Neidio i'r cynnwys

Cymreigio

Oddi ar Wicipedia

Y broses o wneud rhywbeth yn Gymreig neu'n Gymraeg yw Cymreigio, yn enwedig o ran iaith.

Cofnodwyd y defnydd cyntaf o'r gair Cymreigio (G. Geiriadur Prifysgol Cymru) gan Thomas Baddy yn ei lyfr Pasc y Christion yn y flwyddyn 1703, er bod defnydd o'r gair tebyg cymreigu yn 1595 yn y llyfr Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr a gyfieithwyd o lyfr yn Lladin gan Morris Kyffin.[1]

Bellach mae'r gair Cymreigio'n cael ei ddefnyddio mewn sawl maes gan gynnwys ymgyrchu iaith[2], meddalwedd a'r we[3][4], mathau eraill o dechnoleg, a gwyddoniaeth.[5]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am Cymreigio
yn Wiciadur.