Creision
Enghraifft o'r canlynol | saig tatws |
---|---|
Math | bwyd, byrbryd, chip, junk food |
Deunydd | olew llysiau, Cyfwyd, halen, sbeis, potato |
Gwlad | Lloegr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae creision neu creision tatws neu crisps yn fyr-bryd boblogaidd iawn yn fyd-eang a cheir sawl gwahanol fath. Yn fras, mae'r creision yn dafellau tenau iawn o datws wedi eu ffrio ac yna ychwanegu â blasau gwahanol - halen a finegr, caws a winwns, tomato ac yn y blaen. Yn ogystal â chreision o datws, ceir bellach greision o lysiau eraill megis pannas, betys a thatws melys.
Yn Saesneg Unol Daleithiau America, defnyddir yr enw potato chips neu chips, ond crisps yw'r gair Saesneg yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon.
Dyfeisio
[golygu | golygu cod]Dyfeisiwyd y creision cyfoes ar hap wedi i gwsmer gwyno wrth George Crum mewn bwyty yn Saratoga Springs (Talaith Efrog Newydd) ar 24 Awst 1853 bod y creision oedd yn cael eu gweini yn rhy drwchus.[1] Aeth Cruma ati i'w tafellu'n deneuach, ond roedd y cleient yn parhau i'w gwrthod. Ar ôl sawl ymgais, torrodd Cruma rhai tatws tenau a ffrio mewn olew poeth iawn, gan ychwanegu llawer o halen ar y diwedd, yn benodol ar gyfer y cwsmer oedd yn hoff o fwyd hallt. Roedd y cwsmer mor hapus gyda'r tatws ar eu newydd wedd fel iddo hysbysu gweddill y bwyty gyda sawl un arall yn gofyn amdanynt, yr un pryd. O'r adeg honno daeth y bwyty'n enwog am y "Saratoga Chips", a sefydlodd y cogydd ei le ei hun, gan eu cynnig fel arbenigedd y tŷ.
Coginio creision gartref
[golygu | golygu cod]Fel arfer mae'r tatws yn cael eu tafellu ar ffurf disgiau, fel arfer gyda tafellydd, ac mae'r daten yn fflat neu'n donnog. Yna, mae angen eu rhoi mewn rhidyll fel gall dŵr basio drwyddo a chael gwared ar y startsh. Yna, rhaid sychu'r tatws gyda thywelion papur neu liain, er mwyn osgoi iddynt dasgu wrth ffrio. Wedi cynhesu'r olew rhoddir y tatws fesul un yn yr olew, nes eu bod yn melynu a chrimpio. Pan fyddant wedi'u gorffen, fe'u rhoddir ar bapur i amsugno'r olew, tra bont yn oeri.
Creision a Chymru
[golygu | golygu cod]Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Daw'r gair Cymraeg "creision" o'r gair "crasu", sef pobi neu dostio bwyd gan ddefnyddio tân neu wres uniongyrchol, uchel. Fel hyn, mae'r bwyd yn sychu ac yn crimpio. Ceir yr ymadrodd yn Chwedl Llyn y Fan, pan ddywed y ferch wrth y bugail, "Cras dy fara, nid hawdd fy nala!" Ceir y cofnod cynharaf o'r llusog 'creision' o 1335, llygat bugiliat bogelyn ystaen yn ystym creissyonyn.[2]
Nid yw'n glir pryd dechreuwyd arddel y gair "creision" yn ei gyd-destun ar gyfer "crisps". Yn ôl trafodaeth ar Twitter ar 14 Ionawr 2019 yn ymateb i ymholiad ar y pwng gan @MarchGlas, nododd un ymatebydd, Amelia Davies (@AmeliaAber), "O’dd criw Glanllyn yn dweud 'creision' nôl yn y 60au hwyr ac yn bendant yn y 70au cynnar. Yn absenoldeb awgrym arall, yr unigryw Gwilym Roberts weda’i."[3] Roedd Gwilym Roberts yn athro a thiwtor Cymraeg yng Nghaerdydd ers yr 1950au ac yn un o arloeswyr dysgu Cymraeg fel ail iaith ac yn weithgar gyda'r Urdd.[4]
Creision Cymreig
[golygu | golygu cod]- Creision 'Jones o Gymru' - Mae Creision Jones o Gymru wedi’u ffrio â llaw – mewn bagiau 40g a 150g. Mae'r blasau'n cynnwys Halen Môr Môn a Finag, Caws Aeddfed Cymreig a Nionyn, a Tsili'r Ddraig Goch. Cynhyrchir y creision ar Ynys Môn[5].
- Walker's Crisps - lleolwyd un o ffatrioedd cynhyrchu creision y cwmni arch-fawr, Walker's Crisps yn Abertawe. Yn Awst 2018 cyflwynwyd deiseb o dros 300,000 llofnod gan Geraint Ashcroft o Bontypridd yn galw ar y cwmni i fynd i'r afael â phecynnau creision plastig nad sy'n bioddiraddadwy.[6] Yn Hydref 2018 datgelodd Walker's gynlluniau ar gyfer ail-gylchu pecynnau creision.[7] Bu ffatri creision Walkers yn Abertawe am ddegawdau nes cau yn 2005.[8]
- Creision Blas Draenog - yn 1980 lansiwyd creision 'blâs draenog' gan Phillips Lewis o'r Trallwng. Roedd Lewis yn athro Ffrangeg, Clasuron a Cherddoriaeth yn Ysgol Uwchradd y Trallwng. Cynhyrchwyd y creision ar raddfa eang gan gwmni Bensons Crisps yn ne Cymru.[9]
- Ail-gylchu Pacedi Creision - yn ogystal â deiseb ar i Walker's Crisps ddatblygu pecyn sy'n gallu cael ei hail-gylchu, yn Ionawr 2019 dechreuodd Mair Davies, oedd yn rhedeg siop yn Llangollen ofyn i bob ddychwelyd eu pacedi ati hi yn y siop er mwyn ceisio eu hailgylchu. Ei gobaith oedd newid agweddau pobl y dref at ailgylchu.[10]
Grŵp pop 'Y Creision Hud'
[golygu | golygu cod]Roedd band pop Cymraeg o'r enw Creision Hud yn y 2000au.[11][12]
Proses cynhyrchu creision
[golygu | golygu cod]-
Creir y creision drwy dorri'r dysen (neu'r 'daten') gyda llafn fain
-
Creu stribedi hir a thennau
-
Ffrio'r stribedi mewn olew poeth
-
Ffrio am sawl munud
-
Y creision terfynol
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://www.theguardian.com/lifeandstyle/2010/sep/01/crisps-british
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC)]; adalwyd 14 Ionawr 2019.
- ↑ https://twitter.com/MarchGlas/status/1084799290646634497
- ↑ http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3195000/newsid_3198800/3198888.stm
- ↑ http://angleseylist.co.uk/jones-o-gymru/[dolen farw]
- ↑ https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-45639834
- ↑ https://ciwm-journal.co.uk/walkers-to-create-uks-first-nationwide-recycling-scheme-for-crisp-packets/[dolen farw]
- ↑ http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/south_west/4266736.stm
- ↑ https://www.shropshirestar.com/news/2017/02/28/hedgehog-crisps-welshpool-inventor-dies-aged-74/
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/47002497
- ↑ http://www.bbc.co.uk/cymru/cerddoriaeth/artistiaid/creision_hud.shtml
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=YvSPPDpXfl8