Neidio i'r cynnwys

Cricieth

Oddi ar Wicipedia
Cricieth
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,736 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.917°N 4.2363°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000059 Edit this on Wikidata
Cod OSSH505385 Edit this on Wikidata
Cod postLL52 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Tref hanesyddol a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Cricieth (ffurf amgen, ansafonol: Criccieth).[1][2] Saif ar arfordir deheuol Eifionydd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

Saif amddiffynfa trawiadol Castell Cricieth fel cawr uwch y dref. Saif y dref 8km (5mill) i'r gorllewin o Borthmadog, 14 km (9mill) i'r dwyrain o Bwllheli a 27 km (17mill) i'r de o Gaernarfon. Roedd ganddi boblogaeth o tua 1,826 yn 2001.[5]

Enillodd y dref wobr Cymru yn ei Blodau yn 1999. Cynhelir cystadleuaeth Y Dyn Cryfa (am godi carreg fawr o flaen y Neuadd Goffa) bob blwyddyn ym mis Mehefin.[6]

Crug y caethion (crug caith) yw ystyr enw Cricieth yn ôl arbenigwyr enwau lleoedd; cyfeiria'r enw at garchar y castell yn ôl pob tebyg.[2] "Kruceith" yw'r sillafiad cynharaf ar gofnod.[7] Yn y 14g, mewn llythyr at Hywel y Fwyall, Ceidwad y Castell, "Cruciaith" oedd yr enw a ddefnyddiwyd.[8]

Cynhanes

[golygu | golygu cod]

Gwyddom fod yma bobl yn byw'n yr ardal yn yr Oes Efydd cynnar, fel y dengys siambr gladdu Cerrig Cae Dyni i'r dwyrain o'r dref. Ceir olion cwpannau Celtaidd, sef celfyddyd gynnar ar y saith carreg, sy'n beth hynod o anghyffredin.[9] Ganganorum Promontorium (Penrhyn y Gangani) oedd enw Ptolemi ar yr ardal; llwyth Celtaidd o Iwerddon oedd y Gangani.

Oes y Tywysogion

[golygu | golygu cod]

Codwyd y castell Cymreig hwn yn 1230 gan Lywelyn ab Iorwerth a reolodd yr ardal ers 1202; ond mae'r cofnodion ysgrifenedig yn nodi mai yn 1239 y'i codwyd, pan symudwyd pencadlys Eifionydd yma o Ddolbenmaen.

Tyfodd tref fechan wrth droed y Castell yn yr Oesoedd Canol.

Eisteddfod Genedlaethol

[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghricieth ym 1975, ble'r enillodd Gerallt Lloyd Owen y gadair am ei awdl "Yr Afon".

Y tywydd yng Nghricieth

[golygu | golygu cod]
Hinsawdd Cricieth
Mis Ion Chw Maw Ebr Mai Meh Gor Aws Med Hyd Tac Rha Blwyddyn
Tymheredd uchaf (cyfartalog) °C (°F) 8.0
(46.4)
8.0
(46.4)
9.0
(48.2)
11.0
(51.8)
14.0
(57.2)
17.0
(62.6)
18.0
(64.4)
19.0
(66.2)
17.0
(62.6)
14.0
(57.2)
11.0
(51.8)
9.0
(48.2)
12.92
(55.25)
Tymheredd isaf (cyfartalog) °C (°F) 3.0
(37.4)
3.0
(37.4)
4.0
(39.2)
5.0
(41.0)
8.0
(46.4)
10.0
(50.0)
12.0
(53.6)
12.0
(53.6)
11.0
(51.8)
9.0
(48.2)
6.0
(42.8)
4.0
(39.2)
7.25
(45.05)
dyddodiad mm (modfeddi) 83.8
(3.299)
55.9
(2.201)
66.0
(2.598)
53.3
(2.098)
48.3
(1.902)
53.3
(2.098)
53.3
(2.098)
73.7
(2.902)
73.7
(2.902)
91.4
(3.598)
99.1
(3.902)
94.0
(3.701)
845.8
(33.299)
Source: [10]

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[11][12][13]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cricieth (pob oed) (1,753)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cricieth) (1,101)
  
64.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cricieth) (1085)
  
61.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Cricieth) (372)
  
46.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%
Cricieth a'r traeth
Fin nos yng Nghricieth

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Comisiynydd y Gymraeg. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-03-30. Cyrchwyd 29 Awst 2022.
  2. 2.0 2.1 Owen, Hywel Wyn (2007). Dictionary of the place-names of Wales. Richard Morgan. Llandysul: Gwasg Gomer. ISBN 978-1-84323-901-7. OCLC 191731809.
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Cyfrifiad 2001". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-22. Cyrchwyd 2012-03-21.
  6. "Cricieth - Y Garreg Orchest". Casgliad y Werin Cymru. Cyrchwyd 29 Awst 2022.
  7. "Kruceith". Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Cyrchwyd 29 Awst 2022.
  8. Gwaith Iolo Goch, gol. D. R. Johnston (Gwasg Prifysgol Cymru, 1988), cerdd rhif II.37
  9. "Gwefan Clifton Antiquarian Club; adalwyd 22/03/2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-08. Cyrchwyd 2012-03-21.
  10. The Weather Channel : Criccieth Weather Adalwyd 2009-08-17
  11. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  12. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  13. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.