Neidio i'r cynnwys

Daeargi Brasilaidd

Oddi ar Wicipedia
Daeargi Brasilaidd
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Mathci Edit this on Wikidata
Màs10 cilogram Edit this on Wikidata
GwladBrasil Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Daeargi sy'n tarddu o Frasil yw'r Daeargi Brasilaidd (Portiwgaleg: terrier brasileiro). Cafodd ei greu drwy groesi daeargwn Ewropeaidd â chŵn fferm lleol, ac mae'n perthyn yn agos i Ddaeargi Jack Russell. Defnyddir y Daeargi Brasilaidd i ddilyn trywydd a lladd cnofilod. Ci hynod o fywiog ac effro ydyw, ac os yw'n derbyn digon o hyfforddiant ac yn mynd am dro hir beunyddiol gall fod yn gi anwes addas i'r teulu ac yn warchotgi ffyddlon.[1]

Côt fer o flew gwyn gyda smotiau duon a phen melyn (brown) sydd gan y Daeargi Brasilaidd. Mae ganddo glustiau trionglog crog, gorff llydanfron, a chynffon gymharol fer. Mae ganddo daldra o 33–40 cm ac yn pwyso 7–10 kg. Mae'n byw am 12 i 14 mlynedd, fel rheol.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Kathryn Hennessy et al., The Dog Encyclopedia (Llundain: Dorling Kindersley, 2013), t. 210.