Cyfeiriadedd rhywiol a gwasanaeth milwrol
Mae gan luoedd milwrol y byd amrywiaeth o agweddau tuag at hoywon, lesbiaid a deurywiolion. Mae rhai lluoedd milwrol Gorllewinol wedi diddymu polisïau sy'n gwahardd aelodau o leiafrifoedd rhywiol; o'r 25 gwlad sy'n cyfrannu'n filwrol yn NATO, caniateir mwy nag 20 i hoywon, lesbiaid a deurywiolion gwasanaethu; o aelodau arhosol Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, mae dau (y Deyrnas Unedig a Ffrainc) yn gwneud hynny. Nid yw'r tri arall yn gyffredinol yn dilyn yr agwedd hon: mae Tsieina yn gwahardd hoywon a lesbiaid yn llwyr, mae Rwsia yn gwahardd hoywon a lesbiaid yn ystod heddwch ond yn caniatáu rhai dynion hoyw i wasanaethu yn ystod amser rhyfel (gweler isod), ac mae'r Unol Daleithiau yn caniatáu i hoywon a lesbiaid wasanaethu, ond dim ond os ydynt yn cadw eu cyfeiriadedd rhywiol yn gyfrinachol.
Mae polisïau ac agweddau tuag at hoywon a lesbiaid yn y lluoedd milwrol yn amrywio'n eang yn rhyngwladol. Caniateir nifer o wledydd i bobl hoyw-agored gwasanaethu ac wedi rhoi iddynt yr un hawliau a breintiau sydd gan eu cymheiriaid heterorywiol. Nid yw nifer o wledydd yn gwahardd neu gefnogi aelodau hoyw a lesbiaidd i wasanaethu, a pharheir grŵp bach i wahardd personél cyfunrywiol yn llwyr.
Tra bo cyfunrywioldeb yn y lluoedd milwrol wedi bod yn bwnc gwleidyddol yn yr Unol Daleithiau, nid yw hyn yn y mater mewn nifer o wledydd. Yn gyffredinol, mae rhywioldeb yn y diwylliannau yma yn cael ei ystyried yn agwedd fwy bersonol o hunaniaeth unigolyn nag y ystyrir hi yn yr Unol Daleithiau.
Gwledydd sy'n gwahardd cyfunrywiolion agored o wasanaethu yn y lluoedd milwrol
[golygu | golygu cod]Gwledydd gyda pholisïau eraill
[golygu | golygu cod]- Yn Rwsia, caniateir rhai a honnir i gael "problemau hunaniaeth rywiol" yn ystod amser rhyfel yn unig. Caniateir "cyfunrywiolion sydd wedi ymaddasu'n dda" i wasanaethu mewn amser heddwch.
- Yn Nhwrci, mae'n rhaid i bob dinesydd gwrywol heterorywiol iach gwasanaethu yn y lluoedd milwrol am gyfnodau sy'n amrywio o dair wythnos i bymtheg mis, sy'n dibynnu ar ei addysg a lleoliad ei waith (mae gan gyfunrywiolion yr hawl i gael eu hesgusodi, os dymunant).[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) United Nations High Commissioner for Refugees (UNHCR), Directorate for Movements of Persons, Migration and Consular Affairs - Asylum and Migration Division (Gorffennaf 2001). Turkey/Military service (PDF). UNHCR. Adalwyd ar 7 Hydref, 2007.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) gbltq.com – Military Culture: European Archifwyd 2005-11-21 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Canolfan dros Astudiaeth Lleiafrifoedd Rhywiol yn y Lluoedd Milwrol (Prifysgol Califfornia, Santa Barbara) Archifwyd 2008-07-06 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Proud2Serve.net: gwybodaeth ac adnoddau ar agweddau Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig tuag at wrywgydiaeth Archifwyd 2010-11-25 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Adroddiad Human Rights Watch: Uniform Discrimination The Don't Ask, Don't Tell Policy of the U.S. Military Archifwyd 2019-04-30 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Survivor bashing - bias motivated hate crimes
- (Saesneg) Blue Alliance - Alumni LHDT Academi Awyrlu yr Unol Daleithiau[dolen farw]
- (Saesneg) Hanes gwahaniaethu yn erbyn hoywon a lesbiaid yn Lluoedd Milwrol CanadaArchifwyd 2012-02-05 yn y Peiriant Wayback