Iwan Jones, 24 Awst 1943). Mae'n cael ei adnabod fel canwr protest ac un o ffigyrau mwyaf amlwg y sin pop a gwerin yng Nghymru hyd heddiw. Mae hefyd yn aelod blaenllaw o Blaid Cymru a bu'n Lywydd y blaid rhwng 2003 a 2010. Fe'i adnabyddir hefyd fel awdur, cyfarwyddwr busnes a phregethwr cynorthwyol.

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Dafydd ym Mrynaman, Sir Gaerfyrddin yn fab i'r llenor Cymraeg, y Parchedig Gerallt Jones ac Elizabeth J. Griffiths.[1] Mae'n un o deulu Bois y Cilie,[2] ac ei frodyr yw Huw Ceredig, Alun Ffred Jones ac Arthur Morus. Symudodd y teulu i'r Bala pan oedd Dafydd yn ei arddegau.

Yn Hydref 1961 daeth yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru. Wedi blwyddyn baratoi yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, aeth ymlaen yn 1962 i Goleg y Brifysgol, Caerdydd i astudio pensaernïaeth a graddiodd yn 1968.[3]

Rhwng 1968 a diwedd y 1970au roedd yn un o arweinyddion carismatig mwyaf y frwydr iaith. Drwy gyfrwng ei ganeuon gwleidyddol, poblogaidd, fe ysbrydolodd gannoedd (ac efallai miloedd) o Gymry. Cafodd ei benodi'n Llywydd Plaid Cymru yn 2004. Ar yr 8fed o Fehefin 2010 cafodd Jill Evans ASE ei hethol yn ddiwrthwynebiad i olynu Dafydd Iwan fel Llywydd.[4]

Mae'n awdur nifer o lyfrau, a chyfansoddwr dros 250 o ganeuon. Mae hefyd yn gyfarwyddwr Cwmni Recordiau Sain; ysgrifennydd Cymdeithas Tai Gwynedd; cadeirydd Cwmni Cyhoeddi Gwynn; aelod o Ymddiriedolaeth Portmeirion; cadeirydd Pwyllgor y Ganolfan, Bontnewydd; aelod o Bwyllgor Canolfan Gymunedol a Chapel Caeathro ac yn bregethwr lleyg.

Rhwng 1968 a diwedd y 70au bu'n arweinydd brwd a charismatig Cymdeithas yr Iaith. Bu'n gynghorydd sir Gwynedd dros ward Bontnewydd yn ardal Arfon hyd 1 Mai 2008.

Ym mis Ionawr 2011, cyhoeddwyd fod Dafydd Iwan yn un o gant oedd wedi gwrthod talu eu trwydded teledu, fel rhan o brotest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y cynlluniau arfaethedig i dorri cyllideb y sianel deledu Gymraeg S4C, a'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i ddwylo'r BBC.[5]

Cerddoriaeth

[golygu | golygu cod]

Ar ôl ymddangos ar raglen newyddion Y Dydd ym 1965, arwyddodd i label Welsh Teldisc. Recordiodd nifer o EPs i'r cwmni rhwng 1966-1969, rhai gydag Edward Morus Jones (Edward Morris Jones ar y pryd). Erbyn heddiw mae caneuon fel 'Mae'n Wlad I Mi', 'Wrth Feddwl Am Fy Nghymru' a 'Carlo' yn cael ei ystyried yn glasuron.

Ym 1969 sefydlodd Cwmni Recordiau Sain gyda Huw Jones a Brian Morgan Edwards. Rhyddhaodd gyfres o EPs dylanwadol ar Sain, oedd yn cynnwys rhai o'i ganeuon mwyaf poblogaidd, fel 'Gorau Cymro, Cymro Oddi Cartref', 'Peintio'r Byd Yn Wyrdd' a 'Pam Fod Eira Yn Wyn'. Mae nifer o'r caneuon yma, a rhai o'r cyfnod Welsh Teldisc, ar gael ar Y Dafydd Iwan Cynnar (Sain, 1998).

Ym 1972, ail-recordiodd nifer o'i hen ganeuon Welsh Teldisc yn Stiwdio Rockfield gyda Dave Edmunds, ar gyfer Yma Mae Nghân (Sain, 1972).

Mae rhai yn ystyried Mae'r Darnau Yn Disgyn I'w Lle (Sain, 1976) fel ei albwm cyntaf a chryfaf, oedd yn cynnwys y ffefryn 'Mae Rhywun Yn Y Carchar'. Mae'r LP ar gael yn ei chyfanrwydd ar Y Dafydd Iwan Cynnar.

Recordiwyd Bod Yn Rhydd (Sain, 1979) yn sgil methiant y refferendwm ar ddatganoli, ac mae'r cynnwys yn adlewyrchu hynny.

Mae Ar Dân (Sain, 1981) yn recordiad byw gyda Hefin Elis a Tudur Huws Jones, Rhwng Hwyl A Thaith (Sain, 1982) a Yma O Hyd (Sain, 1983) gydag Ar Log, sy'n cynnwys dwy o'i ganeuon mwyaf poblogaidd, "Yma o Hyd" a "Cerddwn Ymlaen".

Roedd Gwinllan A Roddwyd (Sain, 1986) yn deyrnged i Saunders Lewis, DJ Williams a Lewis Valentine, hanner can mlynedd ers llosgi Ysgol Fomio Penyberth.

Roedd rhaid aros pum mlynedd tan Dal i Gredu (Sain, 1991), oedd yn cynnwys 'Yr Anthem Geltaidd' a fabwysiadwyd ym 1990. Roedd Caneuon Gwerin (Sain, 1994) yn brosiect ar y cyd gyda Tudur Morgan a Cân Celt (Sain, 1995) yn gasgliad o ganeuon newydd a rhai oedd wedi eu recordio o'r newydd.

I ddathlu ei ymddeoliad o ganu yn gyhoeddus recordiwyd Yn Fyw Cyfrol 1 a 2 (2001 a 2002) yn fyw gyda’i fand. Yn 2007 rhyddhawyd Man Gwyn (Sain, 2007), sy'n cynnwys teyrnged i'w arwr Gwynfor Evans, 'Daeth Yr Awr, Daeth Y Dyn'.

Yma o Hyd

[golygu | golygu cod]

O bosib cân enwocaf Dafydd Iwan yw Yma o Hyd a gyfansoddwyd yn 1983 i ddathlu 1,600 mlwyddiant Macsen Wledig yn dod yn Ymeradwr Rhufain yn 383OC. Yn ôl cyfweliad gan Dafydd cyfansoddwyd y gân er mwyn codi hyder y Cymry yn dilyn methiant Refferendwm Datganoli 1979 a pholisïau economaidd Margaret Thatcher a welwyd cau llawer o weithfeydd diwydiant trwm Cymru. Mae'r gân wed dod yn boblogaidd ymhlith timau rygbi a phêl-droed, gyda tîm rygbi'r Scarlets yn ei chwarae ar ddechrau gemau. Caiff hefyd ei chanu gan ffans tîm pêl-droed Cymru a elwir Y Wal Goch. Ar gyfer gêm bwysig Cymru ar 24 Mawrth 2022 yn erbyn Awstria ar gyfer ennill lle yng Cwpan y Byd, 2022 yn Qatar canodd Dafydd y gân i'r dorf cyn y gêm. Cafwyd ymateb syfrdanol wrth i'r dorf gyd-ganu gan ennyn edmygedd a brwdfrydedd mawr iddo yntau ac i Cymdeithas Bêl-droed Cymru am drefnu iddo ganu.[6][7]

Casgliad

[golygu | golygu cod]

Rhyddhaodd gasgliad newydd o ganeuon yn 2009, Dos I Ganu. Sbardunwyd yr albwm, a'r gân-deitl, gan y faner a osodwyd ar bont yng Nghaernarfon adeg etholiad Mai 2008, yn dilyn helynt ad-drefnu ysgolion Gwynedd.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Mae'n briod â Bethan ac mae ganddynt ddau fab, Caio a Celt. Mae ganddo dri plentyn o briodas flaenorol, Llion, Elliw a Telor.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]

Fe'i urddwyd yn aelod anrhydeddus o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1971.

Ar 22 Gorffennaf 2022, fe'i wnaed yn Gymrodyr er Anrhydedd gan Brifysgol Caerdydd, mewn seremoni a ohiriwyd ers 2021.[8] Ar 11 Gorffennaf 2023, derbyniodd radd er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor am ei gyfraniad i'r Gymraeg, Diwylliant, Cerddoriaeth a'r Celfyddydau yng Nghymru.[9]

Albymau (mewn trefn gronolegol)

[golygu | golygu cod]
Dafydd Iwan yn perfformio.
Perfformio yn Aberdâr
  • Yma Mae 'Nghân (1972)
  • Mae'r Darnau yn Disgyn i'w Lle (1976)
  • Carlo a Chaneuon Eraill (1977)
  • 20 o Ganeuon Gorau
  • I'r Gad (1977)
  • Bod yn Rhydd (1979)
  • Ar Dan (Live) (1981)
  • Rhwng Hwyl a Thaith (gydag Ar Log) (1982)
  • Yma o Hyd (gydag Ar Log) (1983)
  • Gwinllan a Roddwyd (1986)
  • Dal I Gredu (1991)
  • Caneuon Gwerin (1994)
  • Cân Celt (1995)
  • Y Caneuon Cynnar (1998)
  • Yn Fyw Cyfrol 1 (2001)
  • Yn Fyw Cyfrol 2 (2002)
  • Goreuon Dafydd Iwan (2006)
  • Man Gwyn (2007)
  • Dos i Ganu (2009)
  • Cana Dy Gân Y Casgliad Cyflawn, 219 trac (2012)
  • Emynau (2015)
  • O’r Galon (2018)

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

E. Wyn James, 'Dafydd Iwan, Cymru a'r Byd': https://www.youtube.com/watch?v=SbFFiJji4Xs&t=34s

  • E. Wyn James (8:5, 2005). Painting the World Green: Dafydd Iwan and the Welsh Protest Ballad. Folk Music Journal, tud. 863-618. URL

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Dafydd Iwan - Manylion Personol.
  2. "Cofio Huw Ceredig", Golwg 360.
  3. "Painting the world green: Dafydd Iwan and the Welsh protest ballad (2005)". Prifysgol Caerdydd. Cyrchwyd 2024-04-29.
  4. "Jill Evans yn Llywydd newydd Plaid Cymru" Newyddion BBC Cymru, 08.06.2010.
  5. S4C: 100 yn gwrthod talu’r drwydded deledu Golwg360 10 Ionawr 2011
  6. "Yma o Hyd - Dafydd Iwan and The Red Wall". Sianel Youtube Cymddeithas Bêl-droed Cymru. 26 Mawrth 2022.
  7. "'Yma o Hyd': "Gobeithio fydd o'n ffordd reit dda o godi hwyl," medd Dafydd Iwan". Golwg360. 24 Mawrth 2022.
  8.  Cyhoeddi Cymrodyr er Anrhydedd ar gyfer y seremonïau graddio mwyaf erioed yn Mhrifysgol Caerdydd. Prifysgol Caerdydd (20 Gorffennaf 2022). Adalwyd ar 23 Gorffennaf 2022.
  9. "Dafydd Iwan yn derbyn Gradd er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor". newyddion.s4c.cymru. 2023-07-11. Cyrchwyd 2023-07-11.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
Ieuan Wyn Jones
Llywydd Plaid Cymru
20032010
(ers 2000, mae'r Llywydd yn rôl ar wahan i'r Arweinydd)
Olynydd:
Ieuan Wyn Jones
(Arweinydd)
Jillian Evans
(Llywydd)