Neidio i'r cynnwys

Cymdeithas Athletau Gwyddelig

Oddi ar Wicipedia
Cymdeithas Athletau Gwyddelig
Enghraifft o'r canlynolcorff llywodraethu chwaraeon rhyngwladol Edit this on Wikidata
Mathsport association Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1884 Edit this on Wikidata
Isgwmni/auGAA Handball Edit this on Wikidata
PencadlysParc Croke Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.gaa.ie/ Edit this on Wikidata

Mudiad chwaraeon amatur yn Iwerddon yw'r Gymdeithas Athletau Gwyddelig (Gwyddeleg: Cumann Lúthchleas Gael, Saesneg: Gaelic Athletic Association) sy'n hyrwyddo'r campau Gwyddelig traddodiadol yn bennaf, sef hyrli, camógaíocht (camogie), pêl-droed Wyddelig, pêl-law a rownderi.

Mae'r Gymdeithas hefyd yn hyrwyddo cerddoriaeth a dawns Gwyddelig, a'r Iaith Wyddeleg. Y Gymdeithas yw'r mudiad fwyaf yn Iwerddon, gyda thua 800,000 o aelodau. Sefydlwyd hi yn 1884 gan Michael Cuisac. Dywedodd mai pwrpas y corff oedd i "hyrwyddo mewn unrhyw ffordd pob math o gampau oedd yn unigryw Wyddelig". Cafodd gefnogaeth Maurice Daven ac Esgob Cashel, Dr Thomas Croke. Roedd ganddi yn y blynyddoedd cynnar, berthynas agos â'r Land League oedd yn ymladd dros hawliau ffermwyr tenant yn Iwerddon.[1]

Y Gymdeithas sy'n berchen ar faes chwaraeon Parc Croke a dyna ble lleolir eu pencadlys.

Yn y flwyddyn 2014 roedd gan y sefydliad dros 500,000 o aelodau ledled y byd,[2] a datganodd gyfanswm refeniw o €96.1 miliwn yn 2022.[3] Mae Pwyllgor Rheoli Cystadlaethau (CCC) cyrff llywodraethu Cymdeithas Athletau Gaeleg (GAA) yn trefnu rhestr gemau Gaeleg o fewn cynghorau sir neu dalaith GAA.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "A History Of The Gaelic Athletic Association (GAA) in Ireland, 1970". Howard Kinlay ar Sianel Youtube. 1970. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2024.
  2. "Membership". Gaelic Athletic Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 October 2015. Cyrchwyd 22 September 2015. Over 500,000 people were registered on the [membership] system in 2014
  3. Keys, Colm (2 February 2023). "GAA earn record revenue of €96.1m as gate receipts return to normal". Irish Independent (Newspaper). Dublin, Ireland. Cyrchwyd 27 May 2023.