Cylch Fionn
Y Celtiaid |
---|
Llwythau eraill |
Rhanbarthau hynafol |
Mytholeg Oidelig |
Ieithoedd Celtiaid |
Prif fudiadau gwleidyddol |
Casgliad o farddoniaeth a rhyddiaith sy'n ffurfio un o bedwar prif gylch mytholeg Iwerddon yw Cylch Fionn neu Cylch y Ffeniaid (Gwyddeleg: Fiannaidheacht). Mae'n canolbwyntio ar anturiaethau yr arwr Fionn mac Cumhaill a'i ryfelwyr, y Fianna Éireann. Y tri cylch arall yw Cylch Wlster, y Cylch Mytholegol a'r Cylch Hanesyddol. Gelwir y cylch yma weithiau yn Gylch Oisín, oherwydd fod y rhan fwyaf o'r farddoniaeth ynddo, yn ôl traddodiad, wedi ei gyfansoddi gan Oisín, mab Fionn.
Mae'r cylch hefyd yn cynnwys straeon am aelodau eraill o'r Fianna, megis Caílte, Diarmuid, Oscar, a gelyn Fionn, Goll mac Morna.
Ffurfiodd Cormac mac Art, Uchel Frenin Iwerddon, y Fianna er mwyn amddiffyn ei deyrnas. Yr arweinwyr ar y dechrau oedd Cumhal, aelod o Clan Bascna, a Goll o Clan Morna. Lleddir Cumhal gan y Morna, ac mae Muirne, ei wraig, yn ffoi, ac yn geni mab o'r enw Demna. Caiff Demna yr enw Fionn (yn cyfateb i "Gwyn" yn Gymraeg) oherwydd ei wallt golau. Pan ddaw i'w oed, mae'n mynd i ddial llofruddiaeth ei dad.
Wedi marwolaeth yr Uchel Frenin Cormac, mae ei fab Cairbre Lifechair yn dymuno dinistrio'r Fianna, felly mae'n codi byddin ac yn dechrau rhyfel trwy ladd gwas Fionn. Dim ond ugain o ryfelwyr sy'n fyw ar ôl y frwydr, yn cynnwys Oisín a Caílte.