Current TV
Enghraifft o'r canlynol | rhwydwaith teledu |
---|---|
Daeth i ben | 2013 |
Dechrau/Sefydlu | 2005 |
Perchennog | Al Gore |
Pencadlys | San Francisco |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | http://www.current.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
Cwmni cyfryngau annibynnol yw Current TV, a arweinir gan y cyn-Is-arlywydd yr Unol Daleithiau Al Gore a'r dyn busnes Joel Hyatt. Dechreuodd ddarlledu ar deledu cable yn yr Unol Daleithiau ar 1 Awst, 2005. Ei gynulledifa dargedig yw pobl oed 18 i 34.
Ar 6 Hydref, 2006, cyhoeddwyd cytundeb gyda British Sky Broadcasting i greu fersiwn Prydeinig lleoledig o Current TV i'w ddarlledu ar ei systemau lloeren yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon. Dechreuodd ddarlledu ar 12 Mawrth, 2007.
Rhaglenni
[golygu | golygu cod]Mae cynnwys Current TV ar ffurf "pods", rhaglenni byrion rhwng tair a saith munud o hyd, fel arfer yn ddogfennol. Mae Current TV yn gweithio ar sail y syniad o viewer created content (cynnwys a greir gan wylwyr), neu VC2. Mae tua 30% o'r pods a ddarlledwyd yn cael eu cyfrannu gan wylwyr. Pob awr mae diweddariadau o ymchwiliadau gwe poblogaidd yn cael eu darparu a'u darlledu ar Current TV gan Google, mewn segment o'r enw Google Current.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol
- (Saesneg) Gwefan Prydeinig Archifwyd 2007-04-06 yn y Peiriant Wayback