Cymdeithas Bêl-droed Montenegro
UEFA | |
---|---|
[[File:|150px|Association crest]] | |
Sefydlwyd | 1931 |
Aelod cywllt o FIFA | 2007 |
Aelod cywllt o UEFA | 2007 |
Llywydd | Dejan Savićević |
Gwefan | fscg.me/ |
Fudbalski savez Crne Gore, talfyrrir fel FSCG (yn yr wyddor Gyrilig: Фудбалски савез Црне Горе, ФСЦГ) yw enw swyddogol Cymdeithas Bêl-droed Montenegro. Dyma'r corff sy'n gyfrifol am bêl-droed domestig a tîm cenedlaethol dynion a thimau cenedlaethol eraill y wlad. Lleolir y pencadlys yn Podgorica, prifddinas y wlad.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y gymdeithas ar 8 Mawrth 1931 yn yr hen brifddinas, Cetinje, fel Cetinjski nogometni podsavez ("is-gymdeithas bêl-droed Cetinje"). Ef felly oedd is-sefydliad rhanbarthol o Gymdeithas Bêl-droed Iwgoslafia ac un o'r 11 gymdeithas ranbarthol yn y wladwriaeth newydd. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ffurfiodd y Gymdeithas ar 5 Awst 1945 dan ei henw presennol yn newydd. Roedd yn is-gymdeithas bellach o GCymdeithas Bêl-droed Iwgoslafia Gomiwnyddol, a ailenwyd ei hun yn 2003 yn ôl enw newydd Undeb Gwladol Serbia a Montenegro yn Fudbalski savez Srbije i Crne Gore ("Cymdeithas Bêl-droed Serbia a Montenegro").
Gydag ennill annibyniaeth lwyr i wladwriaeth Montenegro ar 3 Mehefin 2006, diddymwyd Cymdeithas Bêl-droed Serbia a Montenegro ar 28 Mehefin 2006[1] sefydlwyd yr FSCG ar 28 Mehefin 2006 fel sefydliad pêl-droed annibynnol y wlad gan ddechrau gwneud cais am gydnabyddiaeth swyddogol i ymuno ag UEFA yng Nghyngres y corff bêl-droed Ewropeaidd yn eu cyfarfod yn Düsseldorf[2] digwyddodd y derbyniad i FIFA ar 31 Mai 2007 yn eu Cyngres yn Zurich.
Ym mis Ionawr 2007, cyhoeddodd llywydd yr FSGC, Dejan Savićević, fod yr Gymdeithas wedi dewis lliwiau coch ac aur baner Montenegro ar gyfer gwisg y tîm cenedlaethol.[3] Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, cyhoeddwyd llogi Zoran Filipović fel hyfforddwr cyntaf y wlad.[4]
Roedd gêm ryngwladol swyddogol gyntaf y tîm cenedlaethol yn erbyn Hwngari ar 27 Mawrth 2007 - gêm gyfeillgar oedd hi. Chwaraewyd y gêm yn ninas fwyaf y wlad, Podgorica (Titograd gynt). Enillodd Montenegro 2:1.[5]
Trefniadaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r FSCG yn trefnu:
- Gemau rhyngwladol tîm cenedlaethol Montenegro gan gynnwys rhai'r timau cenedlaethol ieuenctid
- Gweithredu pencampwriaeth bêl-droed Montenegro, sy'n cael ei chwarae mewn dwy gynghrair gan gynnwys Uwch Gynghrair Montenegro gyda deuddeg tîm yr un hefyd y gystadleuaeth cwpan pêl-droed.
- Mae hefyd yn trefnu Cynghrair Merched Montenegra a Chwpanau Montenegro dynion a menywod, yn ogystal â thîm pêl-droed cenedlaethol Montenegro a thîm pêl-droed cenedlaethol dan-21 Montenegro.
- Hyd yn hyn, nid oes tîm cenedlaethol menywod.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "uefa.com- La FSSCG, disuelta en Belgrado". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-27. Cyrchwyd 2019-08-08.
- ↑ uefa.com - Montenegro, miembro de la UEFA (26 de enero de 2007)
- ↑ uefa.com - Estreno de Montenegro (16 de enero de 2007)[dolen farw]
- ↑ "uefa.com - Filipovic, nuevo seleccionador (2 de febrero de 2007)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-05. Cyrchwyd 2019-08-08.
- ↑ https://goal.blogs.nytimes.com/2010/10/09/hey-mirko-vucinic-show-us-your-underalls/?_php=true&_type=blogs&_r=0
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Swyddogol Archifwyd 2014-08-31 yn y Peiriant Wayback
- Gwybodaeth ar wefan FIFA Archifwyd 2010-03-27 yn y Peiriant Wayback
- Gwybodaeth ar wefan UEFA
|